Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:45, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Felly, mae'r Aelod, yn briodol, yn nodi mater sydd wedi bod ar feddyliau llawer ohonom ers peth amser. Cyn bo hir bydd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad ar addysgu—ni allaf gofio'r union deitl—addysg rhyw a pherthnasoedd, i bob pwrpas. Mae'n bosibl nad dyna'r union deitl, maddeuwch i mi, ond dyna ydyw yn ei hanfod. Rydym wedi bod yn adeiladu ar y prosiectau llwyddiannus a gyflawnir gan Hafan Cymru mewn llawer o ysgolion yng Nghymru mewn perthynas ag addysg rhyw a pherthnasoedd iach. Cefais y fraint o fynychu sesiwn yn un o'n hysgolion cynradd yn y Cymoedd, ac roedd yn anhygoel. Roedd y gwahaniaeth yn y grŵp ar ddechrau'r sesiwn ac ar y diwedd, a'r fenyw ifanc a oedd yn ei addysgu, yn ysbrydoledig. Felly, rydym wedi bod yn edrych i weld a allwn adeiladu ar hynny. Ond bydd fy nghyd-Aelod—nid wyf am ddwyn ei chlodydd—Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud rhai cyhoeddiadau yn fuan iawn.