1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 8 Mai 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinwydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cawsom yr adroddiad ar Tawel Fan i fyny yn y gogledd, ac mae llawer o Aelodau wedi cael y penwythnos i ystyried cynnwys yr adroddiad hwnnw. Un o gasgliadau syfrdanol yr adroddiad oedd camdrafod sefydliad Betsi fel bwrdd iechyd ar gyfer y gogledd. Cyfeiriodd at linellau atebolrwydd yr oedd yn amhosibl eu holrhain; anghydfod rhwng y bwrdd iechyd a'r ward ynghylch sut i ymdrin â diogelwch cleifion; roedd polisi clinigol yn ddiffygiol dros ben; ac roedd arweinwyr nyrsio uwch yn cael eu hamharchu a'u hanwybyddu. Roedd hynny i gyd yn iaith a oedd yn yr adroddiad, ar eu safbwyntiau ar greu Betsi fel bwrdd iechyd ar gyfer y gogledd. Roeddech chi'n Weinidog yn y Llywodraeth a wnaeth ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn 2009 yn bosibilrwydd, ac rydych chi wedi bod yn Brif Weinidog drwy gydol bodolaeth y bwrdd iechyd hwnnw i fyny yn y gogledd. Onid ydych chi'n gresynu erbyn hyn y ffordd y cyflawnwyd yr ad-drefnu hwnnw yn y gogledd, sydd wedi arwain at sylwadau o'r fath ac, yn wir, y gellir ei gysylltu'n uniongyrchol i rai o'r canfyddiadau o'r cam-drin ar ward Tawel Fan?
Wel, yn gyntaf oll, mae'n amlwg bod yr adroddiad yn cynnwys canfyddiadau y bydd angen gweithredu arnynt. Mae'n bell o fod yn wyngalchu, fel y disgrifiwyd gan un aelod o'i blaid. Mae'n adroddiad sy'n nodi llawer o'r anawsterau sydd yn gwbl briodol yno i bawb eu gweld a bydd angen gweithredu arnynt. Nid wyf i'n credu, mewn egwyddor, bod ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd bryd hynny yn syniad gwael. Nid ydym wedi gweld sefyllfaoedd tebyg yn digwydd mewn mannau eraill, ond mae'n eglur, cyn belled ag y mae Betsi yn y cwestiwn, y bydd angen iddyn nhw weithredu ar sail canfyddiadau'r adroddiad, ac fel Llywodraeth byddwn yn eu cynorthwyo i wneud yr hyn y byddai pobl y gogledd yn disgwyl ei weld o ran datrys yr hyn a ganfuwyd fel bod yn ddiffygiol yn yr adroddiad hwn.
Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ateb, ond, mewn gwirionedd, mae'r canfyddiadau hyn yn yr adroddiad yn nodi'n eglur mai'r ad-drefnu hwnnw oedd y man cychwyn ar gyfer llawer o'r problemau a ddatblygodd yn y digwyddiadau ar ward Tawel Fan. Rwyf wedi gofyn i chi a oes gennych chi unrhyw edifeirwch ynghylch yr ad-drefnu hwnnw a, phe byddech chi'n cael eich amser eto, a fyddech chi'n ymgymryd â'r ad-drefnu hwnnw mewn ffordd wahanol? Pan fo gennych chi adroddiad o'r fath sy'n sôn ei bod yn amhosibl olrhain atebolrwydd, lle mae gennych chi anghydfod rhwng y bwrdd iechyd a'r ward, lle mae gennych chi bolisi clinigol hynod ddiffygiol, a phan yr oedd arweinwyr nyrsio uwch yn cael eu hamharchu a'u hanwybyddu, oherwydd y broses a roddwyd ar waith gennych chi yn wleidyddol, fel Llywodraeth, ar yr adeg honno, yna does bosib, o fyfyrio, y gallwch chi fyfyrio ar y pwynt na chymerwyd yr holl fesurau yn y ffordd gywir i sefydlu bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaeth iechyd o'r radd flaenaf yn y gogledd. Ac onid yw hi'n ddyletswydd ar y Llywodraeth erbyn hyn i ddechrau darparu'r gwasanaeth iechyd o'r radd flaenaf hwnnw ar gyfer y gogledd?
