– Senedd Cymru am 3:27 pm ar 1 Mai 2018.
Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae creu lleoedd cynaliadwy lle gall pobl fyw bywydau egnïol ac iach ac ymfalchïo o ddweud o ble y maen nhw'n hanu yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae gan y system gynllunio swyddogaeth ganolog wrth ddarparu'r lleoedd hyn, a'r broses a ddefnyddiwn ar gyfer hynny yw llunio lleoedd. Mae llunio lleoedd yn llwyddiannus yn cynnwys llawer o elfennau. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth chwarae ei rhan drwy roi arweiniad a gosod fframwaith polisi yn ei le ar gyfer y system gynllunio sydd â llunio lleoedd yn rhan hanfodol ohoni.
Fis Chwefror diwethaf, fe lansiais i, ar gyfer ymgynghoriad, fersiwn newydd o'n polisi cynllunio cenedlaethol, 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae'r ddogfen yn cydnabod natur amlweddog y nodau llesiant a'r ffyrdd o weithio o dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r fersiwn ddiwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru yn ceisio gosod llunio lleoedd cynaliadwy wrth wraidd ein polisi cynllunio. Er mwyn ategu 'Polisi Cynllunio Cymru' a gwella llunio lleoedd, ddoe fe gyhoeddais i ymgynghoriad ar y dewis amgen ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol. Dyma'r cam cyntaf ffurfiol sy'n edrych tuag allan wrth baratoi'r fframwaith datblygu cenedlaethol, a fydd yn disodli cynllun gofodol Cymru. Yn wahanol i gynllun gofodol Cymru, bydd gan yr FfDC statws cynllun datblygu.
Bydd gan yr FfDC swyddogaeth bwysig i ddarparu strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, 'Ffyniant i Bawb', a fydd, yn ei thro, yn cydnabod swyddogaeth yr FfDC a'r angen i gydlynu cynlluniau ar gyfer cartrefi newydd, cyfleusterau a seilwaith gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cymdeithasau tai a phartneriaid allweddol eraill. Bydd yr FfDC yn edrych tua gorwel cyfnod o 20 mlynedd a bydd yn eistedd ar frig hierarchaeth y cynlluniau datblygu yng Nghymru. Oddi tano bydd cynlluniau datblygu strategol a chynlluniau datblygu lleol, ac mae darpariaethau deddfwriaethol yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gynlluniau dan y fframwaith datblygu cenedlaethol gydymffurfio ag ef. Mae hyn yn cynrychioli mecanwaith grymus iawn i lunio'r system gynllunio yng Nghymru, ac mae'n hanfodol bod cynlluniau datblygu lleol yn cael eu paratoi a'u hadolygu mewn modd amserol os ydym am wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer llunio lleoedd.
Mae'r dewis amgen yn gynnyrch ymgysylltiad sylweddol â rhanddeiliaid, arbrofi a herio, ac yn adlewyrchu strwythur drafft 'Polisi Cynllunio Cymru'. Gyda'i gilydd, mae 'Polisi Cynllunio Cymru' a'r FfDC yn cryfhau swyddogaeth llunio lleoedd yn y system gynllunio. Mae'n rhaid inni droi oddi wrth feddwl am faterion pwysig yr oes, megis tai, trafnidiaeth, iechyd ac ynni fel materion ar wahân, a chydnabod yr effaith a gaiff y rheini ar y cyd ar leoedd. Mae'n amser i ailsbarduno’r system gynllunio ac awdurdodau cynllunio lleol i ddarparu lleoedd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r ymgynghoriad ar y dewis amgen ar gyfer yr FfDC yn cau ar 23 Gorffennaf. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn natblygiad hirdymor Cymru a chreu lleoedd cynaliadwy i wneud eu barn yn hysbys drwy ymateb i'r ddau ymgynghoriad ar 'Polisi Cynllunio Cymru' a'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Diolch ichi.
A gaf i groesawu'r cyhoeddiad heddiw? Un o anfanteision—a, Dirprwy Lywydd, byddwch chi'n rhannu hyn—cael eich ethol gyntaf ym 1999 yw ein bod yn cofio mynd ar ôl yr ysgyfarnog hwn am y tro cyntaf. Roedd y cynllun gofodol yn cael ei ystyried yn arloesol iawn, yn wir yn torri tir newydd. Roedd yn weledigaeth 20 mlynedd, yn integreiddio'r prif feysydd polisi cyhoeddus fel nad ydynt yn cael eu hystyried yn endidau ar wahân, ac roedd cynllunio rhanbarthol yn gysyniad newydd a oedd yn mynd i wneud y cylch cynllunio yn rhywbeth perthnasol. Cyhoeddwyd hynny yn 2004. Ac ni allaf fynegi i chi cymaint y bu hynny yn tra-arglwyddiaethu'r Cynulliad cyntaf, y cysyniad cyfan hwn o feddwl yn ofodol. Diweddarwyd y cynllun yn 2008 ac yna fe'i ddiweddarwyd eto yn 2013. A, thua hanner ffordd drwy'r broses hon, yn 2009, barnwyd y cynllun yn hallt gan gadeirydd fforwm economaidd y Gogledd, gan ddweud ei fod yn dda o ran egwyddor ond ei bod yn anodd iawn i weld yr hyn yr oedd yn ei gyflawni. Credaf mai beirniadaeth fras iawn yw honno ac nid yw'n gwbl deg, ond credaf ei bod yn crynhoi rhai o'r rhwystredigaethau.
A gaf i ofyn ambell gwestiwn penodol iawn? Pryd fydd drafft y fframwaith datblygu cenedlaethol yn cael ei roi gerbron y Cynulliad i'w ystyried, oherwydd mae perygl y bydd yn dod atom yn hwyr iawn, yn hwyrnos y tymor Cynulliad hwn? Tybed a oes gennych unrhyw beth arall i'w ddweud ynglŷn â hynny. A pha beth ydych chi wedi ei ddysgu yn sgil cynllun gofodol Cymru? Beth sy'n mynd i gael ei gadw o'r cysyniad hwnnw, a beth sy'n mynd i gael ei adael nawr am nad yw'n effeithiol? Ac rwy'n sylwi, mae'n amlwg, fod ei arwyddocâd statudol, o ran bod yn rhaid i gynlluniau datblygu lleol gyfeirio ato, yn newid mawr.
