1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghaerdydd? OAQ52036
Diolch, Julie. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth—. O, mae'n ddrwg gennyf, eich llinell chi yw honno. [Chwerthin.] Fi yw Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Am funud, anghofiais pwy oeddwn ac roeddwn yn ôl draw yn y fan yna, Lywydd. Rwyf newydd wneud fel Rhianon Passmore. [Torri ar draws.] Wyddoch chi byth. Wyddoch chi byth.
Julie, rwy'n falch o ddweud—[Chwerthin.]—y bydd band A o raglen addysg ac ysgolion unfed ganrif ar hugain yn cynnwys buddsoddiad o dros £164 miliwn mewn ysgolion yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd a ddaw i ben yn 2019—a allai fod ar ôl i mi ddod i ben yn y lle hwn, o bosibl. [Chwerthin.] Mae amlen ariannu o £284 miliwn ychwanegol wedi'i chymeradwyo mewn egwyddor ar gyfer rhaglen band B, a fydd yn dechrau yn 2019.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Roeddwn yn falch iawn o ymweld yr wythnos diwethaf â'r safle newydd ar gyfer ysgol gynradd Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, ar gyfer seremoni gosod y garreg gopa yr wythnos diwethaf. Dyma ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ac ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, sydd wedi'u cydleoli, ac mae'r adeilad wedi'i ddylunio yn y fath fodd fel bod ganddo gyfleusterau cyfunol ar gyfer amser cinio ac amser chwarae. Tybed a oedd yna unrhyw gynlluniau eraill ar gyfer ysgolion o'r fath ledled Cymru, lle lleolir yr ysgol Gymraeg a'r ysgol Saesneg ar yr un safle.
Rwy'n siŵr fod enghreifftiau eraill i'w cael lle mae gennym gyfleusterau wedi'u cydleoli fel hynny. Yr hyn y mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ein caniatáu i wneud yw darganfod ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu lleoedd mewn ysgolion, boed mewn lleoliadau a rennir, neu'r nifer gynyddol o ysgolion pob oed, lle yr addysgir plant ar yr un campws o'r adeg pan fyddant yn dair oed yr holl ffordd hyd at 18 oed mewn rhai achosion. Mae'r buddsoddiad digynsail hwn mewn adeiladau ysgolion, y mwyaf ers y 1960au, yn rhoi cyfle inni ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau i awdurdodau lleol o ran ffyrdd o ddarparu cyfleusterau addysgol. Ac un o'r ffyrdd rydym yn ystyried achosion a gyflwynir, fel y dywedais yn gynharach wrth Simon Thomas, yw mynediad cymunedol at y cyfleusterau hynny, ac i raddau cynyddol, wrth inni weithio gyda'n gilydd ar draws y Llywodraeth ar y cynnig gofal plant, y gallu i weld a allwn gyfuno cyfleusterau addysg a gofal plant yn ein hadeiladu newydd hefyd.
Weinidog, mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi cynnig cyfle i awdurdodau lleol weithio gyda'r Llywodraeth ar ailddatblygu eu hystâd ysgolion. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r cynlluniau i gau ysgol fach wledig ym Mro Morgannwg, ysgol Llancarfan, a symud i safle newydd ym mhentref y Rhws. Un o'r pryderon—
Cwestiwn am Gaerdydd yw hwn.
Ardal Canol De Cymru—ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Roeddwn o dan yr argraff fod Caerdydd yn rhan o Ganol De Cymru. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd.
Nid yw Bro Morgannwg.
Mae'n rhan o Ganol De Cymru.
Mae'r cwestiwn yn ymwneud â Chaerdydd.
Tynnaf y cwestiwn yn ôl, felly.
Cwestiwn 7, Dawn Bowden.