Yn gyntaf oll, nid wyf i'n derbyn bod yr ad-drefnu yn brif achos o ran yr hyn a ddigwyddodd yn Tawel Fan, er ei fod yn amlwg yn rhan ohono. Pe byddai hynny'n wir, yna byddem ni'n gweld problemau o ran ad-drefnu ledled Cymru ac, yn wir, mewn wardiau eraill ac mewn ysbytai eraill ar draws y gogledd hefyd. Mae'r ffaith ei fod yn ffactor yn rhywbeth i'w ystyried. Nawr, bydd pobl eisiau gwybod beth sy'n digwydd nesaf, oherwydd mae'r adroddiad yno ac mae angen gweithredu ar ei sail. Wel, mae'r argymhellion yn eglur. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn esbonio i'r Aelodau beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ond mae hi'n bwysig, wrth gwrs, y gweithredir ar sail y cynllun a dyna yr ydym ni'n bwriadu ei wneud fel Llywodraeth.
Mae'n drueni na allech chi nodi'r diffygion a nodwyd yn yr adroddiad fel bod wrth wraidd yr ad-drefnu a ddigwyddodd yn 2009. Cymerwyd yr iaith a ddefnyddiais yn uniongyrchol o'r adroddiad, ac, yn amlwg, dyna mae'r ymchwiliadau wedi ei ddatguddio.
Ond, i symud ymlaen, Prif Weinidog, mae'r bwrdd iechyd wedi yn destun mesurau arbennig ers tair blynedd bellach—neu bron i dair blynedd, dylwn i ddweud. Mewn cyfweliad a roesoch i'r BBC tua pythefnos yn ôl, dywedasoch nad oedd unrhyw fusnes anorffenedig ar ôl nawr bod eich cyfnod fel Prif Weinidog yn dod i ben. Gallem drafod hynny ar draws y Siambr hon ac mae'n debyg na fyddem ni'n symud lawer ymhellach ymlaen, ond un peth yn sicr y byddai trigolion yn y gogledd yn gwerthfawrogi dealltwriaeth ohono—. O gofio eich bod chi'n credu nad oes unrhyw fusnes anorffenedig, does bosib mai un o'r eitemau busnes y mae angen rhoi sylw iddo yw normaleiddio'r strwythurau y mae Betsi yn gweithredu'n unol â nhw, yn hytrach na rheolaeth uniongyrchol gan y Llywodraeth. Felly, a ydych chi'n credu y bydd Betsi allan o fesurau arbennig erbyn yr amser y byddwch chi'n ymddeol fel Prif Weinidog ym mis Rhagfyr eleni?
Wel, mae'n debyg y bydd pethau y bydd angen parhau i fwrw ymlaen â nhw pan fyddwch chi'n gadael swydd bob amser. Mae hynny'n anochel. Ond, i mi, yr hyn sy'n bwysig yw bod pobl yn parhau i weld gwelliant parhaus yn y gwasanaeth iechyd ar draws y gogledd. Nid wyf i erioed wedi bod yn barod i roi cyfyngiad amser o ran pryd y dylai Betsi ddod allan o fesurau arbennig. Bydd yn parhau i fod yn destun mesurau arbennig cyhyd ag sy'n angenrheidiol i sicrhau gwelliant parhaus. Bydd pa mor hir yw hynny yn dibynnu, wrth gwrs, ar ein bodlonrwydd bod cynnydd digonol wedi'i wneud i'n galluogi i ryddhau Betsi o fesurau arbennig. Nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, ac nid wyf yn credu y byddai'n ddoeth rhoi dyddiad penodol ar hynny.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i fabwysiadu Bagloriaeth Cymru yn gyffredinol, ond nid yw'n ymddangos bod gan y prifysgolion elît fawr o ddiddordeb ynddo fel cymhwyster, yn wir nid yw'r tair prifysgol orau yn ei wneud yn ofynnol o gwbl. Mae myfyriwr ysgol wedi ysgrifennu ataf gan ddweud bod Bagloriaeth Cymru yn faich i fyfyrwyr ac athrawon a bod y gwaith yn ddiflas ac nad yw'n ddefnyddiol i fyfyrwyr mwy galluog, ac oherwydd bod y ddau bwnc hyn yn orfodol ar gyfer disgyblion blwyddyn naw, bydd yn anodd iawn cystadlu gyda disgyblion o Loegr am swyddi a lleoedd prifysgol gan y byddant wedi astudio dau bwnc mwy gwerthfawr. Felly, o dan yr amgylchiadau, a yw'r Prif Weinidog yn gweld bod hwn, o edrych arno o'r ochr orau, yn tynnu sylw oddi wrth ddefnydd mwy defnyddiol o amser mewn ysgolion?
