– Senedd Cymru am 5:53 pm ar 1 Mai 2018.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar sgiliau digidol a chodio. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr. Thank you. Rhan hanfodol o'n cenhadaeth genedlaethol, Llywydd, yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael y sgiliau digidol lefel uchel sy'n golygu bod ein pobl ifanc yn ddigidol gymwys i fod yn feddylwyr beirniadol, creadigol a mentrus. Gwn fod hwn yn faes o ddiddordeb i lawer o Aelodau, felly tybiais heddiw y byddai'n ddefnyddiol amlinellu'r cynnydd a wnaed.
Mae ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer addysg yn nodi sut y bydd y system ysgol yn gweithredu'r cwricwlwm newydd, â phwyslais ar arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol, a rhagoriaeth a thegwch wrth wraidd system hunanwella i ysgolion. Roedd y fframwaith cymhwysedd digidol—y DCF—a oedd yn anelu at ymwreiddio sgiliau digidol, ar gael ym mis Medi 2016 fel elfen gyntaf ein cwricwlwm newydd. Bydd cymhwysedd digidol yn ffurfio un o'r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd, o fewn y cwricwlwm newydd. Mae hynny, ynddo'i hun, yn arwydd clir o'r pwysigrwydd a roddaf i a Llywodraeth Cymru i'r maes pwysig hwn. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael ar ein llwyfannau dysgu, Hwb a Dysgu Cymru, i helpu ysgolion i weithredu'r DCF, cynllunio eu darpariaeth a datblygu gweledigaeth ddigidol. Mae ysgolion arloesi digidol wrthi ar hyn o bryd yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i weithredu a datblygu deunyddiau a gynhelir ar Hwb.
Er mwyn galluogi ysgolion i gael eu hymgorffori'n llawn yn y DCF, mae consortia rhanbarthol yn gwneud gwaith manwl i gyflunio dysgu proffesiynol digidol â'r safonau proffesiynol newydd, y modelau dysgu proffesiynol cenedlaethol a gofynion cymeradwyo yr academi arweinyddiaeth, i ddatblygu fframwaith dysgu proffesiynol digidol cenedlaethol ar gyfer pob ysgol. Bydd y fframwaith newydd hwn yn cefnogi athrawon ac arweinwyr i ddatblygu profiadau dysgu digidol effeithiol a chynaliadwy ar gyfer disgyblion, ac yn rhoi iddynt yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i weithio mewn cymdeithas fwyfwy digidol. Mae safonau addysgu ac arweinyddiaeth yn ystyried yn fanwl gysyniadau ac ymddygiadau pwysig sy'n berthnasol i ddysgu digidol. Cynhelir gwaith manwl ar ddylunio ar gyfer y we, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn ystod tymor yr haf, cyn y bydd y fframwaith dysgu proffesiynol digidol rhyngweithiol ar gael i bob ysgol yn raddol.
Llywydd, byddwch hefyd yn gwybod fy mod wedi siarad droeon am bwysigrwydd codio. Fis Mehefin diwethaf, lansiais gynllun 'Cracio'r Cod', ein cynllun i wella sgiliau codio. Gyda chefnogaeth dros £1 miliwn o gyllid, rydym yn gweithio gyda chonsortia, busnesau, partneriaid trydydd sector a phrifysgolion fel bod mwy o ddysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn cyn y cwricwlwm newydd. Hefyd, cefnogir 'Cracio'r Cod' gan nifer o randdeiliaid allweddol, megis Clwb Cod y DU, Sony, yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau a Technocamps. A dim ond y bore yma, Llywydd, cefais gyfle i ymweld ag ysgol St Philip Evans, yma yn Llanedeyrn yng Nghaerdydd. Mae'n enghraifft wych o sut y mae cymhwysedd digidol a sgiliau codio yn cael eu datblygu gan blant o oedran ifanc iawn. Rwy'n siŵr y gallai rhai o blant y feithrinfa a phlant blwyddyn 1 fod wedi codi cywilydd ar rai ohonom â'u dealltwriaeth a'u gallu i weld pwysigrwydd y sgiliau hyn.
Mae 'Cracio'r Cod' hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth o sgiliau codio, yn ogystal â chefnogi ysgolion, ac rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud mewn cyfnod byr o amser. Ar ddiwedd mis Mawrth 2018, cofrestrodd 473 o glybiau gweithredol â Chlwb Cod y DU, ac mae hynny'n gynnydd o tua 173 clybiau, o'i gymharu â mis Mehefin y flwyddyn flaenorol. Mae llawer mwy o ysgolion yn gweithio gyda Chlwb Cod y DU a'r pedwar consortiwm addysgol rhanbarthol, sydd o bosib heb gofrestru'n ffurfiol â Chlwb Cod y DU eto, gan ei gwneud yn anodd gwybod faint yn union o glybiau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Ochr yn ochr â 'Cracio'r Cod', mae Technocamps—uned cyswllt diwydiannol o adran gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe—wedi derbyn dros £1.2 miliwn o gyllid addysg Llywodraeth Cymru i ddarparu gweithdai codio cyfrifiadurol i ddisgyblion ac athrawon mewn ysgolion yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi profiad ymarferol i athrawon a dysgwyr mewn amrywiaeth o weithgareddau ac offer codio, ac mae'n sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd o leiaf un athro sydd â phrofiad uniongyrchol o weithio gyda chodio.
Bydd cam nesaf y rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol yn rhoi mwy o ddewis i athrawon o ran yr offer digidol a ddefnyddir ganddynt yn yr ystafell ddosbarth, gyda Google for Education yn cael ei gyflwyno i lwyfan Hwb o dymor y gwanwyn 2018. Gan adeiladu ar yr offer presennol sydd ar gael, gan gynnwys Microsoft Office 365 a Just2easy, gall athrawon ddewis o blith ystod eang o adnoddau, megis Google Classroom, gan hwyluso cydweithredu a rheoli dyfais pwerus ar gyfer Chromebooks.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod blaenoriaethu'r mynediad gan ysgolion at fand eang cyflym iawn yn rhan allweddol o'r cytundeb blaengar a ddaeth â mi i'r Llywodraeth hon. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bob ysgol fynediad at fand eang cyflym iawn, ac mae'n rhaid i'n seilwaith fodloni ein huchelgais. Felly rwyf wedi cyhoeddi y bydd £5 miliwn ychwanegol ar gael i uwchraddio cysylltiadau band eang mewn ysgolion ledled Cymru, ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae yna nifer bach o ysgolion lle mae materion ynghylch capasiti band eang yn parhau i fod yn rhwystredig. Mae pob un ond un o archebion yr ysgolion hynny wedi'u cyflwyno i'r darparwyr rhyngrwyd—darparwyr seilwaith—ac rydym yn parhau i weithio gyda phob ysgol i ddod o hyd i atebion.
Ochr yn ochr â hyn, mae cyfres o safonau addysg digidol i helpu ysgolion i gael offer ac adnoddau yn cael ei datblygu. Gan weithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, rydym ar hyn o bryd yn cynnal asesiad o 180 o ysgolion i helpu i lunio safonau a deall pa gymorth ac arweiniad fydd eu hangen yn y dyfodol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod nad yw ein gwaith yn dod i ben gyda'r ysgolion. Ar ymweliad diweddar â Choleg Meirion Dwyfor, gwelais â'm llygaid fy hun sut y mae'r coleg yn gweithio gyda phartneriaid allweddol ac ysgolion i annog dysgwyr ifanc i gymryd rhan mewn rhaglenni codio. Soniodd y myfyrwyr a oedd yn ymwneud â menter clybiau codio'r Coleg am eu llawenydd wrth weithio gydag ysgolion lleol a'r dilyniant o un ymweliad i'r nesaf a brwdfrydedd y dysgwyr wrth gwblhau'r rhaglenni codio, a oedd, yn eu geiriau nhw, bron â bod yn barod ar gyfer y farchnad.
