Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 18 Ebrill 2018.
Fodd bynnag, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall cyd-destun ehangach hyn? Mae'n Ysgrifennydd Gwladol sydd mewn gwirionedd yn gweld de-ddwyrain Cymru fel maestref i Fryste, sydd eisiau—ynghyd â'i gyfaill a'i gydweithiwr—ailgategoreiddio Cymru fel tywysogaeth. Mae'n rhan o ymgais fwriadol i ailintegreiddio Cymru mewn rhyw fath o gysyniad hiraethus o Brydain nad yw erioed wedi bodoli yn ôl pob tebyg; ymdrech i ailgoloneiddio yw hi. Dyna pam y mae wedi taro nerf oherwydd nid yw mewn gwirionedd yn cyd-fynd â'r syniad o Gymru fel y mae heddiw, heb sôn am y Gymru rydym am ei hadeiladu yn y dyfodol. Gallwn weld mai 15 parti stryd yn unig a gynhelir ledled Cymru gyda'r briodas frenhinol. Roedd 15 parti stryd yn fy mhentref i 40 mlynedd yn ôl. Mae Cymru wedi symud ymlaen, ac mae enwi pethau—. Mae symbolau'n bwysig oherwydd maent yn dweud rhywbeth am y genedl ydym ni, a dyna pam y mae hyn wedi corddi'r bobl. A gaf fi ofyn i Lywodraeth Cymru—rydych yno i gynrychioli pobl Cymru—oni wnewch chi ofyn i Lywodraeth y DU feddwl eto?