Hoffwn wybod sut y bydd y rhaniad rhwng arwyddocâd cenedlaethol a rhanbarthol yn cael ei ddiffinio. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r broblem ar y lefel hon o gynllunio. Ai yr un fydd eich rhanbarthau chi a'r chwe is-ranbarth yng nghynllun gofodol Cymru—gyda ffiniau niwlog braidd, mae rhaid dweud—neu a ydych wedi dod o hyd i ffordd wahanol o wneud hyn? Pryd fydd yn rhaid i gynlluniau datblygu lleol ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r fframwaith datblygu cenedlaethol? Gallai fod yn amser maith, yn fy nhyb i, cyn i hynny ddigwydd, o ystyried yr amser y bydd yn ei gymryd i fynd drwy'r system. A sut fydd y cynlluniau datblygu strategol, y cynlluniau rhanbarthol, yn gweithio ochr yn ochr â'r cytundebau dinesig? Credaf fod y rhain yn gwestiynau pwysig iawn.
Ac yna, o ran tai, gwn y bydd gennym ychydig mwy o fanylion y prynhawn yma o bosib. Ond rydych chi'n dweud eich bod yn awr am gael amcanestyniadau o ran tai rhanbarthol, ac rwy'n holi tybed sut y bydd hynny'n cyd-fynd â'r amcanestyniadau diwygiedig a gynhyrchwyd yn 2015, ond na chawsant eu derbyn—amcanestyniad amgen Holmans. A sut fydd yr adolygiad presennol hwnnw wrth ddatblygu amcanestyniadau tai rhanbarthol yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad diweddar ar yr adolygiad o gyflenwad tai fforddiadwy sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd?
Fodd bynnag, mae'n bwysig inni wneud hyn yn iawn. Yn amlwg, mae gennym ni ddeddfwriaeth newydd yn y maes hwn, a chredaf ei bod yn bwysig inni ymdrechu i gael system gynllunio integredig a chydlynol. Ond, o ystyried un o fentrau mawr camau cynnar y datganoli, sef cynllunio gofodol, nid yw'n ymddangos i mi iddi fod yn llwyddiant ysgubol.
Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, David Melding, am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Credaf fod cynllun gofodol Cymru—. Nid oeddwn i yma ym 1999, ond credaf ei fod yn arloesol iawn, ond cyfyngedig oedd ei ddylanwad, ac nid oedd ganddo'r pwysau statudol i allu dylanwadu ar benderfyniadau fel y bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn ei wneud. Cyfyng iawn hefyd, yn fy marn i, oedd ei flaenoriaethu strategol gofodol cenedlaethol, a chredaf ei fod yn brin o'r trosolwg cenedlaethol hwnnw y mae ei angen arnom yn daer. Dyna'r hyn a ddysgais i, yn sicr, o edrych ar sut y datblygodd cynllun gofodol Cymru. Felly, y cynllun datblygu statudol—ac roeddech yn cyfeirio at hyn yn eich sylwadau; bydd statws cynllun datblygu statudol yr FfDC yn sicrhau y bydd yn gallu pennu cyfeiriad cynlluniau datblygu'r haen is ac wedyn yn dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau.
Roeddech yn holi am yr amserlen. Byddwn yn mynd allan i ymgynghoriad y flwyddyn nesaf. Dyma gam cyntaf y broses. Mae'n dechnegol iawn, ond nid oes dim ar bapur; nid oes cynnwys eto. Mae fy swyddogion wedi gwneud llawer iawn o waith gyda rhanddeiliaid—credaf eu bod wedi siarad â thua 200 o wahanol randdeiliaid dros y flwyddyn ddiwethaf i gyrraedd y cam hwn, ond mewn gwirionedd dyma gam cyntaf y gwaith paratoi. Felly, y flwyddyn nesaf, 2019, byddwn yn mynd allan i ymgynghoriad. Dyna pryd, mae'n amlwg, y bydd y craffu'n digwydd, a bydd cynllun yn ei le yn 2020.
Roeddech chi'n holi am y cytundebau dinesig ac ardaloedd twf ac am gynlluniau datblygu lleol a chynlluniau datblygu strategol. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn i awdurdodau lleol y bydd yn rhaid iddyn nhw gael cynlluniau datblygu lleol yn eu lle. Rydym yn ceisio sicrhau eu bod yn gweithio ar lefel datblygu strategol hefyd. Rwyf wedi gweld ychydig o wrthwynebiad, mae'n rhaid imi ddweud. Yr wythnos nesaf—rwy'n credu mai'r wythnos nesaf fydd hi—byddaf yn cyfarfod â holl aelodau arweiniol cynllunio, lle bydd modd inni drafod hyn ymhellach. Mae'r system gynllunio yn gymhleth iawn, a chredaf fod angen inni symleiddio peth arni, os mynnwch chi. Ac un ffordd o ddod â'r holl wahanol haenau at ei gilydd, a dyna pam yr euthum i ymgynghoriad â pholisi cynllunio Cymru—. A hefyd, yn fy mhortffolio i fy hun, mae gennyf bolisïau ynni, sydd yn gwrthdaro weithiau â chynllunio. Felly, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig inni wneud pethau'n iawn, a bydd yr FfDC yn ein helpu yn y ffordd honno hefyd.
Felly, yn amlwg bydd gan y system gynllunio swyddogaeth hollbwysig o ran cyflawni cytundebau dinesig Caerdydd ac Abertawe—a chytundebau twf arfaethedig y Gogledd a'r Canolbarth hefyd, os cymeradwyir y ceisiadau hynny—drwy nodi ein polisïau gofodol strategol o ran tai, o ran cyflogaeth, o ran trafnidiaeth, o ran addysg, o ran seilwaith digidol, o ran twristiaeth. Ac rwyf wedi cael sgyrsiau gyda fy holl gydweithwyr sy'n Ysgrifenyddion Cabinet cyn y cam hwn hefyd.