Yn fy llythyr cylch gorchwyl CCAUC blynyddol, a gyhoeddwyd fis diwethaf, soniais fy mod yn disgwyl i'r cyngor a phrifysgolion gynyddu eu hymgysylltiad â diwydiant ac ysgolion i wella'r mynediad at godio ymhellach. Dyna pam yr wyf wedi darparu £1.2 miliwn i gefnogi prifysgolion Cymru i greu Sefydliad Codio. Mae hyn yn cynnwys £200,000 i gefnogi gweithgarwch cenhadaeth ddinesig o godio mentrau mewn ysgolion a cholegau, ac i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a phrifysgolion. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i brifysgolion Caerdydd ac Abertawe fod yn aelodau gweithgar o gonsortiwm y DU-gyfan sy'n creu'r Sefydliad Codio. Bydd y sefydliad yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol ar lefelau 6 a 7 ac yn galluogi partneriaid i ddatblygu a darparu addysg arloesol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y cyllid newydd hwn yn sicrhau bod Cymru yn chwarae ei rhan yn llawn a'n bod mewn sefyllfa dda i elwa ar fanteision y sefydliad.
Llywydd, fel yr amlinellais, mae'r Llywodraeth hon yn cymryd nifer o gamau arwyddocaol i sicrhau bod ein pobl ifanc yn meddu ar sgiliau digidol lefel uchel. Fodd bynnag, mae'n neilltuol o bwysig bod pob un o'r camau hyn, yn eu tro, yn ffurfio cynllun cydlynol a ddarperir mewn ffordd a fydd yn codi safonau yn yr ystafell ddosbarth, ac yn cefnogi disgyblion i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol. Diolch.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r newyddion y bydd prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn derbyn cyllid i ehangu codio mewn ysgolion, colegau a chymunedau. Bydd hyn yn helpu'r prifysgolion hyn i fod yn rhan o Sefydliad Codio'r DU, a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol, sy'n bartneriaeth â chwmnïau technoleg blaenllaw, prifysgolion a chyrff y diwydiant mewn ymgais i gryfhau sgiliau digidol yn y wlad hon yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi wrth ganmol y fenter hon gan Lywodraeth y DU.
Mae codio yn sgil sydd ei angen ar bob sefydliad. Mae cod wedi dod yn rhan mor annatod o fusnesau, ac o'n bywydau cyfan, fod cod wrth wraidd bron i bob busnes erbyn heddiw. Felly, a gaf i ofyn sut y bydd hi'n sicrhau bod cynlluniau'r Llywodraeth i roi sgiliau digidol arbenigol i Gymru yn cyfateb i faint yr heriau sydd o'n blaenau? Mae'n hanfodol addysgu pobl ifanc sut i lwyddo yn y byd digidol. Gwnaeth yr adroddiad Cymreig o'r enw 'Cracio’r Cod: Cynllun i ehangu clybiau codio ym mhob rhan o Gymru' sawl ymrwymiad o dan bob pennawd strategol. Fodd bynnag, mae llawer o'r ymrwymiadau hyn yn amwys, ac nid oes amserlen ar gyfer newid, sy’n ei wneud yn anodd monitro'r cynnydd. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd y cynllun hwn?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu ansawdd a maint y cymorth cyfrwng Cymraeg i ysgolion ar gyfer codio. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw'r Llywodraeth wedi creu parth pwrpasol ar Hwb i ddod â phartneriaid ac ysgolion at ei gilydd i greu ystorfa o brosiectau ac adnoddau? Mae angen ymrwymiad cydlynol a hirdymor arnom ni gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Ddigidol, o sgiliau i seilwaith. Mae Estyn wedi codi pryderon nad yw cynnydd sgiliau digidol disgyblion yn cadw'n gyfredol â thechnoleg yng Nghymru. Mae'n adrodd bod cyfleoedd i ddatblygu sgiliau TGCh ar draws y pynciau yn gyfyngedig mewn llawer o ysgolion uwchradd ac mewn traean o'r ysgolion cynradd. Mewn ychydig o dan ddwy ran o dair o ysgolion cynradd, ceir diffygion mawr yn safonau TGCh. Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn hyderus wrth ddefnyddio rhaglenni megis prosesu geiriau a chreu cyflwyniadau, mae eu sgiliau yn aml yn gyfyngedig i ystod gul o raglenni. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac yn ymdrin â'r ffaith bod nifer y myfyrwyr sy'n astudio TGCh yng Nghymru wedi gostwng? Hefyd, ceir gwahaniaeth anferth o ran rhywedd yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio cyfrifiadureg ar Safon Uwch. Safodd tri chant tri deg a naw o fyfyrwyr gyfrifiadureg Safon Uwch y llynedd; dim ond 32 o'r rhain oedd yn fenywod. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i fynd i'r afael â'r bwlch syfrdanol hwn rhwng y rhywiau?
Un mater pwysig yw bod ein bywydau digidol yn newid mor gyflym fel bod addysgwyr yn cael trafferth i gadw'n gyfredol â hyn. Mae sgiliau digidol yn newid yn gynt na darparwyr addysg ffurfiol. Mae'r diwydiant yn datblygu ar y fath gyfradd, ond gall fod deng mlynedd rhwng yr amser o ddechrau llunio cwricwlwm a'i gymeradwyo gan y gwahanol gyrff, i'r adeg y bydd myfyrwyr yn graddio yn y pen draw. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ein haddysgwyr yn cadw i fyny â chyflymder y newid?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae lefel gallu digidol unigolyn yn prysur ddod yn ffactor allweddol yn ei allu i sicrhau cyflog da, ac eto mae Cymru'n glytwaith o sgiliau digidol. Mae mynegai datblygu digidol Barclays 2017, sy'n dadansoddi 88,000 o hysbysebion swyddi'r DU, ynghyd â 6,000 o oedolion, yn honni bod gweithwyr Cymru yn sgorio ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU o ran eu sgiliau digidol. Gobeithio y byddwn yn derbyn datganiadau'n rheolaidd gennych chi ar y cynnydd a gaiff ei wneud wrth roi Cymru ar frig y gynghrair o sgiliau digidol yn y Deyrnas Unedig. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Cymru'n chwarae ei rhan wrth ddatblygu sefydliadau ledled y DU. Ni ddylem gau'r drws ar gymryd rhan yn y mentrau hyn, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu ariannu prosiectau prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn llwyddiannus drwy CCAUC. Mae hyn yn datblygu ar eu traddodiad cryf, eu presenoldeb cryf yn y pynciau hyn, a bydd yn caniatáu iddynt gymryd rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu'r Sefydliad Codio. Felly, rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gweithio drwy CCAUC i ddarparu'r adnoddau hynny.
Gofynnodd yr Aelod am ehangu'r clybiau codio. Rydym ni'n gweld ehangiad sylweddol yn y clybiau codio, ond wrth gwrs mae mwy y byddem ni'n hoffi ei wneud bob amser, ac rydym ni wedi rhoi adnoddau i mewn i hynny. Mae'n bwysig i mi, ac rwy'n gwybod ei bod yn bwysig i Weinidogion eraill hefyd, fod y clybiau codio yn gymysgedd o ddarpariaeth o fewn yr ysgol ar gyfer plant ysgol a'n bod ni hefyd ystyried clybiau codio cymunedol sy'n yn agored i'r boblogaeth fwy cyffredinol. Rydym ni'n cydnabod bod manteision ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion, er enghraifft, i gael y gallu i feithrin y sgiliau hyn er mwyn gwella eu cyflogadwyedd.
O ran parthau arbenigol ar Hwb, nid oes angen ichi ddibynnu ar yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi am hyn, Oscar, y cyfan sydd ei angen i chi ei wneud yw mewngofnodi i Hwb. Gallwch gwglo Hwb heddiw, gallwch glicio ar y parthau a byddwch yn gallu gweld ein bod ni'n llenwi platfform Hwb â chynnwys newydd ac arloesol yn gyson, gan gynnwys gwaith sy'n cefnogi ein rhwydwaith o ragoriaeth mewn mathemateg a'n rhwydwaith o ragoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, a hefyd, yn fwyaf diweddar, ein parth newydd ar Hwb, sydd â'r nod o gefnogi lledaenu arfer da o ran y cyfnod sylfaen.
Rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn a ddywedir yn adroddiad arolygu blynyddol Estyn am ansawdd yr addysgu TGCh mewn ysgolion, ond dylem ni bob amser wahaniaethu rhwng TGCh a chyfrifiadureg bob amser. Nid yw sefyll arholiadau TGCh a sefyll arholiadau cyfrifiadureg yr un peth, a dyna un o'r rhesymau pam yr oedd angen inni roi'r fframwaith cymhwysedd digidol—y rhan gyntaf un o'n cwricwlwm cenedlaethol—ar waith yn gyntaf er mwyn mynd i'r afael â'r hyn sydd gan adroddiad arolygu Estyn i'w ddweud.
Mae dau beth allweddol sydd angen i ysgolion eu gwneud yn hyn o beth. Mae angen iddynt allu edrych yn greadigol ar sut y gallan nhw ddefnyddio technoleg ddigidol mewn dosbarth annibynnol, Oscar, ond hefyd mewn gwirionedd mewn modd cydlynol drwy'r cwricwlwm cyfan. Nid oes gan yr ysgol yr es i iddi y bore yma ystafell gyfrifiaduron y mae plant yn mynd iddi am gyfnod o 15 munud. Mae cyfrifiaduron a thechnoleg ddigidol yn rhan annatod o sut y caiff y cwricwlwm cyfan ei gyflwyno, ym mhob gwers ac ym mhob un rhan o'r diwrnod ysgol, ac mae angen inni sicrhau bod yr hyn a welais y bore yma yn ysgol Sant Philip Evans yn cael ei ail-greu ledled Cymru.
Un o'r rhesymau allweddol pam nad yw hyn yn digwydd weithiau, yn enwedig mewn pynciau y tu allan i TGCh a chyfrifiadureg, yw cymhwysedd yr athrawon eu hunain a hyder yr athrawon, yn enwedig os yw'r athrawon hynny wedi gwneud eu hyfforddiant athrawon cychwynnol a'u hymarfer proffesiynol cyn i'r technolegau hyn fod ar gael yn rhwydd. Dyna pam yr wyf i wedi treulio llawer o amser yn fy natganiad yn sôn am ddatblygu safonau proffesiynol cenedlaethol a phecyn dysgu proffesiynol i gefnogi'r athrawon hynny, oherwydd bod angen iddynt fod â'r hyder, y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol. Ac fe ddywedwn i wrth bob ysgol fod offeryn ar gael ar Hwb lle y gallwch chi roi prawf ar y gallu a geir yn eich ysgol chi, fel y mae ar hyn o bryd, a dechrau cynllunio'r hyn y bydd angen i chi ei wneud i wella eich darpariaeth.
Gwnaethoch chi sôn hefyd am fenywod yn y materion hyn. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod arweinydd y tŷ, yn rhan o'i gwaith ar gydraddoldeb, ac ar y cyd â minnau ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, yn gweithio'n agos gyda grŵp sy'n goruchwylio'r gweithredu ar yr adroddiad menywod mewn pynciau STEM. Rydym ni'n cydnabod bod mwy i'w wneud i sicrhau bod merched a menywod yn gweld bod yna le iddyn nhw i ddilyn y pynciau hyn yn yr ysgol ac, yn hanfodol, i ddilyn gyrfa gan ddefnyddio'r sgiliau hynny y maen nhw wedi'u caffael yn yr ystafell ddosbarth. Byddwn ni'n parhau i weithio gydag asiantaethau allanol ac unigolion i fynd i'r afael â'r materion hynny er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o ferched yn manteisio ar y cyfleoedd hyn a'r cyfleoedd gyrfa a ddaw yn sgil astudio'r pynciau hyn.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd am ei datganiad a chroesawu’r hyn yr oedd ganddi hi i ddweud? Mae Plaid Cymru, ers cryn amser, wedi cefnogi gwneud mwy i ddysgu disgyblion i greu yn ogystal â defnyddio adnoddau digidol fel hyn, ac felly rŷm ni’n sicr yn symud i’r cyfeiriad iawn. Mor bwysig ag yw cael fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod, nid yw hynny yn ei hunain yn ddigon. Yr her fwyaf fan hyn yw grymuso athrawon ar y rheng flaen i allu gweithredu’r fframwaith hwnnw’n effeithiol. Felly, mae datblygiad proffesiynol parhaus a rôl hyfforddiant cychwynnol athrawon yn y maes yma’n gwbl, gwbl allweddol.
Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at y sylwadau y mae Estyn wedi’u gwneud. Wel, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd wedi datgan, yn ein hymchwiliad ar addysg ac addysgu proffesiynol athrawon, nad yw’r gweithlu addysg yn barod ar hyn o bryd ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd. Ac o safbwynt y fframwaith cymhwysedd digidol yn benodol, mae’r pwyllgor wedi dweud ei bod hi’n bryder mawr, gan fod canlyniadau arolwg gan y pwyllgor wedi tynnu sylw at y diffyg dealltwriaeth neu wybodaeth ymysg athrawon sy’n ymwneud â’r newidiadau sydd i ddod yn y cyd-destun yma. Rŷch chi eisoes wedi cyfeirio, wrth gwrs, at Estyn yn sôn nad oes gan yr athrawon y wybodaeth na’r hyder sydd eu hangen i fedru gweithredu hwn i’w llawn botensial. A bach iawn, iawn o ysgolion, er enghraifft, hyd y gwelaf i, sydd wedi gwneud awdit o gymhwysedd digidol eu staff, neu’n sicr mae hynny’n rhywbeth yr oedd Estyn yn tynnu sylw ato fe.
Rŷch chi’n sôn am phased approach i’r digital professional learning framework, ac rŷch chi wedi sôn am y safonau ac yn y blaen. A allwch chi roi amserlen fwy penodol i ni? Os oes phased approach yn mynd i fod, erbyn pryd ŷch chi’n disgwyl y bydd pawb wedi cyrraedd y lefel angenrheidiol o safbwynt cael y gallu i ddelifro hwn yn effeithiol?
Rŷch chi wedi cyhoeddi adnoddau ychwanegol heddiw ac mae hynny, wrth gwrs, i’w groesawu, yn enwedig ar ôl beirniadaeth ynghylch y datganiad y gwnaethoch chi rai misoedd yn ôl gan Aelodau mainc cefn y Llywodraeth. Mae’n bosibl bod hynny’n dal i ganu yn eich clustiau achos roeddech chi’n troi at yr Aelod a wnaeth y cerydd yna pan ateboch chi’r cwestiynau blaenorol. Yr oedd un cerydd a wnaethpwyd bryd hynny yng nghyd-destun Minecraft for education. Yr oedd sôn am 10 ysgol—yn y datganiad blaenorol—yn ymwneud â hynny, allan o 1,600 o ysgolion, a dywedwyd nad oedd hyn yn ddigon da. Wel, mae’n dda gweld, yn y datganiad yma, beth bynnag, fod mwy o ysgolion yn ymwneud â Code Club UK. Rwy’n credu bod hynny’n bositif. Mae’r ffigwr rŷch chi wedi’i roi yn dweud un stori wrthym ni, wrth gwrs. Nid wyf i'n gwybod os oes gennych chi wybodaeth ynglŷn â spread daearyddol rhai o’r ysgolion yna. Nid wyf i'n disgwyl i chi ateb, efallai, yn y Siambr, ond byddai cael y math yna o wybodaeth yn fuddiol, oherwydd yn aml iawn mae'n dibynnu ar unigolyn o fewn consortiwm neu sir i fod yn gyrru'r agenda yma weithiau, ac mi fyddwn i yn cael cysur o wybod bod y twf yna'n digwydd ar draws Cymru ac efallai ddim o reidrwydd wedi'i ganoli dim ond mewn rhai ardaloedd.
Mae'r £1.2 miliwn ychwanegol yma rŷch chi wedi cyfeirio ato fe yn eich datganiad i'w groesawu, fel roeddwn i'n dweud. Nid yw'n glir i mi a ydy hynny ar gyfer eleni neu o nawr tan ddiwedd y Cynulliad yma. A ydy e'n ymrwymiad blynyddol, neu a oes yna ymrwymiad hirdymor y tu hwnt i hynny? Oherwydd mae angen sicrwydd ariannu tymor hir yn aml iawn i fedru gwreiddio y diwylliant newydd yma o weithredu i mewn i'r gyfundrefn. Felly, byddai gwell eglurder yn rhywbeth y byddwn i'n ei groesawu. A thra bod hynny wrth gwrs yn gadarnhaol o safbwynt prifysgolion Abertawe a Chaerdydd, a ydy hi'n fwriad i edrych i ddatblygu hyn mewn sefydliadau eraill? Rydw i'n meddwl am Fangor a Glyndŵr yn fy rhanbarth i, wrth gwrs, oherwydd rydym ni'n awyddus i ddatblygu’r arbenigeddau a'r modd i hyfforddi fel hyn ym mhob rhan o Gymru, buaswn i'n tybio, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle.
Ni allaf adael i unrhyw ddatganiad sy'n cyfeirio at Hwb fynd heibio heb gyfeirio at eich penderfyniad chi i beidio â pharhau â Hwb+. Rŷm ni wedi cael sawl exchange ar hynny yn y gorffennol, ac rwy'n derbyn bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, ond mi fyddwn i yn pwyntio at y ffaith bod Larry Nelson, rheolwr-gyfarwyddwr byd-eang partneriaid addysg Microsoft Corporation, wedi disgrifio platfform Hwb+ fel un sy'n arwain y byd ac fel, ac rwy'n dyfynnu,
arddangosfa fyd-eang ac yn enghraifft o sut y gall technoleg gefnogi newid mewn arfer addysgol.
Ac fe wnaeth gwerthusiad Llywodraeth Cymru ei hunan wrth gwrs ddod i'r casgliad, ac rydw i'n dyfynnu eto:
byddai rhoi'r gorau i'r prosiect yn siomi ac yn dieithrio athrawon sy'n frwd dros annog mwy o ddefnydd o ddysgu digidol, ac sydd wedi buddsoddi cryn amser ac ymdrech i sefydlu safleoedd ysgol Hwb+ a'u hyrwyddo i gydweithwyr yn eu hysgol.
Felly, nid wy'n mynd i ofyn am y penderfyniad, yr hyn rydw i'n mynd i ofyn yw: sut allwn ni felly fod yn hyderus na fydd y brwdfrydedd y mae gwerthusiad y Llywodraeth yma'n cyfeirio ato fe ddim yn cael ei danseilio gan y penderfyniad i beidio â pharhau â Hwb+?
Ni wnaethoch chi ymateb i'r cwestiwn blaenorol ynglŷn â darpariaeth adnoddau cyfrwng Cymraeg, oherwydd un o'r rhwystrau a nodwyd yn 'Cracio'r cod' yw'r diffyg yn lefelau darpariaeth arbenigwyr, hwyluswyr ac adnoddau Cymraeg i ysgolion yn y maes yma. Mae e yn broblem mewn meysydd eraill, ac mae'n rhywbeth mae'r pwyllgor addysg yn edrych arno fe fory mewn sesiwn graffu arbennig. Fe fyddwn i'n falch i glywed ac i gael sicrwydd gennych chi y bydd gan ysgolion fynediad i'r adnoddau angenrheidiol sydd eu hangen i ddarparu sgiliau digidol a chodio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac yn olaf, mi oeddech chi'n dweud, os wnes i ddeall yn iawn, oherwydd fe wnaethoch chi ychwanegu rhywbeth ar lafar nad oedd yn ysgrifenedig, fod pob ysgol ond un bellach â phroblemau cael mynediad i fand llydan neu yn y broses o gael rhyw ddatrysiad wedi'i roi yn ei le. Fe fyddai diddordeb gyda fi i wybod pa un yw'r ysgol sydd ar ôl. Diolch.
Diolch, Llŷr. O ran cais grant llwyddiannus prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, mater i CCAUC fydd penderfynu pa brifysgolion a gaiff eu hariannu. Anfonodd y ddwy brifysgol hynny gais yr ystyriwyd ei fod yn deilwng o'r cyllid hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd CCAUC a sefydliadau unigol sy'n dymuno cymryd rhan yn y gwaith hwn yn parhau i gynnal y sgyrsiau hynny. Yr hyn yr wyf i'n falch iawn ohono yw y bydd sefydliadau yng Nghymru yn rhan o'r corff newydd hwn. Ni ddylem ni ynysu ein hunain rhag datblygiadau yn y DU, ac mae angen i brifysgolion Cymru fynnu lle wrth y bwrdd, yn enwedig pan fod ganddynt gymaint o gryfderau yn y meysydd hyn ac adran ragorol, er enghraifft, yr adran sydd gan Abertawe. Byddai'n ofnadwy meddwl nad oeddem ni'n rhan o'r bwrdd oherwydd diffyg adnoddau. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gwneud rhywbeth am hynny.
Byddwn i'n cynnig yr un cyngor i chi ag y cynigiais i—. Llŷr, nid oes angen i chi dderbyn fy ngair i am yr ehangu sydd wedi bod yn y clybiau codio—os ewch ati i chwilio am wefan Code Club UK, mae ganddyn nhw fap sy'n dangos ymhle yn union y mae pob clwb codio sydd wedi'i gofrestru â nhw wedi'i leoli ar hyn o bryd. Mae'r clybiau'n cael eu datblygu drwy'r amser, ac felly weithiau mae'r pethau hyn yn gallu cymryd ychydig bach o amser—mae yna oedi—ond rwyf newydd edrych ar fy nghlwb mwyaf diweddar, a gynhelir yn Llyfrgell Aberhonddu ar fore Sadwrn, ac rwy’n falch o weld bod hwnnw wedi'i restru yno. Felly, ar bob cyfrif, cyfeiriwch at y wefan. Yr hyn a welwch chi yw bod yna glybiau codio ym mhob cwr o Gymru—mewn ardaloedd trefol, ardaloedd gwledig—ond, wrth gwrs, mae mwy y gallwn ni ei wneud bob amser oherwydd mae ein pobl ifanc ni ym mhobman, a dylem ni fod yn ceisio gwneud hyn a allwn ni i annog gwirfoddolwyr i allu darparu'r cyfleoedd hynny i bobl ifanc.
Y rheswm pam yr edrychais ar Lee Waters oedd oherwydd bod Lee a minnau yn parhau i gael y trafodaethau hyn oherwydd nad yw ef yn gadael llonydd i bethau—nid yw'n cael ei bum munud o ogoniant yn y Siambr ac wedyn yn anghofio am rywbeth. Rwy'n siŵr nad oes neb yn gwneud hynny, mewn gwirionedd; rwy'n siŵr nad oes unrhyw Aelod yn codi ar ei draed ac yn dweud rhywbeth yn y Siambr ac yna'n anghofio amdano unwaith y mae wedi gadael ac wedi cael ei ddau funud ar gyfer ei ddatganiad i'r wasg. Mae Lee, mewn gwirionedd, yn parhau i'm trafferthu yn rheolaidd ynghylch y mater hwn y tu allan i sylw'r Siambr, ac rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau.
Mae'n amlwg i mi fod gennym ni gryn ffordd i fynd i sicrhau bod gwir ysbryd y fframwaith cymhwysedd digidol wedi ymwreiddio drwy ein holl gwricwlwm. Mae yna nifer o bethau y mae angen inni eu gwneud ynghylch hynny. Mae angen inni sicrhau bod ysgolion yn gwybod lle maen nhw ar hyn o bryd, a dyna pam y byddwn yn annog pob ysgol i ddefnyddio offeryn mapio'r fframwaith cymhwysedd digidol sydd ar gael ar Hwb, a'r offeryn anghenion dysgu proffesiynol, a fydd yn helpu ysgolion i gynllunio eu darpariaeth a datblygu gweledigaeth ddigidol.
Rwy'n parhau i drafod gyda'r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol er mwyn cael cyngor ynglŷn â beth arall y gellir ei wneud i sicrhau bod ysgolion yn defnyddio'r adnoddau hyn a bod ysgolion mewn difrif yn meddwl am, ac yn cynllunio ar gyfer anghenion y fframwaith cymhwysedd digidol. Ond yn hollbwysig, mae dysgu proffesiynol yn rhan allweddol o hynny, a dyna pam, er enghraifft, ein bod yn parhau ar hyn o bryd i ddefnyddio ein grant datblygu proffesiynol parhaus sy'n rhan o'r Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, sydd yng ngham 2. Mae'r arian hwnnw yn parhau i fod ar gael drwy'r consortia rhanbarthol. Mae'n rhoi pwyslais ar amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys cymorth ar gyfer staff mewn ysgolion i ddatblygu eu hyder a'u hyfedredd wrth ddefnyddio ystod o adnoddau digidol ac offer drwy'r Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol. Mae'n rhoi'r modd i roi cymorth arbenigol i arweinwyr digidol, sy'n cydlynu gwaith mewn ysgolion gyda'r consortia rhanbarthol. Mae'n hybu dinasyddiaeth ddigidol o ran defnyddio technoleg yn ddiogel a chyfrifol—mae hynny'n rhywbeth nad yw wedi ei drafod hyd yma yn y Siambr, ond mae mewn gwirionedd yn rhan bwysig o'r fframwaith cymhwysedd digidol: mae nid yn unig yn rhoi'r sgiliau i bobl ifanc ond ynglŷn â gwybod sut i ddefnyddio'r rheini yn gyfrifol ac i gadw'u hunain yn ddiogel pan fo nhw ar-lein. Felly, mae'r grant hwnnw ar gael i'r consortia, a'i brif bwyslais yw datblygu sgiliau, cymhwysedd a hyder.
O ran Hwb+, mae'r penderfyniad hwn wedi'i groesawu gan y rhai y tu allan i'r Llywodraeth sydd yn wybodus yn y maes hwn, sy'n darparu cyngor yn y maes hwn, ac mae'n seiliedig ar ddealltwriaeth sy'n gyson ddatblygu o ba adnoddau sy'n gweithio orau mewn ysgolion, ac mae'n adlewyrchu adborth. Nid yw hynny'n dweud y bu popeth yn Hwb+ yn ddrwg—nid wyf yn dweud hynny—ond mae'r contract wedi dod i ben, a dyna pryd yr oedd y contract i fod i ddod i ben. Mae'n rhoi cyfle i'r Llywodraeth a Gweinidogion fyfyrio ynghylch y ffordd orau ymlaen. Rydym ni wedi penderfynu nad y cyfrwng hwnnw yw'r cyfrwng gorau posib sydd ei angen arnom ni, yn y dyfodol, i helpu athrawon. Rydym ni wedi bod yn glir iawn ynghylch yr hyn y mae angen i ysgolion ei wneud i symud eu data, ac rydym ni wedi rhoi cymorth i ysgolion yn hynny o beth.
Mae'n rhaid imi ddweud, Llyr, yr adborth a gafodd fy swyddogion yw nad yw'r ysgolion eu hunain wedi codi unrhyw gwestiynau gyda ni, neu gwyno wrthym ni, am gael gwared ar Hwb+. Yr hyn yr ydym ni yn ei roi iddyn nhw yw mwy o ddewis, a'r gallu gobeithio i ryngweithio'n haws gyda'r cyfrwng i'w helpu i ymgorffori'r cyfleusterau hyn yn eu harferion bob dydd. Fel y dywedais, rydym ni wedi darparu cymorth o bell i helpu ysgolion drosglwyddo eu data, a lle mae ysgolion wedi gwneud cais, rydym ni wedi darparu cymorth personol ar y safle i'r ysgolion hynny a oedd angen y cyfryw gefnogaeth.
Y mater o'r ysgolion—fel gyda'r holl bethau hyn, rydych chi'n credu eich bod wedi datrys y peth, a bod popeth wedi ei wneud. Mae un ysgol—ac mae gennyf yr enw yn rhywle, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda hwnnw—lle na roddwyd archeb, felly, ar gyfer yr holl ysgolion eraill, mae archebion wedi'u gosod gyda'r cyflenwyr, ac mae gwaith wedi'i raglennu i gael ei wneud. Ond mae un ysgol ar ôl, ac rydym ni'n gweithio i edrych i weld sut y gallwn ni roi sylw i'r anghenion hynny.
Yr hyn sy'n dod i'r amlwg yn gynyddol gydag ysgolion yw nid y seilwaith y tu allan i'r ysgol, ond bellach seilwaith y tu mewn i'r ysgol. Ac rydym ni yn parhau i gael cwynion gan ysgolion sy'n cael trafferth, ond yn aml wrth archwilio hynny, mae a wnelo hynny â'r problemau o fewn yr ysgol. Dyna pam ein bod ni'n gweithio gyda 180 o ysgolion ar hyn o bryd i weld beth yw'r cyfyngiadau a beth yw'r materion y mae angen inni fynd i'r afael â nhw, fel y gallwn ni ystyried, unwaith yr ydym ni wedi mynd i'r afael â chyflymder y tu allan, beth y gallwn ni ei wneud wedyn i fynd i'r afael â seilwaith o fewn ysgolion i sicrhau ei fod yr hyn y dylai fod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad. A gaf i ddweud fy mod i a'm plaid yn ei groesawu'n fawr? Roeddem ni'n arbennig o falch o glywed am gyfranogiad busnesau a'r cyllid ar gyfer prifysgolion Cymru yn eich cynigion, yn ogystal â'ch pwyslais ar flaenoriaethu darpariaeth band eang cyflym iawn yn ysgolion Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cynllun 'Cracio'r Cod' wedi codi ymwybyddiaeth o godio mewn ysgolion ac, yn benodol, sylwaf fod 473 bellach, efallai hyd yn oed mwy, o glybiau gweithredol cofrestredig gyda Chlwb Cod y DU, sy'n amlwg yn dangos cynnydd sylweddol o ran cymell plant i ymwneud â chodio. A gawn ni eich llongyfarch am y llwyddiant hwnnw?
Mae yna rai agweddau ynglŷn â manylion y datganiad yr hoffwn i eu crybwyll yn gryno. Yn gyntaf, ac rwy'n credu y soniodd Mohammad Asghar yn fras am hyn yn ei sylwadau, bydd addysgwyr, cwmnïau a phrifysgolion o hyd fydd yn dymuno gwerthu neu dderbyn cyllid gan y Llywodraeth i ddysgu sgiliau codio a chyfrifiadur. Wedi'r cyfan, dyna fu'r achos ers y 30 neu 40 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae natur cyfrifiaduron, meddalwedd a chodau yn newid yn gyflym oherwydd mae technoleg a'r cyflymder datblygiad technoleg o'r fath yn debygol o gyflymu yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae'n bwysig bod y rhaglenni addysg y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cynnig nid yn unig yn rhaglenni sydd ar flaen y gad o ran technoleg ar hyn o bryd, ond eu bod yn rhaglenni addysg hirhoedlog sy'n datblygu sgiliau cyfrifiadureg a chodio trosglwyddadwy y gall myfyrwyr eu defnyddio am flynyddoedd lawer yn y dyfodol. Mae'n rhaid imi ddweud bod pethau'n argoeli'n addawol yn hyn o beth o ystyried amlinelliad eithaf manwl Ysgrifennydd y Cabinet o gynnwys rhanddeiliaid megis Sony a chynnwys prifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
A gaf i drafod dim ond yn fyr y pwnc o'r hyn y mae darn o god cyfrifiadur, meddalwedd neu dechnoleg yn seiliedig arno? Pam fod y feddalwedd yn cynhyrchu'r hyn yr ydym ni'n ei weld? Pam ei fod yn gwneud yr hyn y mae'n ei wneud? Beth sy'n gwneud iddo wneud yr hyn y mae'n ei wneud? Bydd rhai dysgwyr deallusol chwilfrydig ar y rhaglenni y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cynnig a fydd yn gofyn y mathau hyn o gwestiynau yn union. Mae swm anferth o theori academaidd sy'n sail i god meddalwedd, fel y gwyddoch chi'n amlwg. Mae peth o'r ddamcaniaeth honno yn perthyn i faes mathemateg, mathemateg pur yn aml, ac, wrth gwrs, systemau gwahanol o resymeg. Yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud bod addysgu rhesymeg yn tueddu i gael ei gategoreiddio braidd yn niwlog yn ein prifysgolion. Weithiau, mae'n rhan o'r adran fathemateg, ond, lawer o'r amser, mae'n rhan o'r adran athroniaeth. Nid yw'r ffigurau ar gyfer athroniaeth ym mhrifysgolion Cymru mor gadarnhaol ag y gallent fod. Mewn gwirionedd, caewyd yr adran athroniaeth a oedd yn Aberystwyth yn y 1980au a'r 1990au ar ddiwedd y degawd. Felly, nid yw adran Prifysgol Caerdydd ymhlith yr adran fwyaf o'r math hwn yn y DU, er ei bod yn un o'r rhai mwyaf yng Nghymru.
Felly, a gaf i gloi drwy ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet onid yw hi'n gweld cyfle enfawr i ddefnyddio ei rhaglenni codio yn gyfrwng i ddatblygu chwilfrydedd deallusol myfyrwyr Cymru i ystyried cyrsiau prifysgol mwy traddodiadol megis rhesymeg, athroniaeth a mathemateg pur? A all hi ymhellach weld cyfle ar gyfer ehangu'r pynciau mwy traddodiadol hyn ym mhrifysgolion Cymru, gan ddefnyddio'r rhaglenni y mae hi yn manylu arnynt yn gyfrwng?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei groeso i'r datganiad a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn. Mae'n codi cwestiwn diddorol am y cwricwlwm ym mhrifysgolion Cymru. Beth y dylwn i ei ddweud wrtho yw bod hyd yn oed yr arlliw lleiaf o ymyrraeth y Llywodraeth yn annibyniaeth ein sefydliadau academaidd yn rhywbeth rwy'n dymuno ei osgoi. Mae'r cwricwlwm a chynnig pob prifysgol unigol mewn gwirionedd yn fater iddyn nhw, ond, fel chi, rwy'n falch, ym mhrifysgolion Cymru, bod gennym ni draddodiad cryf mewn llawer o bynciau, gan gynnwys mathemateg. Mae gwyddoniaeth gyfrifiadurol, fel y dywedais, yn arbennig o gryf yn Abertawe. Caiff tabl ei gyhoeddi ynglŷn â beth sy'n digwydd i bobl pan maen nhw wedi gwneud gradd benodol, a beth yw eu hanes wedyn. Mae cyfrifiadureg yn Abertawe yn gwneud yn arbennig o dda yn dod o hyd i rai swyddi bras iawn i'w graddedigion dim ond ychydig fisoedd ar ôl iddyn nhw raddio. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y mae'r myfyrwyr sy'n dewis y cwrs hwnnw yn ei wneud yn dda iawn. Ond mewn gwirionedd mae'n fater i'r prifysgolion. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw manteisio, yn y prifysgolion, ar yr arbenigedd sydd ganddyn nhw yn eu hadrannau, ar draws eu cwricwlwm, a gallu defnyddio eu harbenigedd i'n helpu i adeiladu gallu yn ein system ysgolion, a oedd yn un o'r rhesymau pam yr ydym ni'n buddsoddi, fel yr ydym ni, drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn y prifysgolion hyn, ac fel yr ydym ni wedi gwneud o'r blaen gyda Technocamps, oherwydd rydym ni'n cydnabod bod hon yn ymdrech ar y cyd—ysgolion unigol, y sector preifat a mentrau, yn ogystal â'n prifysgolion. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gynnig rhywbeth gwirioneddol wych ar gyfer ein plant.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y gallwn i boeni ychydig yn fwy arnoch chi. Petai chi ond wedi dweud yn eich datganiad yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn y cwestiynau, oherwydd rwy'n credu eich bod yn deall y broblem mewn gwirionedd. Roeddwn yn ddigalon braidd bod y datganiad yn rhoi sglein ar y sefyllfa yr ydym ni ynddi, ac mae'n ymddangos i mi os oes gennym ni unrhyw obaith o fynd i'r afael â maint y newid y mae angen inni ei gyflawni, mae angen dechrau gyda dadansoddiad onest o'r sefyllfa sydd ohoni. Fe wnaethoch chi ddyfynnu adroddiad Estyn, a ddywedodd, mewn dwy ran o dair o ysgolion cynradd, bod diffygion arwyddocaol yn safonau TGCh a ddylai fod yn ysgytwad inni i gyd. Rwy'n rhwystredig gyda phob adran o ran sut yr ydym ni'n cofleidio technoleg ddigidol. Ond o ran addysg, nid wyf yn credu bod rhestru llwyth o fentrau defnyddiol yr ydym ni'n eu cynnal yn gwneud y tro mewn gwirionedd, o ystyried maint yr her sy'n ein hwynebu. Rwyf yn wirioneddol synnu ein bod ymhell ar ei hôl hi o ran lle y dylem ni fod.
Fe wnaethoch chi sôn bod yna 473 o glybiau cod. Byddai gennyf ddiddordeb gwybod faint o ddisgyblion sy'n mynychu'r clybiau cod hynny. Byddai gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwybod faint o ddisgyblion prydau ysgol am ddim sy'n mynychu'r clybiau cod hynny. Gadewch inni beidio â thwyllo ein hunain: mae faint o bobl rydym ni'n ymgysylltu â nhw yn ddibwys, o ystyried yr heriau sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, a byddai'n llawer gwell gennyf petai Llywodraeth Cymru wedi dechrau ei datganiad drwy ddweud hynny, a bod yn onest ynghylch y sefyllfa, yn hytrach na cheisio esgus bod popeth yn iawn.
Y canfyddiadau eraill yn adroddiad Estyn yw bod diffyg gwybodaeth a hyder gan athrawon. Fe wnaethoch chi sôn bod offeryn yn bodoli ar Hwb—offeryn mapio ar gyfer y fframwaith cymhwysedd digidol—ond o ystyried y ffaith nad yw ysgolion yn archwilio eu cymhwysedd digidol eisoes, maen nhw'n annhebygol o ddechrau defnyddio offeryn mapio ar Hwb. Dywedwyd hefyd yn yr adroddiad Estyn fod diffyg gweledigaeth glir am TGCh gan uwch arweinwyr ysgolion. Mae hynny'n gyhuddiad damniol a dwys o gyflwr ein harweinyddiaeth mewn ysgolion. Os nad oes ganddyn nhw'r sgiliau a'r wybodaeth a'r hyder, dydyn nhw ddim yn sydyn iawn yn mynd i ddechrau gwneud hyn. Mae'r eitemau y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw beth ffordd yn y dyfodol, ac maen nhw'n mynd i gymryd amser hir i dreiddio drwy ein hysgolion i gyd. Dyna beth ddylai pob un ohonom ni fod yn ei wynebu. Fel mae'n digwydd, rwy'n cytuno â chi ynglŷn â Hwb+. Rwy'n credu bod Llyr Gruffydd yn anghywir ynglŷn â hynny. Rwy'n credu mai'r adborth yr wyf i'n ei gael gan y proffesiwn oedd bod hwnnw wedi colli ei ffordd a bod angen dull gweithredu newydd.
Ond rwyf yn erfyn arnoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i fod yn onest gyda ni ynglŷn â lle'r ydym ni arni mewn gwirionedd, a beth sydd angen newid mewn gwirionedd, a pha mor gyflym ac i ba raddau y mae angen i hynny ddigwydd.
Diolch i chi, Lee. Nid wyf yn osgoi'r ffaith a chanfyddiadau adroddiad Estyn ynghylch beth ddylai ddigwydd yn feunyddiol yn ein hysgolion. Dyna beth sy'n hollol allweddol: beth allwn ni ei wneud wnaiff effeithio ar arfer, oherwydd mae angen inni weld newid sylweddol yn yr ystafell ddosbarth? Mae sut y gallwn ni gael yr arweinyddiaeth o frig yr ysgol i gydnabod pwysigrwydd hyn ac wedyn i gynllunio'n briodol yn allweddol. Rwy'n parhau i drafod gyda'r cyngor dysgu sy'n rhoi cyngor ar y materion hyn beth mwy y gallwn ni ei wneud a beth mwy y gallaf i ei wneud i sicrhau bod pob ysgol yn ymdrin â hynny o ddifrif, yn strategol ac yn gyson, yn hytrach nag unigolion yn gwneud cynnydd.
Mae ein rhwydwaith o ysgolion arloesi hefyd yn gwbl allweddol yn hyn i sicrhau eu bod yn gweithio gydag ysgolion nad ydynt yn rhan o'r rhwydwaith arloesi i weld newid ac arsylwi arferion. Mae'n bwysig iawn inni wneud hynny oherwydd, weithiau, elfen o'r gwrthwynebiad i newid yw, 'does dim posib i hynny weithio yn fy ysgol i. Mae'n hawdd iawn i chi, y doethor hollwybodus, ddweud hynny wrthyf i, ond dewch i fy ystafell ddosbarth i—', ac mewn gwirionedd drwy ddefnyddio'r rhwydwaith arloesi rydym ni'n dangos bod y rhain yn ddulliau sydd wedi eu treialu a'u profi mewn ysgolion a'u bod wedi gweithio ac felly, 'Does dim i atal hyn gael ei drosglwyddo i'ch ysgol eich hun.' Felly, mae'r ysgolion arloesi yn rhan hanfodol o hynny. Byddwn yn parhau drwy gyfrwng arolygiadau Estyn o leoliadau unigol i gadw golwg agos iawn ar sut mae'r ysgolion hynny yn mynd i'r afael â'r anghenion penodol hyn.
Wrth law, nid oes gennyf ffigurau ynglŷn â phlant prydau ysgol am ddim sy'n mynychu clybiau codio. Byddaf yn holi swyddogion i weld a yw'n bosib canfod y data hwnnw. Does arnom ni ddim eisiau i hyn fod yn rhaniad arall rhwng y plant hynny sy'n gallu a'r plant hynny nad ydyn nhw'n gallu. Beth oedd yn ddiddorol iawn gyda'r dull a ddefnyddir yn yr ysgol gynradd yn Llanedeyrn y bore yma yw bod y pennaeth hwnnw yn talu cynorthwywyr addysgu i aros ar ôl ysgol am awr ychwanegol fel gall y plant i gyd, p'un a oes ganddyn nhw fynediad i gyfrifiaduron neu dechnoleg yn y cartref ai peidio, gael yr amser hwnnw i ddefnyddio'r dechnoleg ar gyfer eu gwaith cartref neu i fynd i'r clwb codio. Mae hynny'n ddiddorol iawn. Mae hynny mewn ysgol gyda dros 20 y cant o'r plant ar brydau ysgol am ddim, mewn ardal o statws economaidd gymysg iawn o ran y teuluoedd sy'n mynychu'r ysgol.
Bydd hyn yn parhau i fod yn rhan o'r gwaith yr wyf yn ei wneud, yn dilyn y ddadl a gawsom ni yr wythnos diwethaf, am wir gost addysg uwchradd, a beth yw'r rhwystrau ariannol, fel bod pob plentyn yn gallu profi popeth sydd gan ein system addysg i'w gynnig. Rwy'n benderfynol o roi pwysau ar fy swyddogion yn hyn o beth; hefyd, mae'r cyngor digidol yn barod iawn i roi pwysaf arnaf i o ran sut y gallwn ni ddatblygu hyn i greu'r newid hwnnw y gwnaethoch chi sôn amdano, ac mae'n fwriad gennyf barhau i ddod yn ôl i'r Cynulliad fel y gallwn ni gadw llygad ac y gallwch chi gadw llygad ar ddatblygiadau yn yr achos hwn.
Ond nid wyf yn bychanu'r her o ymgorffori'r fframwaith cymhwysedd digidol i'r fframwaith llythrennedd a rhifedd. Pan fyddwn ni'n meddwl am faint o amser gymerodd hi i ymgorffori'r fframwaith llythrennedd a rhifedd i arferion, ac roeddem ni'n sôn am gysyniadau y byddai pob ysgol yn gyfarwydd â nhw— addysgu llythrennedd a rhifedd—mae hynny'n rhoi darlun inni o'r her o gyflwyno rhywbeth cyson yn ein hystafelloedd dosbarth lle efallai na fu'r profiad hwnnw na'r hanes hwnnw. Ac fe ddylem ni fod yn ymwybodol o hynny, ac rydym ni yn dysgu'r gwersi o'r broses o weithredu'r fframweithiau llythrennedd a rhifedd o ran sut yr ydym ni'n ymdrin â hyn.
Yn olaf, David Rees.
Diolch Llywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw, oherwydd, yn amlwg, mae rôl bwysig cyfrifiadura a chymhwysedd digidol o fewn ein gweithrediadau yn y dyfodol yn hollbwysig? Ni fyddaf yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaed am Estyn. Rydych chi wedi gwneud yr atebion hynny yn gwbl glir hyd yn hyn, ond rwy'n dymuno'ch atgoffa chi, efallai—ac atgoffa pawb—nad yw cymhwysedd digidol a chodio yr un peth. Yn wir, efallai bod codio yn sgil uwch o fewn cymhwysedd digidol, ac mae gennym ni ddwy dasg wahanol i'w cyflawni yn hynny o beth. Mae'n bwysig i ni asesu sgiliau a sgiliau codio staff, ac rwy'n credu bod Llyr yn llygad ei le o ran bod angen archwiliad o'r cymwyseddau hynny arnom: a all rhywun ddefnyddio technoleg ddigidol i gyflawni'r gwaith mewn gwirionedd, ond hefyd a all rhywun godio? Gan fod hynny'n wahanol hefyd.
Rwyf hefyd yn croesawu gwaith yr Athro Faron Moller a Technocamps, a sefydlwyd yn wreiddiol, rwy'n credu, gan Beti Williams. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn ymwneud â—. Roeddwn i'n gwybod am waith Beti Williams yn y dyddiau cynnar, a minnau'n rhan o'r tîm a helpodd Beti i sefydlu'r pethau hynny. Ond, unwaith eto, fy mhryderon i yw'r sgiliau a'r codio, oherwydd yn ôl tua dechrau'r Cynulliad diwethaf roedd gennym ni Tom Crick a arweiniodd y gweithgor a sefydlwyd gan y Gweinidog ar y pryd, Leighton Andrews, a sefydlodd yr angen i edrych ar y gwahaniaethau, gan gynnwys gwyddoniaeth i TGCh, fel yr ydych chi wedi'i amlygu eisoes yn un o'ch atebion, a nododd ef y gwaith y byddai angen i ni ei wneud oherwydd ein bod ni ar ei hôl hi eisoes o'i gymharu â Lloegr. Rwy'n credu bod ein sgiliau codio ymhlith athrawon, a chymhwysedd a hyder athrawon wrth godio, yn brin o hyd, ac mae angen i ni roi rhywbeth ar waith mewn gwirionedd.
Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn dwyn hyn ymlaen, nid dim ond mewn Technocamps, oherwydd bod hynny'n gyfyngedig, ond o ran sut yr ydych chi am wthio'r peth fel bod gan bob athro ym mhob ysgol sy'n cyflwyno'r cwricwlwm mewn cyfrifiadureg y sgiliau i gyflwyno codio, a gwneud yn siŵr bod y codio mewn iaith benodol sy'n berthnasol ledled Cymru, fel nad oes gennych chi wahanol ieithoedd mewn gwahanol ysgolion, a all ddrysu disgyblion a drysu dulliau addysgu? 'Slawer dydd, roeddwn i'n addysgu iaith gydosod, CESIL a BASIC, ond mae'r dyddiau hynny wedi hen fynd, ac rydym ni bellach yn defnyddio C# a Java a phethau eraill, ond dyna ni.
Ond, unwaith eto, mae'n bwysig o ran y datblygiad hwnnw, oherwydd os ydym ni eisiau i bobl ifanc ddatblygu apiau a datblygu ac addasu gemau, mae angen y sgiliau hynny arnyn nhw. Mae angen y sgiliau hynny ar y staff. Yn aml iawn, rydym ni'n gweld bod gan bobl ifanc sgiliau gwell na'r staff, mewn gwirionedd, a bod y staff yn dysgu oddi wrthyn nhw, ond ni ddylem ni fod ag ofn hynny. Ac ni ddylai fod ar staff ofn hynny, oherwydd bod tuedd i staff weld bod ganddynt lawer o bethau eraill i'w gwneud. Mae tuedd i ddisgyblion a phobl ifanc weld bod ganddynt lawer o amser i'w dreulio ar gemau a chodio, ond mae hynny'n bwysig ac mae angen inni ddatblygu hynny.
Ac a wnewch chi hefyd edrych ar ba bartneriaid diwydiannol sy'n cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r sgiliau hynny, a'r merched? I roi enghraifft i chi, mae Microsoft wedi bod yn cynnal y cynllun DigiGirlz , ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi bod eisiau i ni ganmol y disgyblion ifanc yn Ysgol Bae Baglan a aeth i Microsoft yr wythnos diwethaf, a dod yn ôl o'r digwyddiad hwnnw â gwobr effaith gymdeithasol. Merched ifanc yw'r rhain, yn mynd i gystadleuaeth a datblygu cod ym Microsoft. Dyna'r math o gynllun sydd ei angen arnom ni, i sicrhau y gall disgyblion weld dyfodol a gweld gyrfa, ac yn gallu datblygu hynny, oherwydd bod gwahaniaeth rhwng defnyddio TGCh a datblygu cymwysiadau sydd mewn gwirionedd yn cynhyrchu'r cymwysiadau hynny drwy ysgrifennu'r cod meddalwedd ar eu cyfer. Mae hynny'n hynod o bwysig. Felly, a wnewch chi edrych ar ein sefyllfa ni yn hynny o beth, fel y gallwn weld i ble y bydd partneriaid diwydiannol yn cyfeirio merched ac yn cynnig modelau rôl hefyd, oherwydd bod angen llawer o fodelau rôl benywaidd? Gallaf i roi enwau sawl un i chi, ond mae angen i ni sicrhau bod y rheiny ar gael hefyd.
A wnewch chi hefyd edrych ar gynlluniau sy'n galluogi athrawon i fynd i weithio ar ddatblygu meddalwedd, oherwydd bod cael hyfforddiant a datblygu'r sgiliau hynny mewn amgylchedd ystafell ddosbarth yn wahanol, mewn gwirionedd, i fynd i'r gweithle a chymhwyso'r sgiliau hynny i waith datblygu meddalwedd ei hun mewn gwirionedd? Ac rydych chi'n dysgu llawer iawn mwy drwy sicrhau bod y llwybrau byr a'r technegau y byddwch chi'n eu hennill yn cael eu trosglwyddo i'ch pobl ifanc.
Diolch yn fawr iawn, David, am y gyfres honno o sylwadau a chwestiynau. I dawelu'ch meddwl chi, mae Tom Crick yn parhau i fod yn rhan annatod o'r gefnogaeth sydd ar gael i'r Llywodraeth yn y meysydd hyn. Mae'n cadeirio un o'r rhwydweithiau rhagoriaeth, ac rwy'n sylwi o'i gyfrif Twitter heddiw ei fod wedi croesawu'r cyhoeddiad yn fawr iawn a'i fod yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth pwysig iawn heddiw o ran y buddsoddiad yn Abertawe a Chaerdydd.
O ran codio, wel, rwy' mor hen, rwyf innau hyd yn oed yn cofio gwneud BASIC, ac rwy' mor hen y gwnes i arholiadau lefel O. Pan wnes i lefel O mewn cyfrifiadureg, yn wir, Beverley Thomas a fi oedd yr unig ddwy ferch yn y dosbarth. Roedd yna ddewis rhwng cyfrifiadureg ac ysgrythur, felly aeth Beverley Thomas a fi i wneud cyfrifiadureg, yr unig ddwy ferch yn y dosbarth, ac fe wnaethom ni ddysgu BASIC.
Rwy'n credu o ran y mater ynghylch codio, ni fyddwn i'n dymuno i ni fod mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n dweud wrth ysgolion, 'Hon yw'r unig raglen godio y dylech fod yn ei defnyddio', oherwydd, yn gyntaf oll, mae yna fater datblygiadol yn y fan honno. Felly, er enghraifft, ni fyddech chi eisiau dechrau eich plant ieuengaf ar Python, er enghraifft—fe fyddai'n rhy anodd iddyn nhw fwy na thebyg—ond fe fyddech chi mae'n siŵr eisiau dechrau eich plant ieuengaf ar Blockly, sy'n rhoi iddyn nhw'r ddealltwriaeth sylfaenol o gyfarwyddiadau, ac wedyn byddech chi'n eu datblygu'n raddol i rywbeth fel Python. Felly, nid ydych chi eisiau dweud wrth ysgolion, 'Dyna'r unig un—' [Torri ar draws.] Siawns eich bod chi'n gwybod dim am y peth. [Chwerthin.] Go dda. Ond fyddech chi ddim eisiau dweud mai dyna'r unig iaith y byddem ni'n ei defnyddio yn yr ysgol. Ond yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw datblygu sgiliau'r athrawon hynny yn ein hysgolion. Rydych chi yn llygad eich lle; mae llawer o'r athrawon yn cael eu haddysgu gan y bobl ifanc eu hunain, ac mae ceisio cadw i fyny â nhw yn her wirioneddol i'r staff, a dyna pam y mae angen i ni ddatblygu ein rhaglen ddysgu genedlaethol ar gyfer pob aelod o staff, ni waeth ymhle y maent yng Nghymru, er mwyn iddynt allu cael mynediad at raglen datblygu proffesiynol a fydd yn eu helpu mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd. Diolch.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, a dyna ddiwedd ar ein trafodion ni am y dydd.