2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am argaeledd derbyniad ffôn symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51977
Diolch am eich cwestiwn. Er nad oes gennym wybodaeth benodol am dderbyniad ffonau symudol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, rwy'n cydnabod bod yr ardal yn dioddef. Rydym wedi llwyddo i lobïo Ofcom i gynnwys rhwymedigaethau cysylltedd yn eu harwerthiant sbectrwm sydd ar y ffordd ar gyfer y band 700 MHz, a gobeithiwn y bydd hynny'n arwain at wella argaeledd gwasanaethau.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet—nid wyf yn siŵr beth yw hi pan fydd hi'n gwneud hyn, arweinydd y tŷ neu Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n Aelod o'r Cabinet, beth bynnag. Diolch am eich ateb. Rwy'n cael cryn drafferth deall sut y gallwn symud ymlaen mewn sawl rhan o'r Gymru wledig i'r dyfodol awtomataidd, y dyfodol roboteg rydym wedi bod yn sôn amdano ym mywyd cyhoeddus Cymru heddiw os nad oes gennym signal ffôn symudol hyfyw a dibynadwy. Ni allwch gael fferm awtomataidd, er enghraifft, os nad oes gennych hynny. Ni allwch gael ceir awtomataidd os nad oes gennych hynny. Ni allwn gael datblygiadau, hyd yn oed os cawn reilffordd newydd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, heb signal ffôn symudol dibynadwy ar gyfer peirianneg y trac a phopeth arall.
Rydych yn dweud na wyddoch beth yw ei argaeledd, ac rwy'n deall nad yw wedi'i ddatganoli, ond mae ffyrdd o lenwi'r bwlch. Mae gan Lywodraeth yr Alban raglen fewnlenwi 4G. Maent wedi ystyried newid rheoliadau cynllunio, a gwneud eu gorau glas gyda rhannu mastiau, gorfodi cwmnïau i weithio gyda'i gilydd, ac yn wir, peth buddsoddiad cyhoeddus gan y Llywodraeth er mwyn llenwi'r mannau gwan. A yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried, ac a allem weld rhaglen 4G/5G genedlaethol, yn debyg i'r rhaglen band eang rydych wedi'i rhoi ar waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf? Rwy'n siŵr fod eich bag post yn haeddu ychydig mwy o lythyrau ar y materion hyn hefyd.
Mae'r setliad datganoli yn gymhleth iawn yma ac mae'r ymylon yn anodd, ac felly mae beth yn union sydd wedi'i ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli yn destun sgwrs gyson rhyngom ni, Llywodraeth y DU, Ofcom a'r diwydiant o ran pwy sy'n gallu gwneud beth. Felly nid yw lawn mor syml â'r sefyllfa yn yr Alban, yn anffodus, a gresyn na fyddai mor syml â hynny. Mae rhai gwelliannau wedi bod. Nid wyf yn honni o gwbl fod pethau'n wych, ond cafwyd rhai gwelliannau o ganlyniad i'n sgyrsiau gydag Ofcom a'u pwysau ar y diwydiant. Ar hyn o bryd, mae gan oddeutu 90 y cant o safleoedd ledled Cymru signal ffonau symudol y tu allan. Rydym wedi gweld cynnydd o 33 pwynt canran mewn argaeledd 4G y tu allan rhwng 2015 a 2016, gan gyrraedd 53 y cant.
Dyfarnwyd trwydded arwerthiant diwethaf y sbectrwm 4G, y soniais amdani, i Telefónica O2, ac roedd yn cynnwys rhwymedigaeth i ddarparu cysylltedd i 95 y cant o boblogaeth Cymru fan lleiaf erbyn diwedd 2017, a bu'n rhaid inni ymladd yn gryf i sicrhau ei bod yn sicrhau hynny. Yn hwyr yn 2015, cyhoeddodd Ofcom fod ganddynt arwerthiant sbectrwm ar y ffordd yn y bandiau 2.3 GHz a 3.4 GHz. Mae hwnnw'n sbectrwm capasiti mawr iawn a bydd yn cael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti'r cysylltedd 4G presennol. Rydym yn pwyso ar Ofcom i gynnwys rhwymedigaeth cysylltedd daearyddol yn yr arwerthiant sydd ar y ffordd ar gyfer y sbectrwm 700 MHz, neu os nad yw'n ei gynnwys, i gynnwys rhwymedigaeth amser cyfyngedig i'w roi'n ôl i ni os na chaiff ei gyflawni. Rwyf wedi sôn yn y Siambr o'r blaen am effaith bancio tir yr arwerthiannau sbectrwm, a pha mor anodd yw hynny i ni.
Felly, rydym yn rhoi llawer o bwysau arnynt. Mae rhai pethau eraill yn digwydd. O ran cyflwyno system y Swyddfa Gartref, deallwn fod y ceisiadau cynllunio wedi cyrraedd yr awdurdodau lleol bellach ac yn mynd rhagddynt yn dda. Bydd hynny'n darparu gallu ychwanegol i ymdrin ag ef. Hefyd, wrth gwrs, y fasnachfraint reilffyrdd. Byddwn yn gosod rhwymedigaethau ar ddeiliad y fasnachfraint reilffyrdd i ledaenu signal ffonau symudol ar hyd y rhwydwaith hwnnw, ac rydym yn edrych hefyd ar ein rhwydwaith ffyrdd. Felly, rydym yn defnyddio'r setliad datganoli, fel y mae, hyd eithaf ein gallu ac yn rhoi llawer o bwysau ar Lywodraeth y DU ac Ofcom o ran y ffordd y mae'r diwydiant yn rhoi pethau ar waith. Rydym hefyd yn parhau i gynnal fforwm y cynllun gweithredu ar gysylltedd symudol, a gadeirir gennyf, ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn destun ymgynghori ar hyn o bryd ar leoliad a maint mastiau. Felly, ceir llawer o weithgarwch, ond rwy'n rhannu rwystredigaeth yr Aelod o ran yr arafwch a'r anawsterau.
