Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 1 Mai 2018.
Diolch am anfon copi o'r datganiad ymlaen llaw, a chyn imi ofyn cwestiynau am y datganiad arbennig hwn, hoffwn ofyn eich barn chi am rai o'r adroddiadau ar y newyddion, dros y penwythnos, a oedd yn sôn am gynghorau yn Lloegr yn ystyried prynu stoc dai yma yng Nghymru—credaf i Gyngor Merthyr gael ei grybwyll. Dyw hyn ddim yn ffenomen newydd, mewn gwirionedd. Pan oeddwn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gwelais DVD gan Fwrdeistref yn Llundain, a oedd yn awyddus i hyrwyddo Ceredigion fel lle i fyw i denantiaid yn Llundain, sydd, yn amlwg, ddim yn beth drwg yn fy marn i—dylem annog pobl i ddod i Gymru os ydynt yn dewis byw yng Nghymru—ond beth mae hynny'n ei olygu i chi, fel Llywodraeth, os oes cynghorau yn Llundain yn prynu stoc y byddech chi efallai eisiau ei ddatblygu yma yng Nghymru, gyda chynghorau Cymru? Sut ydym i ddeall beth yw eich ymgysylltiad chi â'r awdurdodau lleol hynny, er mwyn gwybod sut y bydd hynny yn effeithio ar ein targedau yma yng Nghymru?
Rydym ni yn croesawu'r adolygiad. Rwyf hefyd yn croesawu'r cylch gorchwyl, ac yn enwedig y canolbwyntio ar opsiynau ariannu i sicrhau'r dewisiadau o dai fforddiadwy hirdymor sydd gennym. Rwy'n deall—fel yr ydym i gyd—bod ystyriaethau ariannol yn bwysig yn yr hinsawdd bresennol, ond wrth gwrs, mae angen inni fod yn uchelgeisiol, nid yn unig yn y sector rhentu cymdeithasol ond o ran cartrefi i'w prynu. Amcangyfrifir pe byddai'r DU wedi adeiladu 300,000 o gartrefi yn y DU bob blwyddyn ers 1996, yna ar gyfartaledd byddai pris tŷ yn y DU heddiw dim ond 7 y cant yn is nag ydyw ar hyn o bryd. Nid canlyniad prinder cartrefi'n unig yw'r argyfwng tai presennol. Mae'n ganlyniad methiant y Llywodraeth a benthycwyr i gydnabod yr effaith y mae swyddi ansefydlog, cyflog llonydd a'r cynnydd mewn costau byw yn ei chael ar draws y sector cyfan. Felly, petai'r llywodraeth yn gallu camu i'r adwy i helpu pan fo'n bosib, byddwn yn sicr yn croesawu hynny.
Mae'n hollbwysig, o ystyried cost tai a chostau byw cynyddol, ynghyd â chyflogau llonydd, bod cymorth iawn ar gael i bobl sy'n ceisio cael cartref fforddiadwy. Felly, croesawaf lansiad y wefan hon. Mae'n bwysig cael yr holl help a gwybodaeth mewn un lle. Yn y gorffennol rydym wedi beirniadu rhai cyhoeddiadau tameidiog a'r sefyllfa lle ceir llawer o wybodaeth mewn llawer o leoedd gwahanol, felly rydym yn obeithiol y bydd y wefan hon yn gwella'r sefyllfa i raddau helaeth.
O ran y ddau gynllun newydd a lansiwyd ac agweddau eraill ar yr adolygiad, hoffwn i ofyn rhai cwestiynau penodol. Faint o'r £70 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd yn ei adennill o'r ariannu, yn arbennig o safbwynt Rhentu i Brynu? A ydych yn hyderus fod y swm yn ddigonol? O ran y cynlluniau cyfredol eraill, credaf y dylid nodi nad cynllun ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf yn unig yw Cymorth i Brynu. Ar gyfartaledd, pris cartref dan y cynllun oedd £180,000, ac nid prynwyr am y tro cyntaf oedd chwarter y prynwyr. Felly, efallai fod modd canolbwyntio mwy ar y gynulleidfa darged wirioneddol. Credaf i'r cynllun hwn gael ei lansio ar y dechrau i helpu'r diwydiant adeiladu hefyd, felly hoffwn ofyn a allai'r adolygiad ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o gynorthwyo prynwyr am y tro cyntaf.
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan ITV yn ddiweddar fod 43,000 o gartrefi gwag yng Nghymru erbyn hyn—bron dwbl y nifer ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae hyn er gwaethaf cynllun Llywodraeth Cymru i wneud yn sicr bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Felly, a all eich adolygiad geisio canfod pa mor effeithiol yw'r polisïau cyfredol yn hyn o beth? Deallaf fod gan gynghorau bwerau i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, ond yn amlwg nid ydynt yn defnyddio'r pwerau hynny, neu byddai'r nifer yn uwch na'r hyn yr wyf newydd ei ddyfynnu.
Hoffwn hefyd i'r adolygiad ymchwilio i'r hyn y gellid ei wneud ynghylch rhenti uchel a chynnydd. Ar hyn o bryd, mae cynnydd rhent y sector preifat ar gyfartaledd yn llai na'r swm a ganiateir ar gyfer cynnydd mewn rhent yn y sector rhentu cymdeithasol. Felly, mae angen edrych ar hyn, ynghyd â dewisiadau eraill.
Yn olaf, fe wnaethoch chi sôn am gymunedau gwledig a sut yr ydych yn awyddus i edrych ar ffyrdd arloesol eraill o annog cymunedau gwledig i edrych ar y dewisiadau ym maes tai. Hoffwn ddweud hefyd bod angen inni gael mwy o ymgysylltu cymunedol mewn cymunedau. Felly, os gallant o bosib nodi'r hyn sydd ei angen, er enghraifft iaith neu nodweddion penodol y mae angen eu cadw o bosib yn yr ardaloedd hynny—pwnc dadleuol yn aml, ond pwnc y mae angen inni fynd i'r afael ag ef—yna beth fydd eich adran yn eu hystyried yn ddewisiadau ymarferol i'r perwyl hwnnw?