Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 18 Ebrill 2018.
Gallai hynny fod, ac unwaith eto, mae llawer iawn o bontydd o amgylch Cymru yn dal heb eu henwi. O ran rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i leoedd, cymunedau, a gwella ansawdd lle, ni welaf unrhyw reswm pam na ellid enwi rhagor o bontydd ar ôl unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'n gorffennol, ac yn wir, i'n presennol. Buaswn yn croesawu enwi ein pontydd ar ôl unigolion o Gymru, ac yn wir, unigolion o dramor.
Mae yna nifer enfawr o bobl sydd naill ai wedi eu geni dramor neu sy'n byw dramor ar hyn o bryd, neu sydd wedi byw dramor, sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i Gymru. Ni welaf unrhyw reswm pam na ellid enwi mwy o asedau i'w hanrhydeddu.