Y peth olaf a ddywedaf yw ein bod wedi targedu pobl sydd wedi'u hallgáu o'r sbectrwm 4G yn ein prosiect band eang Cyflymu Cymru 2, er mwyn ceisio rhoi hwb iddynt mewn ffordd wahanol.
Arweinydd y tŷ, rwy'n gwerthfawrogi'r ateb a roddwyd gennych i Simon Thomas yn awr, ond wrth gwrs, y realiti yw bod ardaloedd helaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru lle nad oes gan bobl fynediad at fand eang na signal ffôn symudol. A bod yn deg, rwy'n llwyr gydnabod eich ymrwymiad i fynd i'r afael â hyn, a gwn eich bod wedi ymrwymo i gynorthwyo bron i 100, yn llythrennol mae'n debyg, o fy etholwyr i geisio datrys eu problemau.
Fodd bynnag, mae 90 y cant o gysylltedd ffôn symudol yn swnio'n wych, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu 90 y cant o un darparwr. Ac felly, weithiau, gallwch gael ychydig o signal gydag un darparwr, ond nid yw eich darparwr chi'n gweithio. Felly, er enghraifft, mae gennyf aelwyd lle—nid wyf yn gwybod a ddylwn enwi'r darparwyr—pe baent ar EE, gallant gael signal yn llythrennol wrth eu drws, ond dyna ni, ddim yn unman arall yn eu hardal. Felly, mewn gwirionedd, nid dyna'r darparwr gorau ar eu cyfer hwy. Tybed a allai ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen fod yn ffordd ymlaen, fel y gallant edrych yn benodol ar sut y gallwn roi darnau o'r holl fethodolegau cyfathrebu at ei gilydd fel jig-so mewn ardaloedd gwledig er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion wedi'u galluogi'n ddigidol yn y dyfodol, gan fod hynny'n hanfodol ar gyfer busnesau ac ar gyfer gwaith cartref, plant, pawb. Mae pob un ohonom angen ein ffics ddigidol.
Ie, dyna'n union y mae'r cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol yn ceisio'i wneud, dod â'r gweithredwyr at ei gilydd a sicrhau bod y jig-so'n ffitio, os mynnwch. Nid wyf yn dymuno gwneud hwn yn fater gwleidyddol, ond mae rhai pethau sylfaenol yn codi. Un o'r materion mawr yw trawsrwydweithio. Nid yw'r cwmnïau ffôn symudol yn hoff o'r syniad o drawsrwydweithio, ac mae Ofcom yn eu cefnogi ar hynny. Ac rydym yn deall yn iawn pam, yn fasnachol, nad ydynt yn awyddus i ganiatáu trawsrwydweithio mewn canolfannau poblogaeth mawr ac ati. Ond mewn ardaloedd gwledig, mae'n debyg mai dyna'r unig obaith gan nad ydych byth yn mynd i gael cysylltedd i bum rhwydwaith gwahanol ledled holl dir gwledig Cymru a mannau eraill yn y DU. Ac felly, rydym wedi bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar drawsrwydweithio y tu hwnt i'r cytrefi mawr, er enghraifft. A'r peth rhwystredig yw, os oes gennych SIM o'r tu allan i Brydain—os oes gennych SIM Ffrengig, bydd yn trawsrwydweithio'n ddigon diffwdan. Felly, bydd yn gweithio'n ddiffwdan gan fod yr UE yn gwneud trawsrwydweithio'n ofynnol. Yn yr un modd, os ewch â SIM o Brydain i Ewrop, mae'n trawsrwydweithio'n ddiffwdan. Felly, rydym yn pwysleisio hynny, a rhannaf rwystredigaeth yr Aelod yn ei gylch.
Bydd gennym gysylltedd daearyddol gan un darparwr—cysylltedd daearyddol o 98 y cant, dylwn ychwanegu; bydd 2 y cant heb gysylltedd o hyd—a fydd yn wych gan y gobeithiaf y bydd y trigolion yn siarad â'u traed ac yn newid i'r darparwr hwnnw. Ond nid yw hynny o gymorth i'r diwydiant twristiaeth. Ni allwch ddweud wrth eich twristiaid, 'Croeso i Gymru, os gwelwch yn dda, defnyddiwch y darparwr hwn neu fel arall ni allwch gael mynediad at unrhyw beth.' Mae hynny'n amlwg yn ddiwerth. Felly, rydym yn parhau i bwysleisio pa mor ddiwerth yw hynny i raddau helaeth ac i ddefnyddio ein rhwydweithiau cyhoeddus a'n seilwaith cyhoeddus i'w ymestyn cyn belled ag y gallwn. Mae yna broblemau, fel rwy'n dweud, gyda'r setliad datganoli mewn perthynas â hynny.