O ran tai, rwyf wedi cyfarfod â'r Gweinidog Tai ac Adfywio hefyd. Yr hyn yr wyf yn dymuno i'r FfDC ei wneud yw darparu cyfeiriad strategol ar gyfer tai, eto yn gysylltiedig â seilwaith cysylltedd; rwyf o'r farn ei bod yn bwysig iawn bod hynny'n digwydd o ran cyfleusterau allweddol, a hefyd lle mae ardaloedd o dwf, fel ein bod yn canolbwyntio'n fawr iawn ar lunio lleoedd. Credaf fod cyfle i'r fframwaith datblygu cenedlaethol nodi'r amcanestyniad poblogaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar bolisi a thai. Gallai hynny gynnwys cyfres o niferoedd tai ledled Cymru am gyfnod arfaethedig. Mae'n rhywbeth y mae'r Alban yn edrych arno, a byddaf yn hapus iawn i ddysgu oddi wrthyn nhw.
Diolch am y datganiad. Mi fydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn gosod y strategaeth genedlaethol ar gyfer cynllunio ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, fel rydych chi yn ei nodi. Felly, mae'n ofnadwy o bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori gymaint â phosib i sicrhau bod yr amcanion iawn yn cael eu gosod, a bod y strategaeth gywir mewn lle i gyflawni'r fframwaith. Ac, wrth gwrs, mi fydd yn rhaid i'r cynlluniau datblygu strategol, a chynlluniau datblygu lleol, gydweddu efo'r fframwaith—rheswm arall dros gael ymgynghoriad sydd yn un trwyadl yn yr ardaloedd gwledig, yn ogystal ag yn yr ardaloedd dinesig, ac efo grwpiau gwahanol o ddemograffig yng Nghymru hefyd.
Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ofnadwy ar y pwynt yma bod pobl Cymru—a'r awdurdodau lleol, mewn gwirionedd—yn deall beth ydy pwrpas y fframwaith datblygu cenedlaethol a'i berthynas o efo'r ddwy haen sy'n dod oddi tano fo. Mae o'n edrych yn rhywbeth hollol dechnegol a diflas ar yr wyneb, onid yw, ond rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall bod hwn yn gosod allan y fframwaith ar gyfer datblygiad am gyfnod mor hir, a bod angen iddyn nhw fod yn rhan o'r broses. Felly, rydw i'n meddwl y byddai cael eglurhad o beth yn union ydy pwrpas hwn, reit ar y cychwyn fel hyn, yn fuddiol iawn.
Ac rydw i'n cytuno efo David Melding; mae angen dysgu gwersi o gynllun gofodol Cymru. Nid oeddwn innau, chwaith, yma yn 1999, ond rydw i'n cofio'r cyfnod yna, ac yn cofio ei fod o'n amhoblogaidd iawn, a'i fod o wedi achosi llawer o ddrwg-deimlad a gwrthwynebiad. Felly, gobeithio na fydd y fframwaith yma yn mynd i'r un cyfeiriad â'r cynllun hwnnw. Felly, a fedrwch chi roi sicrwydd fod yr ymgynghoriad yma yn mynd i fod yn ymgynghoriad yng ngwir ystyr y gair ac nid rhyw ymarferiad lle mai'r canlyniad terfynol a'r opsiwn a ffafrir—nid hwnnw fydd yn diweddu efo ni ar ddiwedd y dydd?
Mae'r ddogfen yn sôn am, ac rydw i'n dyfynnu:
'darparu cyfeiriad ar gyfer y tri rhanbarth sydd yng Nghymru—Gogledd Cymru, Canolbarth a De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.'
Rŵan, pwy sy'n dweud mai'r rheini ydy'r tri rhanbarth yma yng Nghymru? Mae'r fframwaith hefyd yn sôn am ganolbwyntio ar dai strategol, darparu seilwaith cydgysylltiedig mewn ardaloedd bargen ddinesig a bargen twf a chefnogaeth i ardaloedd gwledig. Rŵan, nid ydw i'n deall yn union beth mae hynny i fod i feddwl. Felly, ai'r bwriad ydy gorfodi awdurdodau lleol i weithio ar faterion sydd wedi cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru o fewn rhanbarthau sy'n cael eu gosod ac yn cael eu llywio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—yr ardaloedd dinesig ac yn y blaen, sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu hefelychu hefyd gan Lywodraeth Cymru?
Gan droi at faes y Gymraeg, wrth gwrs, mae diffyg tai fforddiadwy yn broblem ddifrifol mewn llawer o gymunedau, tra bod cymunedau eraill yn teimlo bod tai wedi cael eu hadeiladu yn y llefydd anghywir heb yr isadeiledd a'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer y twf mewn poblogaeth. Yr her fawr fydd y Cymry'n wynebu dros yr 20 mlynedd nesaf, wrth gwrs, ydy datblygu'r Gymraeg a gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn ffynnu, ac mae gan y system gynllunio ran i chwarae yn y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Ni fydd y potensial yma sydd gan y system gynllunio yn dod yn amlwg os nad ydy Llywodraeth Cymru'n darparu arweiniad cryf a chadarn yn y maes yma. Byddwn i'n awgrymu i gychwyn bod angen diwygio a chryfhau nodyn cyngor technegol 20, sy'n gwrth-ddweud Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Rydym ni wedi cael y drafodaeth yma o'r blaen, ond rydw i'n dal at hynny ac yn gobeithio bydd hwn yn rhoi cyfle i ni gael y drafodaeth yna unwaith eto.
Mae yna gyfle efo'r fframwaith i Lywodraeth Cymru roi arweiniad cryf i awdurdodau lleol o ran cynllunio ieithyddol. Felly, fy nghwestiwn olaf i ydy: a wnewch chi ddarparu sicrwydd y bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn cynnwys datganiad clir a chadarn a digamsyniol ynghylch pwysigrwydd a pherthnasedd y Gymraeg wrth gynllunio sut i ddefnyddio tir? Diolch.
Diolch, Siân Gwenllian. Gallaf eich sicrhau yn gyfan gwbl ei fod yn ymgynghoriad gwirioneddol. Fel y dywedais yn fy ateb i David Melding, nid ysgrifennwyd gair eto. Dyma ddechrau'r broses mewn gwirionedd, er y cafwyd ymgynghoriad enfawr â rhanddeiliaid gan fy swyddogion dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n credu fy mod wedi sôn am tua 200 o randdeiliaid ac mae hynny'n cynnwys yr holl awdurdodau lleol—cyfeiriasoch at awdurdodau lleol—byrddau iechyd, byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r gwaith caled yn dechrau nawr. Ac mae'n dechnegol iawn ac, oherwydd nad yw'n rhywbeth diriaethol, mae'n anodd sicrhau bod pobl yn deall pa mor bwysig yw'r ddogfen hon a'i bwriad.
