Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 18 Ebrill 2018.
Ie, rwy'n ymwybodol o'r agweddau hynny eisoes. Yn ddiweddar, mewn grŵp ffoaduriaid a cheiswyr lloches yr wyf, unwaith eto, yn gadeirydd arno, tynnwyd sylw at hyn a gofynnwyd i'r Swyddfa Gartref ynghylch canlyniadau anfwriadol rhai o'u polisïau, oherwydd mae rhai o'r pethau hyn yn digwydd oherwydd nad oes gan bobl hawl i arian cyhoeddus hyd nes bod ganddynt wahanol lefelau o statws. Yn anffodus, rydym yn ceisio ymestyn trafnidiaeth am ddim i'r holl geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, ond mae angen i ni fod yn siŵr na fydd hynny'n cael ei ychwanegu wedyn at y rhestr o gronfeydd cyhoeddus nad oes gennych hawl iddo cyn gynted ag y gwnawn y datganiad hwnnw. Rydym yn y broses o geisio datrys peth o gymhlethdodau hynny mewn gwirionedd, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r pethau hyn.
Yn fy etholaeth, mae gan nifer o'r bobl rwy'n gweithio gyda hwy broblem debyg iawn. Yn yr un modd, gyda'r gwaith gwirfoddol, rydym yn credu ei fod yn ganlyniad anfwriadol i'r amgylchedd gelyniaethus, a elwir bellach yn amgylchedd cydymffurfio, y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi ar waith, ond rydym yn credu ei fod, mewn gwirionedd, yn ganlyniad anfwriadol, felly rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i dynnu eu sylw at hynny a sicrhau bod y rheolau hynny'n cael eu newid.