2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglyn â'r ddadl ar adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol a gynhaliwyd ddydd Mercher 18 Ebrill 2018? OAQ52087
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy’n cyfeirio’r Aelod at yr ateb a roddais wrth ymateb i’r cynnig ar 18 Ebrill. Mae’n amlwg bod gwahaniaeth barn dilys ynglŷn â’r dehongliad o adran 37, ac rŷm ni’n cynnal deialog adeiladol gyda’r Llywydd i ddatrys hyn.
Diolch am yr ymateb yna. Mi fydd y record yn dangos, wrth gwrs, na wnaeth y Cynulliad ildio i'r bygythiad o her gyfreithiol ar y pryd, ac yn wir na wnaeth y Llywodraeth fwrw ymlaen i wireddu'r bygythiad o lansio her gyfreithiol. Dadlau a wnaeth y Llywodraeth, a chithau, ar y pryd, y buasai cynsail perig yn cael ei sefydlu yma. Ond y gwir amdani ydy bod yna ddigon o gynseiliau mewn arferion seneddol yn rhyngwladol yn bodoli yn barod, lle y gall Seneddau fynnu cyhoeddi adroddiadau pwysig.
Wrth gwrs, mae yna adroddiad arall ar y gweill, yn delio â'r un amgylchiadau—amgylchiadau trist iawn, wrth reswm. Beth ydy eich cyngor chi, felly, i'r Prif Weinidog ar yr angen i symud mor fuan â phosib i gyhoeddi manylion cylch gorchwyl yr ymchwiliad arall hwnnw?
Wel, nid wyf i'n mynd i sôn am unrhyw gyngor penodol rwy'n ei roi i unrhyw ran o'r Llywodraeth am y materion yma. Bydd yr Aelod yn deall pam mae hynny yn amhosibl i fi ei wneud. Fe wnaeth e sôn am y ddadl yn benodol. Fe wnaf i ei gyfeirio fe at adran 41 o'r Ddeddf, sydd yn rhagweld ei bod hi'n bosib i'r Llywodraeth neu'r Cynulliad, neu'r ddau ar y cyd, fynd i'r llys i gynnig am ddatganiad i esbonio rhannau o'r Ddeddf sydd yn aneglur neu sydd angen dadansoddiad cyfreithiol. Felly, mae'r Ddeddf ei hun yn rhagweld hynny yn bosibiliad.
Roedd hi'n glir yn y drafodaeth ar y diwrnod hwnnw mai cwestiwn ehangach oedd gan y Llywodraeth mewn golwg na'r cwestiwn penodol ynglŷn â'r adroddiad hwnnw. Ac mae'r Aelod yn sôn am bwysigrwydd sefydlu dealltwriaeth rhwng y Llywodraeth a'r Cynulliad, neu unrhyw ddeddfwrfa, ynglŷn â'r materion pwysig hyn. Yn Senedd San Steffan, er enghraifft, mae'r rheolau yn wahanol, oherwydd nid sefydliad statudol yw Senedd San Steffan, ond sefydliad sydd yn deillio o'r gyfraith gyffredin ac ati. Felly, mae'r rheolau yn wahanol, ac mae'r dull o weithredu'n wahanol, ac mae'r ymgais sydd gyda ni ar y gweill nawr i drafod y materion hyn gyda'r Cynulliad, gyda'r Llywydd, yn ffordd, os liciwch chi, drwy greu protocol, o sefydlu ffyrdd o weithredu sydd yn delio â'r un mathau o sialensiau ag y mae San Steffan a deddfwriaethau eraill wedi llwyddo i ddelio â nhw yn barod erbyn hyn.