Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 1 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Rwy'n mynd i ddechrau lle gwnaethoch chi orffen, o ran y gefnogaeth i adeiladu tai a chymorth i bobl sydd eisiau bod yn berchen ar gartref, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Oherwydd, rydym yn gwybod, mewn cymunedau gwledig, fod yna her arbennig o ddifrifol o ran fforddiadwyedd, yn enwedig rwy'n credu, i rai o'n gweithwyr allweddol—nyrsys, athrawon ac ati—sy'n ei chael yn wirioneddol anodd fforddio cartref yn eu cymuned eu hunain.
Mae swyddogaeth ein swyddogion galluogi tai gwledig yn arbennig o bwysig o ran gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, yn y cymunedau gwledig hynny, er mwyn nodi'r meysydd lle mae angen inni roi rhagor o fuddsoddiad a chreu mwy o gyfleoedd i adeiladu cartrefi. Rwy'n arbennig o awyddus i weld beth allwn ni ei wneud ynghylch annog hunanadeiladu, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion roi cyngor i mi ar hyn. Mae'n rhywbeth, mewn gwirionedd, a allai fod yn fuddiol ar gyfer pob math o gymunedau. Ond mewn cymunedau gwledig yn benodol, credaf y gallai fod yn rhywbeth sy'n rhoi cyfleoedd i bobl.
Rydym hefyd wedi sefydlu grŵp strategol gwledig, ac mae hwnnw'n cynnwys y swyddogion galluogi tai gwledig hynny, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC. Mae'r grŵp yn cwrdd bob chwarter bellach er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru, ond hefyd i brofi syniadau a rhannu arferion da. Rwy'n cytuno bod ein cynigion tai, ond hefyd gydweithio mewn partneriaeth â chynllunio, yn gyfle i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg, yn enwedig yn aml eto, mewn cymunedau gwledig. Rwy'n credu bod gan dai swyddogaeth bwysig i gefnogi'r Gymraeg.
Gwnaethoch gyfeirio hefyd at gartrefi gwag, ac rwy'n rhannu eich pryder ynghylch nifer y cartrefi gwag ledled Cymru. Gallai rhai o'r rheini yn hawdd fod yn gartrefi y mae eu hangen yn fawr ar bobl. Felly, rydym wedi ymrwymo eto i weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ailddefnyddio tai a darparu cefnogaeth barhaus i'r awdurdodau hynny, i'n cynlluniau Troi Tai'n Gartrefi a benthyciadau canol trefi. Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn, a weithredir gan awdurdodau lleol, yn cyfateb i dros £50 miliwn, gan roi'r cyllid sydd ei angen ar berchnogion cartrefi er mwyn iddynt adnewyddu'r eiddo hynny a dod â nhw i safon sy'n addas i'w rhentu neu werthu.
Diwygiwyd telerau ac amodau'r cynllun Troi Tai'n Gartrefi yn ddiweddar i alluogi awdurdodau lleol i fod yn fwy hyblyg er mwyn iddynt allu cynnig ateb i'r broblem tai gwag sy'n canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid. Mae benthyciadau ar gael erbyn hyn i allu ailddefnyddio tai gwag ac adeiladau masnachol, ond mewn gwirionedd i'w rhannu'n fflatiau hefyd er mwyn ceisio creu mwy o gartrefi. Felly, mae gwaith ar y gweill ar gartrefi gwag, ond rwy'n cytuno bod angen inni ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud. Yn lleol, rwy'n gwybod am enghreifftiau da yn Abertawe lle mae'r cyngor yn darparu cyllid i berchnogion cartrefi gwag sydd yna'n cael eu hannog i wella safon eu cartrefi ar y ddealltwriaeth y bydd ganddynt denant gwarantedig. Felly, mae hynny'n ateb ein hagenda ni a'u hagenda nhw o ran creu mwy o dai cymdeithasol, ond hefyd o ran ailddefnyddio cartrefi gwag.
Mae'r cynnydd yn y costau byw a'r anhawster i sicrhau digon o arian ar gyfer blaendal yn rhai o'r ysgogiadau mawr y tu ôl i gynllun Rhentu i Brynu: Cymru a chynllun Rhanberchenogaeth: Cymru. Dylwn fod wedi nodi yn gynharach bod y cynllun rhentu i brynu yn benodol yn un o'r cytundebau y daethpwyd iddo gyda Kirsty Williams, sydd wedi bod yn arbennig o frwd ynghylch hwn a'r cyfle y mae'n ei gynnig ers tro byd.
Mae'r cynllun rhentu i brynu yn gyfle i bobl symud i mewn i'r tŷ y maent ei eisiau yn gynnar yn y broses, ond yna byddant yn gallu talu rhent ar yr eiddo hwnnw a, rhwng dwy a phum mlynedd yn ddiweddarach, byddant yn gallu hawlio yn ôl 25 y cant o'r arian a dalwyd ganddynt fel rhent, a defnyddio hwnnw fel blaendal, ynghyd â pheth o werth unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo hwnnw hefyd. Felly, mae'n gyfle i bobl, pobl ifanc yn aml, ond fel y dywedwch chi nid pobl ifanc bob amser, symud i mewn i'r tŷ y byddent yn hoffi byw ynddo ac y byddent yn hoffi ymgartrefu ynddo yn gynnar yn y broses.
Mae chwe chymdeithas dai yn gweithio gyda ni ar hyn o bryd ond rydym yn cael trafodaethau i gynyddu'r rheini a hoffwn i weld y tai hyn ar gael ledled Cymru. Mater i'r unigolyn i benderfynu arno yw dewis mynd am rhentu i brynu neu'r cynllun rhanberchenogaeth, ond mae'r tai penodol hynny ar gael ar gyfer y ddau gynllun hefyd.
Byddaf yn sicr yn cael rhai trafodaethau gyda swyddogion am y sgyrsiau a gawsant ag awdurdodau lleol am y storïau dros y penwythnos y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw. Ond byddwn yn dweud bod symudiadau pobl dros y ffin yn rhywbeth sy'n sicr ar fy radar i, yn enwedig yn ardal Casnewydd yn dilyn y cyhoeddiad am gael gwared ar y tollau ar bont Hafren. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag adeiladwyr tai ac maen nhw'n dweud wrthyf ei fod yn cael effaith wirioneddol ar y pwysau ar y farchnad dai yn yr ardal honno. Mae nhw wedi gweld mwy o awydd am adeiladu tai yn yr ardal, felly bydd yna rai trafodaethau y bydd angen inni barhau i'w cael gyda'r awdurdod lleol yn y fan honno i sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion pobl yr ardal sydd eisiau aros o fewn eu hardal hefyd.