– Senedd Cymru am 3:45 pm ar 18 Ebrill 2018.
Y cynnig nesaf, felly, yw'r cynnig ar gyfer dadl frys, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, rwyf wedi derbyn cais gan Leanne Wood i wneud cynnig am ddadl frys, ac rydw i'n galw ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Diolch, Lywydd. Fore dydd Sadwrn, 14 Ebrill, ymunodd lluoedd y DU â byddinoedd yr Unol Daleithiau a Ffrainc i gyflawni cyrchoedd awyr yn erbyn targedau yn Syria. Cafodd safleoedd y credid eu bod yn gysylltiedig â chynhyrchu a storio arfau cemegol gerllaw Damascus a Homs eu taro mewn ymateb i ymosodiad cemegol honedig ar 7 Ebrill. Ni ymgynghorodd Llywodraeth y DU ag unrhyw un o Seneddau eraill y DU i geisio eu cymeradwyaeth i'r ymosodiad. Rwyf wedi cyflwyno cais am ddadl frys ar y mater hwn cyn gynted â phosibl. Lywydd, ni ellir gorbwysleisio brys a difrifoldeb y pwnc hwn, ac ni ellir ei grynhoi mewn araith fer fel hon. Fodd bynnag, mae fy nghais am ddadl yn seiliedig ar dair elfen allweddol.
Yn gyntaf, heb y mymryn lleiaf o gyfreithlondeb democrataidd, heb un bleidlais yn Senedd y DU, cymeradwyodd Llywodraeth y DU yr ymosodiad. Yn dilyn cyhoeddi manylion yr ymosodiad, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad yn dangos ei gefnogaeth iddo. Mae'n rhaid i'r ACau gael cyfle i graffu ar y Prif Weinidog mewn perthynas â'r datganiad hwn a'i resymau dros gefnogi'r ymosodiad. At hynny, mae'n rhaid i'r Aelodau gael cyfle i drafod rôl ein sefydliadau democrataidd yn cymeradwyo ymosodiad milwrol.
Yn ail, Lywydd, mae cyfran sylweddol o rengoedd milwrol y DU yn cynnwys menywod a dynion Cymru. Yn wir, rydym yn gwneud cyfraniad mwy na chyfran ein poblogaeth. Felly, nid yw ond yn iawn i'r Cynulliad hwn gael cyfle i drafod goblygiadau posibl y penderfyniad hwn, ac unrhyw ymosodiad milwrol dilynol, i aelodau o'r lluoedd arfog o Gymru ac yng Nghymru.
Yn olaf, Lywydd, mae'r gwrthdaro yn Syria eisoes wedi arwain at ddadleoli degau o filoedd o bobl. Rwy'n falch fod Cymru wedi cynnig diogelwch a lloches i rai o'r bobl hyn. Mae'r ffaith bod y rhyfel cartref yn Syria yn dwysáu yn debygol o orfodi mwy o bobl i ffoi o'u cartrefi a'r ardal. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon flaenoriaethu ymdrechion i sicrhau bod Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu ac i ddarparu ar gyfer y bobl hyn sydd mewn angen dybryd. Gwaith y Cynulliad hwn yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn fodlon ac yn barod i gynorthwyo'r ffoaduriaid a greodd y gwrthdaro hwn.
Lywydd, mae yna lawer mwy o resymau cymhellol pam y mae'n rhaid i ni drafod y mater hwn, boed yn ymwneud â diffyg democratiaeth y penderfyniad i ymosod, datganiad y Prif Weinidog, yr effaith ar filwyr Cymru, y gost, nad yw'n ymddangos ei bod yn cael ei chwestiynu'n aml, er gwaethaf cyni, neu, yn syml, ein dyngarwch fel cenedl. Buaswn yn annog pob un ohonoch i gefnogi'r cais a rhoi cyfle i ni drafod y mater difrifol hwn.
Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb ar ran y Llywodraeth. Julie James.
Diolch, Lywydd. Mae materion rhyngwladol a phenderfyniadau ynglŷn ag a ddylid rhoi camau milwrol ar waith yn erbyn cenedl sofran arall yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli, ac o ganlyniad, maent fel arfer yn cael eu trafod yn nau Dŷ'r Senedd yn hytrach nag yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae trafod cyrchoedd awyr y DU yn Syria yn y Siambr hon yn bygwth pylu'r ffin rhwng yr hyn a drafodir yn y Cynulliad Cenedlaethol a'r hyn a drafodir yn y Senedd. Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau gan arweinydd Plaid Cymru ddoe ynglŷn â'r ymyrraeth filwrol yn Syria; roedd yna gwestiynau hefyd yn ystod y datganiad busnes.
Mae gan bawb ohonom ein safbwyntiau personol am rinweddau a gwendidau penderfyniad Llywodraeth y DU i lansio ymosodiad cosbol ar y cyd ochr yn ochr â'r Unol Daleithiau a Ffrainc yn erbyn y gyfundrefn yn Syria dros y penwythnos. Fel pleidiau gwleidyddol, y fforwm ar gyfer lleisio'r safbwyntiau hyn yw dau Dŷ'r Senedd. Cafwyd naw awr o ddadlau yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon, ac roedd llawer o'n cydweithwyr yn cymryd rhan. Am y rhesymau hyn, bydd y Llywodraeth yn ymatal yn y bleidlais ar y cais am ddadl frys ar gyrchoedd awyr y DU yn Syria, a bydd gan Aelodau Cynulliad Llafur y meinciau cefn bleidlais rydd.
Y cwesitwn yw: a ddylid derbyn y cynnig am ddadl frys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oni bai, felly, fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r bleidlais ar y cynnig. Galwaf felly am bleidlais ar y cynnig am ddadl frys. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 15 yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
Gan fod y Cynulliad wedi penderfynu ystyried y mater yma, yn unol â Rheol Sefydlog 12.70, rwyf wedi penderfynu y bydd y ddadl yn cael ei chynnal fel yr eitem olaf o fusnes cyn y cyfnod pleidleisio heddiw.