Bydd hwn yn gynllun datblygu defnydd tir cenedlaethol. Rydych chi'n gwybod fy mod allan ar ymgynghoriad ar hyn o bryd gyda'r cynllun morol drafft. Mae'n amlwg fod hynny ar gyfer dŵr a môr. Mae hwn yn cyfateb ar y tir ac, fel y soniais, bydd yn disodli cynllun gofodol Cymru sy'n bodoli eisoes a bydd yn gosod y fframwaith gofodol am 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir yng Nghymru. Felly, mae hwn yn gyd-destun ar gyfer seilwaith newydd, ac mae hefyd ar gyfer twf ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Roeddech chi'n holi am gymunedau gwledig. Eto, rwy'n rhagweld y bydd yr FfDC yn gweithio i gefnogi bywyd a gwaith mewn mannau gwledig i wneud yn siŵr eu bod yn gynaliadwy yn economaidd ac yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol ac yn ffynnu. Bydd y polisïau o'i fewn yn gosod fframwaith ar gyfer tai gwledig, er enghraifft, y cyfeirioch chi ato, ond hefyd wasanaethau, cyfleusterau—gan gynnwys iechyd ac addysg—a chyflogaeth a chysylltedd. Mae hynny i wneud yn siŵr bod ein cymunedau gwledig yn cadw ac yn denu pobl ac yn amlwg yn helpu i sicrhau cefn gwlad Cymru sy'n llawer mwy ffyniannus a chynaliadwy.
Roeddech chi'n gofyn cwestiynau penodol am yr iaith Gymraeg. Rydym dan rwymedigaeth i ystyried effeithiau yr FfDC ar yr iaith, ac rydym yn gwneud hynny yn rhan o'r broses asesu integredig. Gall cynllunio yn amlwg greu amodau a fydd yn galluogi'r iaith i ffynnu gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer swyddi newydd ac ar gyfer tai a chyfleusterau cymunedol. Felly, credaf y gall yr FfDC yn anuniongyrchol ein helpu i gyrraedd y targed hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yr ydym yn awyddus i'w gyflawni, gan hyrwyddo datblygiadau yn y mannau cywir.
O ran awdurdodau lleol, soniais bod swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gydag awdurdodau lleol fel eu bod yn deall safle'r CDLlau a'r CDSau. Credaf mai'r hyn y bydd yr FfDC yn ei roi inni yw ffordd well o ddangos y blaenoriaethau datblygu mawr ar gyfer Cymru, ac mae hynny'n sicrhau hefyd bod y system gynllunio yn gyson. Felly, rwy'n dymuno gweithio gydag awdurdodau lleol a datblygwyr i ddangos ymhle y mae ein blaenoriaethau ni, ond hefyd i'w helpu i wneud penderfyniadau anodd yn gyflymach. Oherwydd byddwch yn ymwybodol fod pethau weithiau yn glanio ar fy nesg i, ac rwy'n credu y bydd hynny'n eu helpu nhw cyn iddi ddod i hynny—bydd hynny yn eu helpu. Felly, yr hyn y bydd yr FfDC yn ei wneud yw sefyll, os mynnwch chi, ar frig pyramid o gynlluniau datblygu, gyda chynlluniau datblygu strategol ar gyfer y lefel ranbarthol a'r cynlluniau datblygu lleol ar raddfa awdurdod lleol. Mae'n hynod bwysig fod y tri yn cydweithio'n dda. Rydym yn awyddus i osgoi dyblygu gwaith, er enghraifft. Bydd yr FfDC yn canolbwyntio ar y materion cenedlaethol, os mynnwch chi—y materion sy'n effeithio ar y rhan fawr honno o Gymru—ond bydd y cynlluniau datblygu strategol a lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am y manylion ac am nodi'r safleoedd ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad.
Diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Rydym yn siarad heddiw am gynlluniau a chynllunio ac, fel yr amlinellodd y Gweinidog eiliad yn ôl, mae'n ymddangos ein bod yn ymlwybro tuag at dri math o gynllun yn fras: cynlluniau datblygu lleol ar y gwaelod, fframwaith datblygu cenedlaethol ar y brig, a chynlluniau datblygu strategol yn y canol.
Rydym wedi gweld achosion o gynnen cyhoeddus dros Gynlluniau Datblygu Lleol mewn blynyddoedd diweddar, gyda'r cynghorau yn teimlo, mewn rhai achosion, bod eu dwylo wedi'u rhwymo a'u bod yn gorfod bwrw ymlaen â CDLlau nad oeddent yn boblogaidd yn gyffredinol bob amser gyda rhai, neu gryn dipyn, o'u hetholwyr. Felly, yn fy marn i, un o'r problemau, neu'n un o'r materion, neu, gan ddefnyddio ymadrodd poblogaidd mewn Llywodraeth, un o'r heriau hynny yr ydych yn mynd i'w wynebu wrth fynd ymlaen yw: sut mae cadw cydsyniad democrataidd ar gyfer newid sylweddol mewn cynllunio, sy'n cynnwys penderfyniadau a wneir ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol? Efallai mai honno fydd y brif her fydd gennych chi, wrth symud ymlaen, oherwydd os ydym wedi cael problem ar lefel weddol leol â ChDLlau, sut allwn ni sicrhau na fyddwn ni mewn gwirionedd yn chwyddo'r problemau hyn, wrth symud ymlaen, gyda chynllunio ar raddfa fwy fel CDSau a'r FfDC yn ei gyfanrwydd? Felly, mae'n debyg mai yw fy nghwestiwn cyntaf yw: yn fras, sut fyddwch yn sicrhau eich bod yn cadw mesur mawr o gydsyniad democrataidd i'r mathau hyn o gynigion? Mae’n mynd i ddibynnu'n helaeth ar sut fath o strwythur y byddwch chi'n ei sefydlu.
Rhoddodd David Melding, a siaradodd yn gyntaf, olwg hanesyddol inni, a diddorol iawn yn fy nhyb i, ar yr hyn y ceisiwyd ei gyflawni yn nhymor cyntaf y Cynulliad gyda'r cynllun gofodol nad oeddwn i, mae'n rhaid cyfaddef, yn ymwybodol ohono. Ni allaf gofio i hynny fod yn bwnc llosg yn y papurau newyddion ar y pryd, ond efallai mai wedi anghofio yr wyf i. Ond, yn amlwg, yr oedd yn ddatblygiad mawr gan y Llywodraeth yn y tymor cyntaf, ac ni lwyddodd mewn gwirionedd. Felly, erbyn hyn rydym yn y sefyllfa hon gyda chynllun newydd. Sut fyddwch chi'n yn dysgu o wersi'r cynllun gofodol? Tybed pa wersi y byddwch yn eu dysgu eich hun, Gweinidog, o fethiant cymharol y cynllun gofodol a sut y gallwn sicrhau nad fydd y cynllun hwn yn ailadrodd y methiannau hynny.
Rwy'n ystyried bod problemau'n bodoli, ac rwy'n obeithiol y bydd hyn yn llwyddiant yn fras. Ond gallaf weld problemau, wrth symud ymlaen, gan fod gennych chi hefyd ad-drefnu llywodraeth leol, sydd dan ystyriaeth o hyd, y mae eich cyd-Aelod sy'n eistedd y drws nesaf ond un i chi yn gyfrifol amdano. Mae'n amlwg fod chi fel Gweinidog cynllunio ac yntau fel Gweinidog Llywodraeth Leol ar wahân, ac weithiau gall hynny achosi problemau. Rydych yn amlwg yn mynd i orfod cydweithio'n agos gyda'ch gilydd ar hyn i sicrhau llwyddiant. Tybed sut mae'r pethau hyn yn mynd i asio. Ar yr un pryd, mae gennym ni'r cytundebau dinesig, y cytundebau twf, felly rwy'n gobeithio na fydd hyn i gyd yn annibendod llwyr. A gobeithiaf y byddwch chi rhwng y ddau ohonoch chi, a'r Gweinidog tai hefyd, yn llwyddo i gadw rhywfaint o drefn ar hyn. Felly, tybed yn fras beth yw eich barn ar y pwyntiau hyn.
Un mater yr oeddwn yn arbennig o awyddus i'ch holi yn ei gylch oedd y Cynlluniau Datblygu Strategol. Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud bod y rhain yn mynd i fod yn statudol—mae'n ddrwg gennyf i, bydd yr FfDC yn statudol. Felly, bydd hyn yn dylanwadu, yn sicr o ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir yn yr haenau is. Rwyf mewn ychydig o benbleth braidd o ran pwy sydd mewn gwirionedd yn gwneud y penderfyniadau gyda'r CDSau. Mae'n ymddangos mai'r awdurdodau lleol gyda'i gilydd fydd yn gwneud hynny. Roeddech chi'n dweud eich bod yn ceisio eu cael i weithio gyda'i gilydd ar lefel strategol. Sut fydd hynny'n gweithio gyda'ch pwerau statudol? Sut fydd hynny yn gweithio yn ymarferol mewn gwirionedd? A fyddan nhw'n gweithio ar yr un lefel â'r cytundebau dinesig? A fydd y dinas-ranbarthau mewn gwirionedd yn gwneud y penderfyniadau am y CDSau, neu a fydd yn gydglymiad arall o wahanol awdurdodau lleol? Thank you very much.
Diolch i Gareth Bennett am ei sylwadau a'i gwestiynau. Credaf fod angen imi roi sicrwydd—. Wel, rwyf wedi sicrhau bod fy swyddogion wedi rhoi sicrwydd i awdurdodau cynllunio lleol, ac rwy'n hapus iawn i roi sicrwydd i'r Aelodau nad yw'r FfDC yn rhyw fath o ymaflyd yn yr awenau neu'n ffordd o osgoi gwneud penderfyniadau lleol da ac effeithiol. Os ydym yn ystyried y peth, ymdrinnir â mwy na 25,000 o geisiadau cynllunio gan awdurdodau cynllunio lleol bob blwyddyn, a dim ond llond llaw sy'n cael eu cymryd gan Weinidogion Cymru. Ni fydd hynny'n newid o ganlyniad i'r FfDC. Yr hyn y mae'r FfDC yn ei gynnig inni yw ffordd well o ddangos y blaenoriaethau datblygu mawr i Gymru a sicrhau bod y system gynllunio yn gyson. Rydych chi'n llygad eich lle; clywsoch yr hyn a ddywedais yn fy ateb i Siân Gwenllian y bydd yr FfDC yn sefyll ar frig pyramid o gynlluniau datblygu a bydd y CDSau a'r CDLlau oddi tano ar lefel awdurdodau lleol a rhanbarthol.
Mae awdurdodau lleol eisoes wedi chwarae rhan sylweddol iawn wrth gyrraedd y cyfnod ymgynghori cynnar iawn hwn. Maen nhw wedi bod yn rhan bwysig o'r ymgysylltiad cynnar. Serch hynny, rwyf i o'r farn y gallwn wneud llawer mwy gyda nhw. Mae gennyf i gynnig ar y bwrdd i bob awdurdod lleol weithio gyda ni wrth inni gasglu ein tystiolaeth nawr cyn inni gyflwyno'r FfDC drafft. Byddaf yn parhau i geisio barn awdurdodau lleol, ond wrth gwrs mae'n ddyletswydd arnyn nhw i chwarae rhan lawn a gweithgar iawn. Rwyf hefyd wedi egluro nad yw'r FfDC yn esgus i ohirio unrhyw waith ar gynlluniau datblygu lleol neu adolygiad o GDLlau a sy'n digwydd ar hyn o bryd gan yr awdurdodau cynllunio. Ni fydd unrhyw beth annisgwyl yng nghynnwys yr FfDC, oherwydd rydym yn disgwyl iddyn nhw weithio gyda ni wrth ei lunio.
Roeddech chi'n cyfeirio at gynllun gofodol Cymru, nad oeddech chi'n gwybod amdano, fel methiant. Ni fyddwn yn mynd mor bell â dweud hynny, ond byddwn yn—. Rwy'n credu bod David Melding wedi cyfeirio at y math o frwdfrydedd y gwnaeth cynllun gofodol cyntaf Cymru ei ennyn, a chredaf ei bod yn hollol deg dweud na lwyddodd i sicrhau'r newid ystyrlon yr oedd ar y Llywodraeth gyntaf ei eisiau.
