Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 1 Mai 2018.
Diolch yn fawr am y sylwadau hynny ac rwy'n croesawu'n arbennig y ffordd yr agoroch chi eich sylwadau mewn modd cadarnhaol. Byddaf yn sicr yn ceisio symud ymlaen yn yr ysbryd hwnnw hefyd. Fe sonioch chi eich bod yn falch o glywed fy mod yn awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol, yn enwedig, i ddechrau adeiladu llawer o dai yn gyflym, a byddech wedi fy nghlywed yn sôn yn y Siambr o'r blaen am y gwaith yr wyf yn ei wneud i geisio gweithio gydag awdurdodau lleol i gynyddu'r cap benthyg. Fel diweddariad felly, rwyf wedi ymgynghori ag awdurdodau lleol ar rai cynigion. Mae un yn y tymor byr: sut ydym yn defnyddio'r capasiti benthyca sydd heb ei neilltuo sydd gennym, felly tua £17 miliwn—sut ydym yn canolbwyntio hynny ar yr awdurdodau lleol sy'n barod i adeiladu? A hefyd sut ydym yn mynd i'w herio nhw dros y tymor canolig i lunio rhai cynlluniau posibl y gellid eu cyflwyno'n gyflym iawn, petai arian ychwanegol a chapasiti benthyg ar gael gan Lywodraeth y DU? Rydym yn sicr yn cael y trafodaethau hynny gyda'r Trysorlys, a chyn gynted ag y gallaf i ddiweddaru'r wybodaeth i'r Aelodau, byddaf yn falch o wneud hynny. Ond, fel rwy'n dweud, mae gwaith yn mynd rhagddo ynghylch hynny.
O ran yr angen am dai, rwyf yn ymwybodol iawn o adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru a gomisiynwyd gan Alan Holmans a'i gyhoeddi yn ôl yn 2015. Rwyf yn cydnabod bod angen diweddaru'r ffigurau hynny bellach. Gwn fod llawer o ddadlau wedi bod rhyngoch chi a Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd ynglŷn â'r ffigurau hynny. Rydych yn cyfeirio at y rhagamcan arall, sef y rhagamcan sy'n awgrymu y byddai angen 12,000 o unedau'r flwyddyn. Fel rwy'n deall, roedd y rhagamcanion eraill hynny yn seiliedig ar set gynharach o ragamcanion aelwydydd—y cyfrifiad yn seiliedig ar 2006—ac nid yw'r rheini yn ystyried y newidiadau mwyaf diweddar i faint aelwydydd a'r math o aelwydydd, a gofnodwyd gan y cyfrifiad. Felly, rydym yn symud ar hyd llwybr gwahanol, a dyna pam y mae angen inni edrych eto a gwneud mwy o waith ac ailasesu'r ffigurau hynny. Felly, rydym yn gwneud hynny.
Mae fy swyddogion wedi cyfarfod ag arbenigwyr, gyda'r bwriad o ddatblygu darn o waith cadarn a fydd yn edrych ar yr angen am dai ledled Cymru, ac yng nghyd-destun hynny yn sicr y bydd yr adolygiad yn digwydd. Dywedaf hefyd fod swyddogion wedi bod yn casglu gwybodaeth am y dull o wneud penderfyniadau ynghylch yr angen am dai a ddefnyddir gan lywodraethau eraill y DU, ac yn sicr maen nhw wedi cael rhai sgyrsiau adeiladol gyda swyddogion—o Lywodraeth yr Alban yn arbennig. Felly, bydd yr wybodaeth hon, ynghyd â chyngor gan arbenigwyr allanol, yn helpu i benderfynu beth fydd ein dull ni o weithredu. Hoffwn dawelu meddwl yr Aelodau drwy ddweud fy mod yn ystyried yr angen am dai yn y dyfodol yn ddifrifol ac felly hefyd sicrhau targedau cadarn ymarferol sydd hefyd yn adlewyrchu'r angen sydd yn y gymuned. Ond rwyf hefyd yn edrych ar yr angen am dai, gan ei dorri i lawr i'r gwahanol fathau o ddeiliadaeth a'r gwahanol fathau o dai: tai cymdeithasol, tai canolraddol, tai fforddiadwy ac yna dai'r farchnad agored.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle—. Er nad yw'n rhwydd inni wthio ac ysgogi tai'r farchnad agored, credaf mewn gwirionedd y gallwn greu hinsawdd ar gyfer gwella'r broses o gyflenwi, a chyflymu cyflenwi tai'r farchnad agored. Un ffordd o wneud hynny fyddai drwy ein rhaglen dai arloesol a fydd, rwy'n credu, yn rhoi modd inni adeiladu tai yn llawer cyflymach yn y dyfodol. Ddydd Iau diwethaf roeddwn yn falch iawn ein bod wedi agor cylch ceisiadau 2018-19. Dyma'r tro cyntaf inni agor hwn nid yn unig i landlordiaid cymdeithasol, ond hefyd i'r sector preifat, fel y gall adeiladwyr y sector preifat wneud cais am gyllid er mwyn cefnogi'r elfen o arloesi wrth iddyn nhw adeiladu hefyd. Rwy'n credu y gallai hyn gynnig cyfle i lawer mwy o dai arloesol gael eu hadeiladu. Buddsoddiad o £90 miliwn dros dair blynedd yw hwn; dyfarnwyd £19 miliwn i 22 o brosiectau arloesol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, felly erys £71 miliwn. Mae digon o gyfle i gynlluniau da gael eu cynnig, ond mae'n glir, er ein bod ar hyn o bryd yn arloesi ac yn rhoi llawer o wahanol syniadau ar brawf, bydd yn rhaid inni gyrraedd pwynt lle byddwn mewn gwirionedd, drwy werthuso gwahanol brosiectau, yn penderfynu ar yr hyn sydd orau i Gymru, ac yn penderfynu ymhle i ganolbwyntio ein hymdrechion o ran creu'r raddfa o adeiladu y byddem eisiau ei weld yn y dyfodol.
O ran a wyf i'n hyderus y byddwn yn cyrraedd ein targed o 20,000—ydw, rydw i'n hyderus. A gallaf ddweud wrthych ein bod ni'n chwalu'r targed hwnnw: 5,500 o unedau grant tai cymdeithasol; 1,500 o unedau grant cyllid tai 2; daw 6,000 o'r unedau drwy Cymorth i Brynu; bydd 1,000 yn rhai Rhentu i Brynu, neu'n rhai Rhanberchnogaeth, a dyna'r ddau gynllun y tynnais sylw arbennig atyn nhw heddiw; byddem yn gobeithio i 1,000 gael eu hadeiladu drwy raglen adeiladu tai cyngor yr awdurdod lleol; 1,000 drwy'r rhaglen dylunio arloesol; 1,000 drwy gytundebau adran 106; 800 drwy Leoedd Llewyrchus Llawn Addewid; a 2,500—adeiladau hunanariannu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Byddai hynny'n fwy na 20,000. Ac un o'r rhesymau pam yr wyf yn hyderus ein bod yn gallu cyrraedd y targed hwnnw yw oherwydd, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae adeiladwyr tai yn aml yn gweithio i raglen dreigl dair blynedd, felly rydym yn gallu gweld y math o brosiectau sydd ar y ffordd a'r nifer o dai sydd ar y gweill. Mae hynny'n rhoi hyder inni y byddwn yn gallu cyrraedd y targed hwnnw. Ond fel rwy'n dweud, hoffwn weld yr adolygiad yn ystyried gosod targedau mwy uchelgeisiol hyd yn oed ar gyfer y dyfodol.