Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 25 Ebrill 2018.
Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod Dai Rees a fydd yn cyflwyno dadl fer yn ddiweddarach heddiw am effaith cyni, sy'n amlwg wrth wraidd cymaint o'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud. Felly, gan barhau â'r thema honno, Ysgrifennydd y Cabinet, er eich bod wedi llwyddo i ddiogelu bwrsariaethau nyrsio yng Nghymru, bwrsariaethau a dorrwyd gan Lywodraeth y DU yn Lloegr—ac mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi gwneud sylwadau pwysig am hynny mewn dadl heddiw—a fyddech yn cytuno y gallasai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy eto dros nyrsio a staff rheng flaen y GIG, boed ym maes hyfforddi neu recriwtio, pe na baem wedi wynebu dros £1 biliwn o doriadau ers 2010? Ac a fyddech hefyd yn cytuno bod llawer ohonom yn y Siambr hon yn dechrau blino ar glywed meinciau'r Torïaid yn galw'n gyson am fwy o fuddsoddiad ym maes iechyd o gofio mai eu Llywodraeth hwy yn San Steffan sydd wedi dewis gwneud toriadau mor ddwfn yn ein cyllidebau? [Torri ar draws.]