Wel, nid yw'n gywir i ddweud nad yw Bagloriaeth Cymru yn cael ei gydnabod gan y prifysgolion gorau, fel y dywedodd. Mae pobl yn ei gydnabod am yr ehangder y mae'n ei roi i'r sgiliau y gall myfyrwyr eu caffael pan fyddant yn yr ysgol. Mae fy mab i yn yr ysgol: rwyf i wedi gweld y gwaith y mae'n ei wneud trwy gyfrwng Bagloriaeth Cymru ac, mae'n rhaid i mi ddweud, roedd ef a minnau o'r farn ei fod yn ddefnyddiol iawn, gan ei fod yn mynd ag ef y tu hwnt i edrych ar bynciau academaidd yn unig ac yn ei alluogi i ddatblygu mwy fel unigolyn ac felly cael addysg mwy cytbwys. Credaf fod myfyrwyr, ar ba bynnag lefel y byddan nhw'n gadael addysg llawn amser, yn fwy cyflogadwy o ganlyniad i'r sgiliau y mae Bagloriaeth Cymru yn eu rhoi iddyn nhw.
Wel, mae hwnnw'n bwynt dadleuol ynddo'i hun, rwy'n credu—nid yw'n un yr wyf i'n mynd i'w drafod ymhellach ar hyn o bryd, ond, i gymryd y pwynt ehangach a godwyd gan y Prif Weinidog, ydw, rwy'n cytuno y gallai cwrs Bagloriaeth Cymru fod â rhywfaint o ddefnydd y tu hwnt i ddysgu ffurfiol mewn ystafelloedd dosbarth, gan wneud i fyfyrwyr feddwl am faterion ehangach yn y byd. Gallai hynny, ynddo'i hun, fod yn beth da. Mae'n dibynnu sut y mae'r cwrs wedi'i strwythuro a sut y mae'n cael ei addysgu. Un o'r pethau y mae Bagloriaeth Cymru yn ei gynnwys yw her dinesydd byd-eang, sy'n ymdrin â materion fel amrywiaeth ddiwylliannol, masnach deg, ynni yn y dyfodol, anghydraddoldeb a thlodi. Mae'r rhain i gyd yn bynciau hynod wleidyddol, y mae angen eu haddysgu mewn ffordd gytbwys os nad yw addysg am ddiraddio ei hun i ddim ond propaganda. Ceir dadleuon difrifol, er enghraifft, am yr achosion o dlodi mewn rhannau eraill o'r byd: pam mae gwlad a allai fod yn gyfoethog fel Venezuela mewn amddifadedd? Rydym ni'n gwybod bod hynny oherwydd bod ganddi Lywodraeth Corbynaidd. Pam mai gwlad fel Singapôr, nad oes ganddi unrhyw adnoddau naturiol braidd, yw'r wlad yn y byd lle ceir yr incwm uchaf y pen erbyn hyn? Nid oes dim o hyn yn ymddangos yng nghwrs Bagloriaeth Cymru ar dlodi. Felly, onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen i ni fod yn ofalus iawn o ran y ffordd yr addysgir y pynciau gwleidyddol hyn mewn ysgolion i wneud yn siŵr bod y cwrs yn gytbwys a'i fod yn addysgu myfyrwyr sut i feddwl yn feirniadol am faterion, yn hytrach na dim ond llyncu'r hyn a ddywedir wrthynt?
Rwy'n ymddiried yn ein hathrawon, i fod yn blwmp ac yn blaen, ac rwyf hefyd yn ymddiried yn ein myfyrwyr i allu meddwl yn feirniadol drostynt eu hunain. Ceir systemau addysg sydd, os edrychwch chi ar y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, yn perfformio'n well o ran y ffigurau na'n rhai ni, ond nid wyf yn siŵr eu bod o reidrwydd yn rhoi'r gallu i fyfyrwyr feddwl yn feirniadol. Maen nhw'n gallu llwyddo mewn arholiadau, ond nid yw hynny yr un fath â bod yn barod ar gyfer y byd gwaith nac i feddwl am y byd o'u cwmpas. Does bosib nad yw'r materion a nodwyd ganddo yn faterion sy'n berthnasol i bob un ohonom ni. Bydd gwahanol safbwyntiau ar sut i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gwahanol safbwyntiau ar sut i fynd i'r afael â thlodi, serch hynny, maen nhw'n faterion hynod bwysig yr wyf i'n credu y mae angen i bob person ifanc eu hystyried. Ond nid wyf i weld gweld unrhyw enghreifftiau o gwbl o unrhyw fath o ragfarn yn cael ei gyflwyno i'r cwricwlwm, ac, o'm safbwynt i, credaf ei bod hi'n hynod bwysig bod y gallu gan ein myfyrwyr i fynd y tu hwnt i bynciau academaidd, oherwydd rwy'n credu ei fod yn eu gwneud yn unigolion mwy cyflawn pan eu bod yn meddwl yn fwy beirniadol ac yn fwy eang.