Roeddech chi'n gofyn i mi pa wersi yr ydym wedi'u dysgu ac rwy'n credu mai'r wers fawr yr wyf i'n bersonol wedi'i dysgu, ac yn amlwg y mae'r swyddogion wedi'i dysgu, yw nad oedd ganddo'r fframwaith hwnnw a'r statws o fod yn gynllun datblygu, ac felly nid oedd ganddo'r dannedd, os mynnwch chi, i gyflwyno'r newid ystyrlon hwnnw. Felly, dyna pam yr ydym wedi rhoi'r statws hwnnw i'r FfDC, oherwydd nid wyf i'n dymuno iddi fod ond yn rhyw fath o ddogfen sgleiniog sydd yn eistedd ar y silff ac heb dannedd i sbarduno'r newid hwnnw yr ydym yn eiddgar i'w weld.
Rwyf i'n gweithio'n agos gyda fy holl gydweithwyr sy'n Ysgrifenyddion y Cabinet ac yn gyd-Weinidogion. Soniais fy mod wedi cwrdd â phob un ohonyn nhw cyn inni gyrraedd y cyfnod hwn hyd yn oed i weld beth yw eu blaenoriaethau nhw. Mae'n ddogfen draws-Lywodraethol i raddau helaeth iawn. Nid ydym yn gweithio mewn seilos. Gweithiwn yn agos iawn at ein gilydd, a chyfeiriais at y math o waith yr wyf wedi'i wneud gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai ac Adfywio. Fel y dywedwch, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, yn dechrau ar waith sy'n ymwneud â diwygio. Bydd hyn yn cydweddu â hynny. Yn amlwg, mae gennym ni 25 o awdurdodau cynllunio lleol gyda 22 o awdurdodau lleol ac, yn amlwg, byddaf yn gweithio'n agos iawn gydag Alun Davies yn y gwaith y mae ef yn ei gyflwyno.
Rwy'n cefnogi'n gryf yr egwyddor o gynllun datblygu cenedlaethol a chynllun datblygu strategol uwchben y cynlluniau datblygu lleol. Credaf ein bod yn rhy aml yn edrych ar ardaloedd ar wahân i'w gilydd, ac i'r rheini sy'n adnabod yr ardal gerllaw'r lle rwyf i'n byw, mae gennych chi Barc Trostre, ac mae gennych chi Barc Manwerthu Fforest-fach, sydd dair neu bedair milltir oddi wrth ei gilydd. Maen nhw'n effeithio ar ei gilydd, ond maen nhw'n cael eu trin gan wahanol awdurdodau cynllunio, ac o dan unrhyw newidiadau y mae unrhyw un wedi'u cyflwyno'n ddiweddar, bydden nhw'n aros o dan wahanol awdurdodau cynllunio. Rydym ni wedi gweld datblygiad yr ail gampws yn Abertawe, y credaf ei fod wedi bod yn adeilad rhagorol, ond mae ganddo mewn gwirionedd effaith llawer mwy ar Abertawe nag y sydd ganddo ar Gastell-nedd Port Talbot, y cyngor y mae'n ymddangos ynddo drwy serendipedd. Darn o dir oedd hwn nad oedd neb yn ei ddefnyddio, a dilyn y nant wnaethon nhw i gael ffin. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael trosolwg strategol yn y pen draw.
A gaf i ddychwelyd at gyfnod cyn y cynllun gofodol? Nid oedd y cynllun gofodol yn disodli ond yr hen gynlluniau sirol. Roedd y cynlluniau sirol yn bodoli ac roedden nhw'n dynodi ardaloedd o fewn Sir ar gyfer gwahanol ddefnydd. Mae'n ddiddorol iawn bod y cynlluniau sirol wedi diflannu, am fod adrannau cynllunio'r siroedd wedi diflannu, am fod rhywun wedi penderfynu pe byddai adran gynllunio mewn rhanbarth ac adran gynllunio yn y sir, mae'n rhaid fod peth gorgyffwrdd y gellid cymhwyso eu heffeithlonrwydd drwy eu huno nhw. Mae pobl bob amser yn awyddus i uno pethau ar gyfer sicrhau arbedion effeithlonrwydd; un diwrnod fe ddaw hynny i weithio. Ac fe welsom ni wedyn fod y cynlluniau sirol wedi diflannu, ac felly nid oedd cynllun datblygu sirol i'w gael gennych chi, ac roedd hynny'n ddefnyddiol iawn. Credaf fod angen cynlluniau datblygu cyffredinol arnom ni, oherwydd caiff pobl eu dylanwadu bob amser gan yr ardal gyfagos, ac nid yw hynny'n cael ei ddatrys gan ffiniau Cymru na ffiniau ardaloedd y cynghorau, ni waeth pa mor fawr y byddwch chi yn eu gwneud nhw, neu gan ffiniau'r dinas-ranbarthau.
Mae gennyf i ddau gwestiwn gwirioneddol. A fyddwch yn edrych ar ddynodi tir ar gyfer coedwigaeth? Un o'r methiannau mawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw nad yw cyfanswm y coedwigo a ddylai fod wedi digwydd yng Nghymru wedi digwydd. Mae llawer yn yr ystafell hon yn awyddus iawn i gynyddu'r swm coedwigaeth yng Nghymru. A fyddwch yn dynodi ardaloedd, fel y gwnaethai'r cynlluniau sirol ddynodi ardaloedd ar gyfer mwynau ac ardaloedd ar gyfer coedwigaeth? A fydd hynny i'w gael fel eich bod yn gallu dynodi ardaloedd, fel y gallwn gael mewn gwirionedd ddigon o dir ar gael ar gyfer coedwigo i fodloni ein cynlluniau mewn gwirionedd?
Yr ail gwestiwn yw: erbyn hyn mae gennym gynllun morol ar wahân i'r cynllun datblygu cenedlaethol—pam hynny? Rwyf i wedi dod i'r casgliad bod y môr yn cwrdd â'r tir ymhobman. Ac rwyf hefyd o'r farn fod porthladdoedd, er enghraifft, yn cael effaith ar y môr; mae o leiaf ran ohonynt ar dir a rhan ohonynt ar y môr. Siawns na fuasai un cynllun cyfunol sy'n cwmpasu'r morol a'r tir yn well na chael dau gynllun, oherwydd yr wyf yn siŵr y bydd rhywun yn y dyfodol dymuno eu huno nhw.
