3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
1. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran dileu eitemau plastig untro o ystâd y Cynulliad? OAQ51992
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau gwastraff plastig untro ar yr ystâd. Rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i leihau'r swm o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi i sero erbyn 2018. Ym mis Ionawr, gwnaethom ymrwymiad i ddefnyddio dewisiadau amgen yn lle plastig untro, lle bo'n bosibl, o fewn chwe mis. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd gyda hyn, gan gynnwys dileu cynwysyddion dresin salad unigol, a chyn hir, byddwn yn newid i ddefnyddio cyllyll a ffyrc y gellir eu compostio ar gyfer bwyd tecawê. Mae amrywiaeth o opsiynau eraill yn cael eu harchwilio.
Diolch i'r Comisiynydd am yr ateb hwnnw, ac rwy'n falch fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud. Sylwaf eich bod wedi sôn am gyllyll a ffyrc plastig untro, felly bydd hwnnw'n gam da, ond hefyd beth am y cwpanau plastig ar gyfer yfed dŵr, nad ydym wedi rhoi unrhyw gamau ar waith i'w dileu eto? Potiau salad, a'r caeadau plastig ar gyfer cwpanau coffi tecawê—mae llawer o'r eitemau hyn yn parhau i gael eu defnyddio yn y ffreutur, a gwn fod gennych gynllun. Credaf eich bod wedi cyhoeddi'r cynllun hwnnw ym mis Ionawr, felly rwy'n ceisio eich annog i fwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw, i wneud cynnydd, a phryd y byddwch yn mynd i'r afael â'r eitemau rwyf wedi sôn amdanynt?
Diolch i'r Aelod eto, a hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar un neu ddau o bethau. Rydym bellach wedi cael gwared ar gwpanau coffi untro, ac rydym yn defnyddio cynwysyddion diodydd alwminiwm yn awr. Mae'r hidlyddion dŵr o gwmpas yr ystâd yn lleihau'r defnydd o boteli dŵr—poteli plastig. Mae prydau poeth ac oer mewn cynwysyddion y gellir eu compostio bellach. Mae nifer helaeth o arwyddion ailgylchu deunyddiau ar draws yr ystâd. Cafodd gwellt plastig sylw y tro diwethaf hefyd—y defnydd o wellt plastig—ac er nad ydynt wedi cael eu defnyddio'n aml iawn, roeddent yn cael eu defnyddio, ac rydym bellach wedi newid i ddefnyddio gwellt papur, felly hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar hynny. O ran dod o hyd i ddewis amgen yn lle cwpanau plastig ar gyfer y ffynhonnau dŵr—rydym yn chwilio am ddewis amgen ar gyfer y rheini, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar sut rydym yn bwrw ymlaen â hynny cyn bo hir. Rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau nad oes unrhyw wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Felly, dyna'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf i chi.
Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd hyd yn hyn, ac mae yna rywfaint o newyddion calonogol mewn perthynas â'r ymdrechion i leihau'r defnydd o blastig untro yn y Cynulliad. Roeddwn eisiau gofyn pa gamau pellach y gellir eu cymryd fel prynwr mawr yng Nghaerdydd a de Cymru, ac fel arweinydd yn hyn o beth. A yw'r Comisiwn yn siarad â'i gyflenwyr? Oherwydd, yn ogystal â'r plastig untro rydym yn ei ddefnyddio, y gadwyn gyflenwi sy'n darparu'r bwyd a phopeth arall a ddefnyddiwn yn y lle hwn sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o blastig. Mae pawb yn ceisio lleihau hyn, ac o bosibl, yn ceisio ei ddileu'n llwyr dros gyfnod o amser. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut rydych yn defnyddio eich pŵer prynu i ddylanwadu ar gyflenwyr yn ogystal?
Wel, yn amlwg, Simon, mae gennym rywfaint o stoc y mae'n rhaid i ni ei ddefnyddio. Ni fyddai'n ymarferol i daflu stoc, felly rydym yn lleihau ein stoc ar hyn o bryd, ac rydym bob amser yn edrych ar gyflenwyr amgen sy'n cynhyrchu'n union beth rydym ei eisiau i leihau ein hôl troed carbon yma, ac i leihau'r plastig rydym yn ei ddefnyddio. Felly, byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi mewn perthynas â'r cwestiwn hwnnw, a gallaf eich sicrhau ein bod yn edrych ar yr holl gyflenwyr i edrych ar y ffordd orau o ateb y cwestiwn rydych newydd ei ofyn.
Diolch. Bydd cwestiwn 2 yn cael ei ateb gan y Llywydd. Mandy Jones.