Wel, y cwbl y gallaf i ei ddweud, o edrych ar y gwahanol ddeunyddiau a ddefnyddir wrth addysgu'r cyrsiau hyn, eu bod nhw i gyd o safbwynt chwith-canol. Nawr, gall pob un ohonom—[Torri ar draws.] Wel, mater o ffaith—ac rwy'n meddwl bod y dicter ffug sy'n dod o'r ochr arall yn profi'r pwynt yr wyf i'n ceisio ei wneud yn y fan yma, sef, gan mai nhw sy'n rheoli'r system addysg, mae'n cael ei defnyddio fel arf propaganda. Nid oes dim, er enghraifft, yn y pwnc ynni gwynt sy'n cwestiynu pa mor effeithiol yw hyn hyd yn oed i ymdrin â phroblemau cynhesu byd-eang artiffisial pe ystyrir bod hynny'n broblem. Felly, yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrth y Prif Weinidog yw y dylai rhieni fod yn bryderus iawn. Ac, ydy, mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn ymddiried mewn athrawon, ac, wrth gwrs, nid wyf yn dweud bod athrawon yn mynd ati i gyflwyno propaganda i blant, ond mae meddylfryd athrawon yn bwysig iawn fel cefndir i hyn, ac o ystyried bod 72 y cant o athrawon ysgol uwchradd, yn ôl y Times Educational Supplement, yn pleidleisio dros Lafur, 10 y cant yn pleidleisio dros y Rhyddfrydwyr, dim ond 8 y cant yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr, mae'n amlwg—[Torri ar draws.] Mae—[Torri ar draws.] Wel—[Torri ar draws.] Mae hwnnw, wrth gwrs—[Torri ar draws.] Mae hwnnw, wrth gwrs, yn sampl anghynrychioliadol iawn o'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd. Ac, felly, hyd yn oed os yw rhagfarn yn isymwybodol, mae'n rhaid ei ystyried fel perygl posibl.
Mae rhywun yn synnu. Wel, mae'n gwbl eglur pam mae athrawon yn amharod i bleidleisio dros UKIP felly, o ystyried yr hyn y maen nhw newydd ei glywed. Rwy'n meddwl tybed, o wrando ar arweinydd UKIP, pa un a yw'n credu, o'i safbwynt ef, bod George W. Bush yn gomiwnydd peryglus, oherwydd—. A oedd e'n rhywun, er enghraifft, a gefnogodd adran 28 Deddf Llywodraeth Leol 1988 a'r demoneiddio pobl hoyw a lesbiaidd o ganlyniad i hynny? Wel, os gwnaeth, ac rwy'n credu fy mod i'n iawn yn dweud iddo wneud yn union hynny, yna, ydy, mae unrhyw beth yn chwith-canol o'i safbwynt ef. O'n safbwynt ni, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael darlun cytbwys o'r byd ac nid safbwynt sy'n dweud, er enghraifft, wel, cynhesu byd-eang artiffisial, fel y mae'n dweud, os oes y fath beth yn bodoli—mae pwysau enfawr y dystiolaeth yn cefnogi hynny. Nid yw'r ffaith bod rhai pobl yn dewis dweud yn wahanol yn golygu y dylid rhoi'r pwys priodol i'w tystiolaeth, gan fod cyn lleied ohonynt. Os yw wir yn dweud mai diben addysgu pobl ifanc, trwy fagloriaeth Cymru, am wybodaeth am ynni, er enghraifft, yw anwybyddu pwysau llawn maes gwyddoniaeth, yna mae hynny'n rhoi rhyw syniad i ni o'r hyn yr hoffai iddo gael ei addysgu yn ein hysgolion. Mae'n well gennym ni gydbwysedd; mae ef eisiau adolygiadaeth asgell dde.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Bydd Bil ymadael yr EU, fel y'i diwygiwyd, yn dal i ganiatáu i gymhwysedd y Cynulliad gael ei gyfyngu heb ei ganiatâd, ac nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol yn rhoi sicrwydd pendant na fydd hyn yn digwydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad hwnnw?
Rwy'n anghytuno â'r ffordd y mae wedi ei roi, gan fy mod i'n credu ein bod ni wedi dod yn bell o ble'r oedd Llywodraeth y DU; maen nhw wedi ildio llawer o dir. Nid yw'n ddelfrydol o'n safbwynt ni, wrth gwrs nad ydyw, ond natur cytundeb yw eich bod chi'n cyrraedd tir yr ydych chi'n credu sy'n dir cyffredin. Yr hyn y mae'r cytundeb yn ei ddweud yw na fydd Llywodraeth y DU yn deddfu mewn meysydd datganoledig fel rheol. Y cwbl y mae hynny'n ei wneud yw adlewyrchu'r hyn a ddywedwyd eisoes yn y setliadau datganoledig ledled y DU. Mae'n rhywbeth, rwy'n credu, y bydd angen rhoi sylw iddo yn y dyfodol, ond rwy'n credu bod gennym ni gytundeb sy'n dangos bod llawer o dir wedi ei ildio gan Lywodraeth y DU, yn enwedig, mewn gwirionedd, cyflwyno confensiwn Sewel i is-ddeddfwriaeth, rhywbeth nad oedd yn bodoli yn yr un ffordd o'r blaen, ac rwy'n credu ei fod yn rhoi'r amddiffyniad i ni sydd ei angen arnom. Byddwn, wrth gwrs, yn wyliadwrus iawn o ran gwneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn cadw at delerau'r cytundeb.
Nid fy ngeiriau i oedd y geiriau yn y datganiad yna, Prif Weinidog. Fe'u cymerwyd o ddadansoddiad gan dîm cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n cadarnhau sgil-effeithiau damniol y fargen amheus rhwng y Torïaid yn San Steffan a'ch Llywodraeth Lafur chi. Yr wythnos diwethaf, honnodd Aelodau Llafur ar y meinciau blaen nad oedd Plaid Cymru yn deall canlyniad y cytundeb hwn o ran pwerau'r Cynulliad hwn a'i allu i wrthod rhoi cydsyniad. Prif Weinidog, mae'r cyngor cyfreithiol yn dangos bod y gwrthwyneb yn wir. Mae'r cyngor yn dweud bod unrhyw awgrym y bydd y Cynulliad hwn yn gallu rhwystro San Steffan trwy beidio â chydsynio yn, a dyfynnaf, 'gamarweiniol'. Aiff ymlaen i ddweud, a dyfynnaf eto, 'gellir cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad heb ei gydsyniad'. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â chyfreithwyr y Cynulliad y gall San Steffan fusnesa yn ein Cynulliad erbyn hyn, ac nad oes dim gwbl y gallwn ni ei wneud am hynny?