Diolch ichi, Mike Hedges, am y cwestiynau hyn. Byddaf yn cymryd yr ail un yn gyntaf. Credaf mai pwynt da iawn yw hwnnw mewn gwirionedd ynghylch pam oedd cynlluniau ar wahân gennym, ac rwy'n amau pan yr etifeddais y portffolio ddwy flynedd yn union yn ôl roeddwn yn ymwybodol iawn o'r ffaith nad oedd gennym unrhyw farn strategol ar ein morol—ein moroedd a'n dyfroedd—ac roedd yn mynd yn broblem gynyddol, ac roeddwn yn awyddus iawn i gael y cynllun morol yn weithredol. Fel yr oedd hi, fe gymerodd ychydig dros flwyddyn i mi. Pe byddwn wedi aros am yr FfDC hefyd—ac, mae'n amlwg, nid yw'r FfDC am ddod tan 2020—byddai hynny wedi ei ohirio, ond mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n ymblethu gyda'i gilydd yn dynn iawn.
O ran eich cwestiwn am goedwigaeth, yn sicr, cytunaf yn llwyr â chi nad ydym yn plannu cymaint o goed ag y byddem oll yn ei ddymuno, ac yn amlwg mae hwnnw'n ddarn o waith y mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn ei wneud. Credaf mai'r hyn sydd gan yr FfDC y potensial i'w wneud yw cynorthwyo wrth gyflawni'r polisi adnoddau naturiol yr ydym wedi'i gyflwyno. Credaf fod potensial i bob un o dair blaenoriaeth cynllunio cyfoeth naturiol gael eu cefnogi gan yr FfDC. Yn amlwg, mae gan y system gynllunio swyddogaeth allweddol wrth helpu i wrthdroi'r dirywiad bioamrywiaeth, er enghraifft. Felly, gallwn yn sicr edrych a ydym yn dynodi ardaloedd ar gyfer coedwigaeth, ac eto, crybwyllais mai darn gwbl wag o bapur sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, gallwn weld yn sicr pa ymatebion sy'n dod i'r ymgynghoriad, ond rwy'n credu bod hwn yn faes y gallwn edrych arno wrth fynd yn ein blaenau.
Diolch am y datganiad, Gweinidog. Rydw i jest eisiau ffocysu ar un agwedd o'r datganiad, sef ynni. Mae'r datganiad, yn hytrach na'r ymgynghoriad, yn ei wneud yn glir bod ynni yn ganolog i ddatblygiad yn ôl lleoliad, fel rŷch chi wedi amlinellu. Yn benodol, mae lot o sôn yn yr ymgynghoriad, yn y papur, ynglŷn ag ynni adnewyddol, sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru, wrth gwrs. Ond mae hefyd yn wir i ddweud bod yna ddatblygiadau ynni o bwys y tu hwnt i ynni adnewyddol sydd yn effeithio ar gymunedau. Rŷch chi'n meddwl, er enghraifft, am orsaf bŵer Aberddawan. Fe gafodd y pwyllgor newid hinsawdd dystiolaeth yr wythnos diwethaf fod cau'r orsaf honno, sydd yn yr arfaeth gan Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, yn hollbwysig i dargedau newid hinsawdd Llywodraeth Cymru. Rŷm ni newydd weld cais cynllunio ar gyfer ailagor pwll glo yn Aberpergwm, sydd hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â sut mae datblygiadau ynni fel hyn yn ffitio i mewn gyda'r cysyniadau eraill sydd gyda chi. Achos pwrpas unrhyw gynllun strategol cenedlaethol yw cyflawni ar lawr gwlad beth sydd gyda chi fel polisi cenedlaethol. Dyna beth yw ei bwrpas e. Felly, pan ŷch chi'n sôn yn yr ymgynghoriad am ynni sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, a fedrwch chi jest ddweud wrthym ni heddiw a ydy'r 'cenedlaethol' yn fanna yn cyfeirio at Gymru neu'r Deyrnas Gyfunol? Rydw i ond yn defnyddio 'cenedlaethol' i feddwl Cymru, wrth gwrs, ond rydw i'n gweld 'cenedlaethol' weithiau yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun arall. Felly, jest inni ddeall hynny, fel ein bod ni'n gallu bod yn glir yn ei gylch e.
Yn ail, fel sydd wedi cael ei grybwyll inni eisoes, mae eich dewis amgen ymysg yr ymgynghoriad yma yn sôn am dri rhanbarth yng Nghymru, sydd yn golygu bod y canolbarth yn mynd gyda'r de-orllewin. Ond, wrth gwrs, pedwar rhanbarth, i bob pwrpas, sydd gyda ni bellach, gyda rhanbarth uchelgais y gogledd, rhanbarth twf Ceredigion a Phowys gyda'i gilydd, ac wedyn y ddwy ddinas-ranbarth yn y de. Fel rŷch chi'n gwybod, efallai, ddoe fe gynhaliwyd cynhadledd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, yn edrych ar ynni yn ninas-ranbarth bae Abertawe—roedd wedi cael ei chynnal gan yr IWA—ac un o'r pethau a drafodwyd, ac, yn wir, a argymhellwyd, yn y gynhadledd yna oedd y dylai fod targedau ynni ac ynni adnewyddol rhanbarthol yng Nghymru. Hynny yw, er mwyn cyrraedd eich targedau cenedlaethol sydd yn yr ymgynghoriad yma, rŷch chi eisiau targedau rhanbarthol, achos mae gwahanol ranbarthau yn gwneud yn well na'i gilydd o ran ynni adnewyddol—mae'r canolbarth yn cyfrannu yn helaeth o ran ynni o felinau gwynt, er enghraifft. Felly, a ydych chi wedi glynu wrth y syniad yma o dri rhanbarth, ac a fyddwch chi'n cyflwyno yn eu sgil dargedau adnewyddol rhanbarthol?
Diolch ichi. O ran y gair 'cenedlaethol', rwyf innau hefyd yn sôn am Gymru pan gyfeiriaf at yr FfDC. Rwyf i o'r farn fod cysondeb a chywirdeb ein polisi ynni a'n polisi cynllunio yn bwysig iawn. Soniais am wrthdaro polisïau ar brydiau, ac mae'n rhaid imi edrych ar gais cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy, tyrbinau gwynt dyweder, a chan ei fod yn gorwedd y tu allan i ardal—wyddoch chi, y polisi cynllunio—ceir y gwrthdaro hwnnw. Roeddech chi'n sôn am un arall sydd newydd ddod ger fy mron. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cysoni ein polisïau, a dyna un o'r rhesymau am fynd allan ar 'Bolisi Cynllunio Cymru' er mwyn inni allu cyrraedd y targedau a osodais ar gyfer ynni adnewyddadwy a'r mathau o ynni yn ôl ym mis Rhagfyr.
