Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:44, 18 Ebrill 2018

Diolch yn fawr. Rydw i'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth yna. Yng nghyswllt y pwynt a wnaed yn araith y Prif Weinidog yn Rhydychen am greu Cymru fel y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop gyfan drwy ddeddfwriaeth, rydych yn gwybod, wrth gwrs, mai dyna beth oedd un o'r bwriadau y tu ôl i'r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac rydw i'n falch iawn fod yna ychydig o gynnydd rŵan yn digwydd yn sgil materion rydw i wedi eu codi yn y Siambr yma ynglŷn â gweithredu'r Ddeddf honno. Ond mae yna un prif wendid o hyd ynglŷn â'r Ddeddf, onid oes, sef y penodi addysg am berthynas iach? Ac er gwaethaf gwaith diweddar gan y grŵp gorchwyl a gorffen, mae'n edrych fel pe na baem ni'n dal i fod yn nes i'r lan efo hyn, felly. Nid oes dim sôn am beth sy'n mynd i ddigwydd o ran dysgu sylfeini perthynas iach a gosod trafodaeth ynglŷn â beth sy'n ymddygiad derbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol, ac yn y blaen. Felly, mi gollwyd cyfle efo'r Ddeddf. Gobeithio bod yna gyfle rŵan, ond nid wyf i'n gweld cynnydd ar hyn. Beth sydd yn dal pethau yn ôl efo hyn?