Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i aelodau gweithgar iawn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Rwyf am ddiolch yn gyntaf am eu hadroddiad ac yn ail am y cyfle a gynigiwyd i mi a'r Prif Weinidog i roi tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad y pwyllgor i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit.