– Senedd Cymru am 5:38 pm ar 24 Ebrill 2018.
Y grŵp nesaf yw grŵp 5, y grŵp olaf, ac y mae’r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â’r pwerau i wneud rheoliadau. Gwelliant 14 yw’r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i’n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac i siarad i’r gwelliant yna ac i’r gwelliannau eraill yn y grŵp. David Melding.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig felly. Gwelliannau i egluro bod y pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil hwn er mwyn gwneud gwelliannau canlyniadol yn unig yw gwelliannau 14, 15, 16 a 17, yn grŵp 5. Mae gwelliant 18 yn welliant pellach i sicrhau y bydd y pwerau gwneud rheoliadau yn dod i ben pan fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cadarnhau bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi'u hailddosbarthu.
Mae nodyn esboniadol y Bil yn datgan bod adran 18 yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru wneud gwelliannau canlyniadol er mwyn i unrhyw ddarpariaethau a nodir yn y Bil gael effaith lawn. Mae adran 18(1) o'r Bil yn cynnwys pŵer Harri'r VIII, pryd y defnyddir rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol, ac yn dweud y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth o'r fath, diwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad y maen nhw'n ei ystyried fel bod yn briodol o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Bil, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Bil. Mae adran 18(4) yn dweud, lle gwneir rheoliadau o dan adran 18(1), sy'n diwygio neu'n diddymu Deddf neu Fesur y Cynulliad neu Ddeddf Senedd y DU—hynny yw, wrth arfer pŵer Harri'r VIII—byddai'r pŵer o dan adran 18(1) yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Dywed adran 18(5), os gwneir unrhyw reoliadau eraill o dan adran 18(1) y byddant yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol.
Yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fe wnaethom ni ofyn pam nad yw'r weithdrefn gadarnhaol yn berthnasol i'r holl reoliadau a wneir o dan adran 18, ni waeth pa un a ydynt yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ai peidio, a dywedodd y Gweinidog wrthym fod yr adran hon yn darparu'r pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol yn unig, a bod y dull a ddefnyddir yn unol â chanllawiau'r Cwnsler Cyffredinol. Mae hon yn ddadl arall rhwng y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa. Er fy mod i'n parchu'r Cwnsler Cyffredinol a deiliaid blaenorol yr adroddiad hwnnw, ac yn parchu, yn wir, i ryw raddau eu canllawiau, dylai'n huchelgais ni fod yr hyn yr ydym ni'n ei ddymuno a beth mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi'i nodi fel arfer orau. Yn wir, yn y sector mynegwyd rhywfaint o bryder ynghylch dull y Llywodraeth o weithredu. Cyfeiriaf eto at Gyllid y DU, a oedd yn pryderu bod y pŵer arfaethedig yn adran 18 yn rhy eang. Efallai eu bod wedi newid eu meddwl oherwydd anogaeth Llywodraeth Cymru, ond dyna'r hyn a ddywedwyd ganddynt yn wreiddiol, ac fe wnaethant y pwynt, fel y gwnes i yn gynharach, nad dim ond sut byddai pobl â gwybodaeth eang am y sector yn ei ddehongli, ond y cylch ehangach o gyllidwyr a allai weld hyn fel pŵer sy'n rhy eang ac yn rhy ymyrgar, ac o bosibl nid mor drwyadl, felly, â dull o weithredu mwy cyfyng.
Mewn ymateb i'r gwelliant hwn yng Nghyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog yn gyntaf y byddai'n ddefnyddiol i ddiwygio pennawd adran 18 i ddangos yn fwy eglur cwmpas mwy cyfyng y pŵer. Fodd bynnag, mewn gwirionedd nid yw hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl, gan fod penawdau mewn deddfwriaeth ar gyfer arweiniad yn unig. Yr hyn sydd ei angen yma yw gwelliant sydd yn llawer mwy cyfyng, ac sy'n ymdrin â phryderon ynglŷn â pha mor eang yw'r pwerau cyfredol. Mae'r gwelliant a gynigiais yn cyfyngu ar gwmpas y pŵer gan ddefnyddio geiriad Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018. Mae'n rhaid imi ddweud, nad wyf yn gefnogwr mawr o'r Ddeddf honno, ond o ran y ffordd y mae hi wedi ymdrin â phwerau rheoleiddio, mae'n fodel gwell na'r un y mae'r Gweinidog yn ei gynnig. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod hi'n fater o bryder bod unrhyw bwerau Harri'r VIII yn y Bil o ystyried natur anarferol y Bil hwn, a'i fod hefyd yn ymateb i fater penodol iawn o ran ailddosbarthu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Felly, mae gwelliant 18 yn y grŵp hwn yn benodol yn lleddfu'r pryderon hyn fod y pwerau hyn yn rhy ben-agored drwy eu cyfyngu neu eu diddymu ar ôl i ailasesiad gael ei gadarnhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Credaf felly, ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar bwerau gwneud rheoliadau—does dim llawer ohonynt yn y Bil hwn, mae'n rhaid dweud—a sicrhau bod y system orau ar gael inni. Ni ddylem ganiatáu, drwy'r llwybr penodol hwn, mwy o gwmpas nag sy'n gwbl angenrheidiol, oherwydd nid yw'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gredu sy'n ganlyniadol ac yn angenrheidiol bob amser yn cyfateb i'r hyn yr ydym ni'n ei gredu sy'n ganlyniadol ac angenrheidiol, ac felly mae'n rhaid i bwerau mwy cyfyng, o ystyried gallu'r weithrediaeth i ddeall ei fusnes, gael eu cyfiawnhau yn y fan yma pan yr ydym ni'n ymdrin â gwir egwyddor sylfaenol y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n cynnig felly.
Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Cyfeiriodd David Melding at rai o'r pryderon cynnar a godwyd yng nghyswllt pŵer gwneud gwelliannau, ac roedd yn ymddangos bod y pryder a godwyd gan y rhanddeiliaid yn y cyfnod cynnar yn deillio o gamddealltwriaeth ynglŷn ag union gwmpas pŵer adran 18 y Bil a'r pryder y gallai'r cyllidwyr, nad ydynt efallai'n gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth, weld gallu penagored Gweinidogion i newid swyddogaethau'r rheoleiddiwr yn peri risg o ansicrwydd dros gyfnod amhenodol. Nodwyd hyn yn y dystiolaeth ysgrifenedig honno gan Gyllid y DU.
Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau nad yw adran 18 yn rhoi gallu penagored i Weinidogion Cymru newid swyddogaethau'r rheoleiddiwr. Pŵer cyfyng yw adran 18 sydd wedi ei gyfyngu i wneud newidiadau i ddeddfwriaethau eraill, newidiadau sydd eu hangen i wneud y ddeddfwriaeth hon weithredu'n iawn, yn sgil y newidiadau penodol a wneir ar wyneb y Bil. Felly, byddai unrhyw newidiadau a wneir gan ddefnyddio'r pŵer yn adran 18 yn gorfod bod yn gysylltiedig â'r newidiadau a wneir gan y Bil. Felly, gellir gweld enghraifft o'r math o ddiwygio canlyniadol yr ydym yn ei drafod yn y rheolau cofrestru tir. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys ffurflen cyfyngiad sy'n cyfeirio at y caniatâd i gael gwared ar dir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac rydym ni'n cael gwared ar hon. Bydd angen diweddaru'r ffurflen hon i adlewyrchu'r ffaith na fydd hi'n ofynnol bellach i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael caniatâd. Dyma'r math o ddiwygiadau canlyniadol y mae angen eu gwneud i sicrhau bod darpariaethau sylweddol y Bil yn gweithredu'n effeithiol.
Cynhaliwyd trafodaethau gyda Chyllid y DU yn dilyn eu tystiolaeth ysgrifenedig gychwynnol i drafod gwir gwmpas y pŵer y cyfeiriais ato yn gynharach. Yn dilyn y trafodaethau hynny, cadarnhaodd Cyllid y DU wrth fy swyddogion eu bod yn fodlon â chwmpas y pŵer. Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld fod teitl adran 18 wedi ei newid i wneud y cwmpas cyfyng hwnnw yn fwy eglur yn y Bil.
Ceir rhai anawsterau ymarferol yn sgil y diwygiadau arfaethedig. Effaith gwelliannau 14 i 17 yw na ellid gwneud unrhyw welliannau i ddeddfwriaethau eraill ar unrhyw adeg. Byddai hyn yn golygu, pe gwelwyd bod angen diwygio deddfwriaeth arall i wneud iddi weithredu'n iawn, na fyddai'n hawdd iawn cyflawni hyn, ac o ganlyniad byddai'n llesteirio'r Bil hwn rhag cael ei weithredu'n effeithiol.
Gan droi at welliant 18, effaith hwn yw y bydd pŵer y diwygiad canlyniadol yn adran 18 y Bil yn dod i ben cyn gynted ag y bydd Gweinidogion Cymru yn cael cadarnhad bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi'u hailddosbarthu. Ond, rwy'n pwysleisio eto nad pŵer i wneud diwygiadau er mwyn ailddosbarthu yw hwn. Mae'n rhaid iddi fod yn bosibl i'r pŵer cyfyng a roddwyd gan adran 18 gael ei ddefnyddio y tu hwnt i'r penderfyniad ailddosbarthu, a ddisgwylir yn fuan ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, oherwydd erbyn yr adeg honno, efallai na chafwyd digon o amser i wneud y rheoliadau. Mae'n bosibl hefyd y bydd angen diwygio Deddfau eraill a wnaed neu a gafodd eu rhoi ar waith ar ôl y dyddiad ailddosbarthu. Mae Cyllid y DU hefyd wedi cadarnhau wrth fy swyddogion eu bod yn fodlon nad oes unrhyw ddarpariaeth i'r pŵer ddod i ben yn awtomatig yn y Bil hwn. Am y rhesymau hyn, argymhellaf na chefnogir y gwelliannau hyn.
David Melding i ymateb i'r drafodaeth.
Yn olaf a gaf i ddweud, fel yr wyf wedi ei ddweud, rwyf wedi dilyn y model Deddf diddymu'r hawl i brynu? Nid wyf yn meddwl ei bod yn gwneud unrhyw synnwyr i gael pwerau sydd yn mynd y tu hwnt i bwrpas gwirioneddol y Ddeddf. Fe ddaw adeg yn anochel pan gyrhaeddir y pwynt hwnnw, a gwyddom fod yr hyn sydd wedi'i wneud eisoes wedi'i wneud. Felly, anogaf y caiff y gwelliannau eu cymeradwyo.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 14.
David Melding, gwelliant 15.
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.
David Melding, gwelliant 16.
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 16. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 16.
David Melding, gwelliant 17.
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 17. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 17.
David Melding, gwelliant 18.
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 18. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 18.
David Melding, gwelliant 19.
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig ar welliant 19. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 19.
David Melding, gwelliant 2.
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 2.
Rydym felly wedi dod i ddiwedd ein hystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Rwy'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn.