2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
8. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut y gellir defnyddio technoleg i wneud cyfreithiau gwell? OAQ52098
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. rwyf wedi dechrau ystyried sut y gellid defnyddio technoleg i'n helpu i wneud cyfraith Cymru yn haws i ddod o hyd iddi a'i deall. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â'r Archifau Gwladol a barnwr Goruchaf Lys British Columbia i drafod cyfraith fel math o ddata a sut y gallai deallusrwydd artiffisial wneud y gyfraith yn fwy hygyrch ac yn haws ei gweinyddu.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr fod y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o'r gystadleuaeth ddiweddar a gynhaliwyd yn yr Unol Daleithiau rhwng botiau cyfraith fel y'u gelwir ac athrawon cyfraith mewn cystadleuaeth gyfreitha. Rhoddwyd pedair awr i fodau dynol a deallusrwydd artiffisial ddarllen contract a nodi 30 term a mater cyfreithiol, gan gynnwys cytundebau cymrodeddu a chyfrinachedd. Yr hyn a oedd yn fwyaf trawiadol oedd bod yr athrawon wedi sgorio 85 y cant, ond fe sgoriodd deallusrwydd artiffisial 95 y cant. Cymerodd yr athrawon 92 munud i gyrraedd eu sgôr, a chymerodd y botiau cyfraith 26 eiliad.
Mae rhai gwledydd ar flaen y gad yn archwilio sut y gellir cymhwyso'r arloesedd hwn. Mae Seland Newydd yn archwilio sut y gellir ysgrifennu deddfwriaeth newydd mewn testun ac mewn cod ar yr un pryd i ganiatáu i'r botiau hyn dreulio a dadansoddi'r gyfraith yn y dyfodol er mwyn gallu rhoi cyngor wedi'i deilwra i bobl yn syth. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi ystyried sut y gellid cyflwyno hyn yng Nghymru?
Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n codi nifer o bwyntiau diddorol iawn. Ceir her a chyfle sylfaenol i'r sector gwasanaethau cyfreithiol ar draws y byd yn y mathau o bethau y mae'n eu disgrifio, o ran creu contractau clyfar, ond hefyd, fel y mae ei gwestiwn yn awgrymu, yn y gallu i ymchwilio darnau enfawr o ddata a chyfraith a chyfraith achosion mewn ffordd gadarn a dibynadwy. Fel y mae'n digwydd, mae'r sgyrsiau a gefais yn awgrymu bod hynny'n anos ei gyflawni wrth ymchwilio i ddeddfwriaeth ei hun. Ond un o'r pethau rwyf wedi bod yn awyddus iawn i'w wneud, wrth feddwl ynglŷn â sut y gallwn wneud cyfraith yn fwy hygyrch i bobl yng Nghymru yn gyffredinol, yw ystyried bod cyflymder y newid yn y maes hwn mor sylweddol fel ein bod mewn perygl o lunio ateb technolegol gwell heddiw ar gyfer yr heriau a oedd gennym 10 mlynedd yn ôl, yn hytrach na meddwl ymlaen at sut olwg fydd ar y byd ymhen 10 mlynedd. Nawr, mae honno'n her uchelgeisiol, ac nid wyf am un eiliad yn awgrymu ei bod yn syml—yn sicr, nid yw'n syml.
Mae'n crybwyll Seland Newydd yn ei gwestiwn. Mae un o'r trafodaethau a gefais gyda'r Archifau Gwladol yn ymwneud â sut y gall deddfwrfeydd ddeddfu mewn cod ac ar ffurf data, ac felly, lle mae gennych ddeddfwriaeth treth, er enghraifft, neu ddeddfwriaeth budd-daliadau, mae'r ddeddfwrfa'n pasio cod y gellir ei droi'n ffurflenni ar amrantiad a'i fod ar gael i'r cyhoedd yn y ffordd awdurdodol honno. Mae hynny'n amlwg yn creu beichiau newydd ar unrhyw ddeddfwrfa ac mae angen ei ystyried yn ofalus iawn. Mae gennyf gyfarfod wedi'i drefnu gyda Google yn yr wythnosau nesaf i drafod a ydynt yn gweithio gyda phartneriaid eraill ledled y byd ar arloesedd yn rhai o'r meysydd hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael cynifer o ffynonellau o ysbrydoliaeth gan gynifer o awdurdodaethau gwahanol ag y bo modd ar gyfer yr hyn y gobeithiwn allu ei gyflawni yn y tymor hir yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol.