Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 18 Ebrill 2018.
Er nad oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i enwi'r bont ar ôl Tywysog Cymru, sydd â chysylltiadau Cymreig hysbys—bu ef a minnau yn cydfyw unwaith mewn rhyw ffordd fel preswylwyr yn Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth pan oeddem yn fyfyrwyr yn ôl yn 1969—rwy'n cytuno gyda Russell George fod angen inni hysbysebu rhan Cymru yn y Deyrnas Unedig yn cael ein rheoli gan frenhiniaeth hynafol.
Ond mae gennym ail bont, wrth gwrs, i'w henwi ar draws afon Hafren, ac oni fyddai'n syniad da, felly, inni gydnabod y traddodiad arall, sy'n eistedd ar fy ochr chwith yma yn y Cynulliad hwn? Efallai y gellid enwi honno ar ôl Owain Glyndŵr neu Lywelyn Ein Llyw Olaf.