Y ffordd y mae hi'n ei gyflwyno—. Mae hyn wedi bod yn wir ers 1999; nid yw'n newydd. Y gwir amdani yw y bu hynny'n wir erioed, yn yr Alban ac yng Nghymru, na fyddai Senedd y DU—na fyddai'n deddfu mewn meysydd datganoledig fel rheol yw'r ymadrodd, ond mae wedi gallu gwneud hynny erioed, oherwydd yr athrawiaeth o sofraniaeth seneddol. Nid yw'r cytundeb yn mynd i newid hynny. Nawr, yn y dyfodol, rwy'n cytuno bod angen dadl ynghylch pa un a yw sofraniaeth seneddol yn briodol—ac rwyf i wedi ei ddweud o'r blaen—yn gyhoeddus, ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu bod angen i ni symud i setliad cyfansoddiadol sy'n cydnabod bod gwahanol ganolfannau o gyfreithlondeb democrataidd o fewn y DU ei hun. Ond, o ran y setliad datganoli presennol, mae gennym ni sefyllfa lle, i bob pwrpas, y bydd cost wleidyddol uchel iawn i unrhyw Lywodraeth y DU ei thalu pe byddai'n dymuno hyrddio beth bynnag yr oedd ei eisiau drwodd. A gaf i ddweud hefyd, pe byddai'n wir bod Llywodraeth y DU eisiau anwybyddu'r Cynulliad neu Senedd yr Alban yn llwyr, oni fyddai wedi gwneud hynny eisoes? Nid yw wedi gwneud hynny—nid fy lle i yw ei hamddiffyn, ac nid wyf yn gwneud hynny'n aml—ond, mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb lle maen nhw wedi ildio, rwy'n cydnabod, llawer iawn o dir. Ac rydym ni mewn sefyllfa lle—er y byddai wedi bod yn well gennym ni gael gwared ar gymal 11 yn llwyr, rydym ni mewn sefyllfa lle mae mesurau diogelu, mesurau diogelu digonol, wedi eu rhoi yng nghymal 11. Sicrhawyd chwarae teg o ran gwneud deddfwriaeth nad oeddem yn agos ati flwyddyn yn ôl. Rwy'n sicr yn talu teyrnged i'm cyd-Aelod, Mark Drakeford, am y gwaith a wnaeth o wythnos i wythnos i ddod i'r cytundeb a wnaethom.
Prif Weinidog, mae hon yn fargen amheus, ac mae'n un yr ydych chi wedi cytuno iddi. Ac nid creu anhrefn cyfansoddiadol yw'r unig beth y mae wedi ei wneud. Bydd eich penderfyniad i roi cydsyniad i'r Bil hwn yn arwain at oblygiadau i'n heconomi hefyd. Er bod eich plaid mewn llanastr ar y cwestiwn hwn, mae eich Gweinidogion ac Aelodau Llafur yn parhau i ymgyrchu dros aelodaeth o undeb tollau. Trwy hysbysu ein bod yn cydsynio i'r Bil ymadael, fodd bynnag, rydych chi'n rhoi Brexit caled i'r Torïaid ar blât. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ei fod yn deall ei fod yn sicrhau, trwy gydsynio i'r Bil ymadael, mai San Steffan fydd yn penderfynu pa un a yw Cymru'n gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl?
Wel, roedd hi'n wir erioed, yn ôl y gyfraith, mai San Steffan sy'n penderfynu pa un a fyddwn ni'n gadael yr undeb tollau. Mewn gwirionedd, fel y mae hi wedi fy nghlywed i'n dweud lawer, lawer gwaith, byddai hynny'n wallgofrwydd cyn belled ag y mae'r DU yn y cwestiwn. Mae'n bwysig dros ben bod y DU yn aros yn yr undeb tollau. Nid yw polisi masnach wedi'i ddatganoli—dyna'r gwirionedd. Ond rydym ni wedi sicrhau bod gennym ni lais i wneud yn siŵr bod llais Cymru yn cael ei glywed.
Mae'n rhaid i mi ddweud, yr wythnos diwethaf—gwrandewais ar Blaid Cymru yr wythnos diwethaf; roedd hi bron fel pe byddai dwy wahanol ddadl. Gwrandewais ar Rhun ap Iorwerth a'r hyn a ddywedodd ef—ymateb pwyllog a manwl. Roedd yn ymateb pwyllog a manwl o'i gymharu â'r hyn a gawsom yn gynharach gan arweinydd Plaid Cymru, pan ddefnyddiodd eiriau fel 'ildio', 'bradychu', 'bargen amheus'. Mae hi'n swnio fel Jacob Rees-Mogg wrth sôn am Brexit. Nid wyf i'n gwrthwynebu beirniadaeth, ond o leiaf—[Torri ar draws.] Gadewch i ni edrych ar y manylion. Gadewch i ni edrych ar y manylion. [Torri ar draws.] Gadewch i ni edrych ar y manylion. Os oes anghytuno ynghylch y manylion, iawn, ond, yn yr atebion a roddais, ni wnaeth hi ddod yn ôl ataf unwaith a dweud, 'Wel, edrychwch, beth am hyn? Beth am hyn? Sut mae hynny'n rhoi tawelwch meddwl i ni?' Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n credu bod yr ateb a roddwyd gan Rhun ap Iorwerth, neu'r araith a wnaed ganddo, yn sicr, yr wythnos diwethaf, yn bwyllog ac yn rhywbeth, yn fy marn i, y gallem ni fod wedi cael dadl wirioneddol yn ei gylch.