O ran y rhanbarthau, nid wyf wedi fy rhwymo i'r rhain, a chredaf fod hwn yn faes y gallwn edrych arno dros y cyfnod hwn pan fyddwn yn edrych ar y dewis a ffefrir ac yn gosod y llwyfan, os mynnwch chi, o flaen cyflwyno'r FfDC drafft y flwyddyn nesaf. Mae ystyried a ddylid cael targedau rhanbarthol ar gyfer ynni yn rhywbeth y gallwn ni edrych arno. Credaf mai'r peth pwysicaf yw bod yr FfDC yn cefnogi ein hamcanion datgarboneiddio ac yn ein helpu i fagu nerth i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth, yn amlwg, y buaswn yn dymuno iddo ei gyflawni.
Os ydym am gyflawni ein hamcanion datgarboneiddio strategol, rwy'n credu y bydd yn rhaid i hynny fod yn amcan canolog i'r FfDC, ac mae hynny'n cynnwys, yn amlwg, leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Felly, rwy'n dymuno gweld yr FFDC yn helpu i gyflawni ein targedau drwy bolisïau a fydd wedyn yn cefnogi cynhyrchu drwy amrywiaeth o dechnoleg, ac yn darparu fframwaith ar gyfer cynhyrchu ynni lleol hefyd.
Roeddech chi'n sôn am seilwaith mawr i ynni, ac, eto, credaf ei fod yn gyfle gwych inni—yr FfDC —fynegi'n ofodol ein polisïau cynllunio cadarnhaol iawn ar seilwaith ynni er mwyn, unwaith eto, inni allu ateb ein rhwymedigaethau o ran newid hinsawdd a'n targedau ynni adnewyddadwy hefyd. Mae fy swyddogion yn ymchwilio ar hyn o bryd i gyfleoedd i fapio'r potensial ar gyfer seilwaith ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr newydd ledled Cymru. Ac, eto, rwy'n credu y bydd gosod y rheini mewn polisi cynllunio yn ein galluogi ni i roi arweiniad gwirioneddol wrth ystyried y lleoliadau gorau ar gyfer y datblygiadau.
Rwy'n falch iawn ac rwy'n croesawu'n fawr y modd y mae'r nodau llesiant a'r ffyrdd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhannau annatod o bolisi cynllunio Cymru, a'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Yng ngoleuni hynny, tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am ei statws fel cynllun datblygu ac a yw'n eich galluogi chi i wneud rhai o'r canlynol. Er enghraifft, a yw'n eich galluogi chi i'w gwneud yn glir na fydd canolfannau siopa ar gyrion trefi yn cael croeso yn y dyfodol oherwydd y niwed y maen nhw'n ei achosi i lunio lleoedd mewn canol dinas neu dref? A yw'n eich galluogi chi i fynnu y bydd datblygiadau sylweddol o dai newydd yn digwydd yn unig lle ceir cysylltiadau da o ran trafnidiaeth gyhoeddus hefyd, gan y bydd yn amhosib inni fodloni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd oni bai ein bod yn rheoli datblygiad i ardaloedd sydd â'r cysylltiadau priodol? A yw'n ein galluogi ni, er enghraifft, i ddiddymu Deddf Iawndal Tir 1961, sydd yn un o'r prif rwystrau i ddatblygu tir newydd ar gyfer tai lle ceir angen am dai, gan ei bod yn caniatáu i bobl ddal eu gafael mewn tir yn y gobaith y gallai rywbryd yn y dyfodol fod yn llawer mwy gwerthfawr nag ydyw ar hyn o bryd? Felly, byddwn yn awyddus i ddeall ychydig mwy am y pwerau sydd gan y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd hwn i'w rhoi i chi er mwyn cyflawni amcanion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol mewn gwirionedd.
Diolch ichi, Jenny Rathbone. Rydych chi yn llygad eich lle—rwy'n credu bod y ffyrdd o weithio o ran Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi bod yn hollbwysig i ddatblygiad yr FfDC, hyd yn oed yn ystod y gwaith a wnaed hyd yn hyn, ond yn arbennig felly ar gyfer y gwaith sydd o'n blaenau. Rydym wedi ystyried yn fanwl sut y mae'r dulliau o weithio yn llywio'r hyn a wnawn a sut y gallan nhw helpu inni gyflawni'r datblygiad cynaliadwy yr ydym yn dymuno ei weld. Cawsant eu defnyddio hefyd i lywio adolygiad y dystiolaeth a nodi materion, a hefyd i edrych ar strwythur y fframwaith asesu. Mae'n ofyniad, yn amlwg, gan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth ein bod yn ymgymryd ag amrywiaeth o asesiadau mewn cysylltiad â'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Felly, mewn gwirionedd rydym wedi ceisio integreiddio'r dull sydd eisoes yn y broses asesu.
Rydych yn holi am bwyntiau penodol, a chredaf eich bod yn llygad eich lle—mae'n hanfodol bwysig pan fyddwn ni'n edrych ar y mannau y mae datblygiadau tai yn mynd i fod, er enghraifft, fod cludiant cyhoeddus ar gael yno. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'm cydweithwyr yn y Cabinet a chydweithwyr gweinidogol cyn hyn, ac mae'n rhywbeth y maen nhw'n edrych arno. Felly, er enghraifft, pan oeddwn yn siarad â Kirsty Williams, pe byddai hi'n ceisio lleoli coleg trydyddol newydd yn rhywle, byddai'n bwysig edrych ar yr hyn sydd o gwmpas y lleoliad—a yw'r tai yno, a yw'r cludiant cyhoeddus yno. Felly, yn sicr, bydd hynny'n rhan o hyn.
Roeddech yn fy holi am Ddeddf iawndal 1961—nid oes gennyf i ateb i'r cwestiwn hwnnw, rwy'n ofni, ond byddaf yn sicr yn hapus i anfon nodyn at yr Aelod.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.