7. Dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 4:33, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor materion allanol am eu gwaith ar yr adroddiad hwn a hoffwn hefyd ddiolch i Steffan Lewis, nad yw'n gallu bod yma i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ond sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith y pwyllgor a bydd yn parhau i wneud hynny pan fydd yn gallu ymuno â hwy eto yn y dyfodol. Efallai nad oedd Brexit yn bolisi a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, ond bydd goblygiadau sylweddol yn deillio o weithredu canlyniad refferendwm yr UE i ddyfodol ein cenedl. Ein heconomi, ein hamgylchedd, ein gwasanaethau cyhoeddus—ychydig iawn a fydd heb ei effeithio gan delerau'r cytundeb gwahanu rhwng y DU a'r UE. Mae'r ansicrwydd y mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw ato y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n creu her go iawn i barodrwydd y Llywodraeth, busnes a'r sector cyhoeddus fod ein dyfodol yng Nghymru yn nwylo negodwyr o'r DU a'r UE ac yn dibynnu i'r fath raddau ar siâp y fargen derfynol.

Mae'r adroddiad hwn yn datgelu nifer o fylchau sy'n peri pryder yn y gwaith sy'n cael ei wneud i gael Cymru'n barod ar gyfer y nifer o ganlyniadau terfynol posibl a fydd yn deillio o'r negodiadau Brexit. Mae'n hanfodol fod craffu priodol yn digwydd ar waith paratoi Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit. Mae angen inni weld gwell cyfathrebu ac arweinyddiaeth fel y gall Cymru fod yn barod ar gyfer Brexit mewn pryd ar gyfer gwahanu oddi wrth yr UE. Mae amharodrwydd Llywodraeth Cymru i hyd yn oed ystyried y camau angenrheidiol ar gyfer paratoi ar gyfer senario Brexit 'dim bargen' yn peri pryder mawr. Rwy'n derbyn y byddai 'dim bargen' Brexit yn drychinebus. Pan wnaeth Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi ymchwil ar Brexit 'dim bargen', ni allent weld unrhyw fantais bosibl. Gallem weld silffoedd gwag mewn uwchfarchnadoedd a chynnydd o 20 y cant ym mhrisiau bwyd, gallai teithiau hedfan i Ewrop gael eu canslo ar y diwrnod ymadael, a gallem weld milltiroedd o dagfeydd yn ein porthladdoedd. Mae'n dra esgeulus ar ran y Torïaid i chwarae gyda dyfodol economaidd y DU drwy ystyried Brexit 'dim bargen' fel opsiwn. Rwy'n deall mai'r syniad yw y byddai Brexit 'dim bargen' yn llanastr a wnaed gan y Torïaid ac mai cyfrifoldeb y Torïaid yn San Steffan fyddai ei glirio, ond lle yr effeithir ar feysydd cymhwysedd datganoledig, bydd cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud beth bynnag sy'n bosibl i liniaru'r effeithiau. Rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer unrhyw bosibilrwydd, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gynllunio ar gyfer y canlyniad hwn sydd bron y tu hwnt i amgyffred.

I sefydliadau unigol, y mae llawer ohonynt eisoes yn teimlo dan bwysau, nid oes ganddynt gapasiti i feddwl am Brexit pan fo cymaint o waith o ddydd i ddydd i'w wneud. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw darparu'r canllawiau a sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cyrraedd y bobl iawn, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n frawychus fod yr adroddiad hwn yn canfod bod nifer o sectorau yn teimlo eu bod yn brin o'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi'n ddigonol. Gwyddom y gallai goblygiadau Brexit i'n gwasanaethau cyhoeddus fod yn enfawr. Bydd colled o £680 miliwn o arian Ewropeaidd bob blwyddyn, heb unrhyw sicrwydd gwirioneddol eto gan Lywodraeth y DU y byddwn yn cael cyllid yn ei le.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y felin drafod Global Future yn awgrymu y byddai cytundeb terfynol yn unol â'r fargen benodol a ddymuna Llywodraeth y DU yn torri £615 miliwn yr wythnos oddi ar y swm o arian a fyddai ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y DU—sy'n cyfateb i 22 y cant o'r hyn a werir ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, rydym yn gwybod y gallai ein mynediad at feddyginiaethau ac ymchwil feddygol gael eu amharu. Cafodd apêl Theresa May i gael parhau'n aelod cysylltiol o Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ar ôl Brexit ei gwrthod gan y Comisiwn oherwydd ei bod hefyd am adael y farchnad sengl. Gallai cleifion Cymru gael eu hamddifadu o driniaethau sydd eu hangen arnynt a'r ymchwil fwyaf arloesol. Mae Canada yn aml yn cael cyffuriau newydd chwech i 12 mis ar ôl yr UE. Os mai bargen debyg fydd gan y DU, a fyddwn ninnau yn yr un cwch?

Ni allwn fod yn hunanfodlon ynglŷn â maint yr her a allai ein hwynebu, ond mae'r ansicrwydd parhaus a wynebwn ynghylch canlyniad y negodiadau Brexit yn gwneud unrhyw waith paratoi yn anodd iawn. Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad gwerthfawr i'r drafodaeth ynglŷn â sut y gall Cymru ddechrau paratoi ar gyfer effaith bosibl Brexit, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar ei argymhellion.