Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:30, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Mae un o'r gwelliannau a gyflwynais gyda chefnogaeth Plaid Cymru yng Nghyfnod 2, yn wir, bellach wedi'i addasu gan Lywodraeth Cymru a'i drosi i'w diwyg eu hunain, ac mae'r gwelliant hwn yn sail i'r drafodaeth bellach yr ydym ni'n ei chael. Felly, dylwn groesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi ymateb. Nid yw'n gwneud yr hyn y bwriadai ei wneud yn wreiddiol; mae wedi ymateb i'r trafodaethau a gynhaliwyd yn gynharach yn y broses ddeddfwriaethol, a dylid, yn briodol, ei chanmol am hynny.

Felly, wedi dweud hynny, a chan gydnabod y bu mwy o gyfranogiad tenantiaid yn y broses hon, rwyf yn credu, o'i gymharu â'n gwelliannau, bod yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yn fersiwn wannach ac, rwy'n credu, mwy amwys, a dyna pam ein bod yn anghytuno yn y modd hwn. Rwyf yn awr yn bwriadu ceisio ymhelaethu fel y gall Aelodau wneud penderfyniad doeth.

Yng ngrŵp 1, diben gwelliannau 3 a 4 yw darparu ar gyfer proses ffurfiol o ran ymgynghoriad a chyfranogiad tenantiaid os yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cyfuno neu yn newid eu strwythurau mewn ffyrdd eraill. A chredaf ei bod yn briodol, pan rydym yn cyfeirio at y sefydliad masnachu, i gofio ei bod yn amlwg bod ganddynt ddiddordeb yn hyn, ac mae'n briodol inni glywed hynny. Ond pan fo'r Gweinidog yn dyfynnu trafodaethau a gafodd â gwahanol grwpiau sydd â diddordeb yn hyn, dydyn nhw ddim yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol. Maen nhw'n rhoi cyngor inni, wrth gwrs, ac mae'n bwysig inni fyfyrio yn ei gylch, ac felly yn sicr rwyf wedi edrych ar nodyn Tai Cymunedol Cymru yn yr ysbryd hwnnw. Maen nhw, drwy ganmol o ryw fath wrth fynd heibio, yn dweud eu bod yn croesawu'r gwelliannau niferus a gyflwynwyd gennyf. 

Wel, mae'n rhaid imi ddweud fy mod o'r farn bod 'niferus',  yn golygu rhywbeth na ellid ei gyfrif, fel, ' Mae sêr niferus yn y bydysawd; ni ellir eu cyfrif.' Rwyf wedi cyflwyno 18 gwelliant. Rwy'n gobeithio nad yw'r Llywydd yn credu bod hynny'n rhy feichus. Sylwaf ar y gynghrair a ffurfiwyd rhwng y Llywodraeth a'r corff allweddol hwn, ac, wrth gwrs, nid yw hynny yn amhriodol mewn unrhyw fodd. Ond rwyf yn credu, o ddechrau'r Bil hwn, bod llawer o bobl wedi cymryd yn ganiataol ei bod yn dechnegol iawn, ac nad yw felly yn wirioneddol deilwng o graffu trwyadl a phroses briodol a deddfwriaethol lawn. Rwyf braidd yn siomedig, mewn rhai agweddau o leiaf, na welsom ni'r brwdfrydedd y gellid ei ddisgwyl. Mae'r gyfraith yn fater difrifol, ac mae dadreoleiddio, hyd yn oed pan orfodir hynny arnom ni a'i fod yn rhywbeth na allwn ei osgoi—cytunaf yn llwyr â hynny—yn gofyn am drylwyredd.

Felly, beth bynnag, mae gwelliannau 3 a 4 yn sicrhau bod unrhyw gyfuno neu newidiadau strwythurol eraill yn ddilys oni fydd y landlord cymdeithasol cofrestredig dan sylw wedi cynnal yn gyntaf ymgynghoriad y mae pob un o denantiaid y Gymdeithas wedi'u gwahodd i gymryd rhan ynddo. Mae'r gwelliannau hyn hefyd yn rhoi grym i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i nodi'r dulliau a'r amserlen sy'n berthnasol i unrhyw ymgynghoriad. Ac ni ellir gwneud y rheoliadau hyn oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i'r Cynulliad ei gymeradwyo, fel y gallwn ni gael rhywfaint o reolaeth a dylanwad ar natur y rheoliadau hynny.

Nawr, o'u cymharu â'r Bil yn yr Alban ar yr un mater â hwn yn union, mae'r gwelliannau hyn yn llai llym a chyfyng o ran cyfranogiad tenantiaid. Nid oeddwn eisiau cynnig pleidlais atal i denantiaid, fel, mewn gwirionedd, yn yr amgylchiadau, sy'n gallu digwydd yn yr Alban. Oherwydd mae materion ynghylch rheoli—hyd yn oed os ydyn nhw'n brin—amgylchiadau sydd o bosib yn rhai anodd iawn, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at rai o'r rhain fel pe byddent yn berthnasol i fy ngwelliannau i, er fy mod yn gwrthod hynny'n gryf iawn.

Felly, yn adrannau 6 a 7 o Fil yr Alban, mae'n rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig ymgynghori â thenantiaid a chael eu cytundeb i ailstrwythuro mewn achosion lle byddai'r ailstrwythuro yn arwain at newid landlord ar gyfer y tenant neu'r landlord yn dod yn is-gwmni o gorff arall. Roedd hyn eisoes yn rhan o Fil yr Alban, fel y'i cyflwynwyd, felly mae'n amlwg i bawb, rwy'n tybio, sy'n gorfod gwneud hyn, yn ogystal â'r sefyllfa yn Lloegr, bod yn rhaid rhoi ystyriaeth lawn i hawliau ac amddiffyniadau tenantiaid wrth ailddosbarthu cymdeithasau tai, ac, yn amlwg, rwy'n ceisio rhoi ffurf lawnach o ddiogelwch i denantiaid, er nad yw mor gyfyng ag yn achos yr Alban. Felly, credaf mai'r lleiaf y dylem ei wneud yma yng Nghymru, yn y cyfnod hwn o ddiwygio, yw gwarantu bod gan denantiaid y cyfle i ymwneud a chymryd rhan, pan fo newid enfawr o'r fath yn digwydd o'u cwmpas o ran strwythur cyfansoddiadol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Fel y dywedais yn y ddadl yng Nghyfnod 1, beth sy'n fwy grymus na rhoi datganiad fel hyn ar wyneb deddfwriaeth sylfaenol? Fel y dywedais, rydym wedi gwneud peth cynnydd, er nad cymaint ag y byddwn wedi ei ddymuno.