3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) i’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 8 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:00, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn, unwaith eto, gyfeirio'n ôl at y realiti, y realiti ffeithiol diymwad, sef bod yr adroddiad hwn gan HASCAS, grŵp annibynnol, sefydliad annibynnol, wedi ystyried ystod lawer ehangach o dystiolaeth na'r adroddiadau blaenorol. Ac ni ddylai fod yn syndod, pan fydd mwy o dystiolaeth ar gael, gan gynnwys y 108 o gofnodion clinigol a adolygwyd, ei bod hi'n bosibl dod i gasgliad gwahanol. Nid yw hynny'n bwrw amheuaeth ar ddidwylledd y bobl a roddodd dystiolaeth yn flaenorol—ddim o gwbl. Ac, yn wir, mae HASCAS eu hunain yn dweud nad yw eu hadroddiad yn cyhuddo unrhyw deuluoedd o newid neu ymhelaethu ar eu straeon. Mae'r adroddiad, fodd bynnag, yn ei gwneud hi'n glir bod llawer o deuluoedd nad oedd ganddynt bryderon hyd nes y cafwyd y cyhoeddusrwydd yn ymwneud ag adroddiad cynharach. Yna, roedd arnyn nhw eisiau gwybod a oedd eu hanwyliaid wedi cael eu cam-drin, a cheisio sicrwydd yn hyn o beth.  

Ac rwy'n credu bod hynny'n eithaf hawdd i'w deall. Yr her yw sut y mae pob un ohonom ni yn ein swyddogaethau gwahanol, gan gynnwys fi, â'm swyddogaeth i yn y Llywodraeth, mewn gwirionedd yn ymateb i'r negeseuon anodd iawn o'r adroddiad hwn ac yn deall y loes wirioneddol a achoswyd eisoes i amryw o deuluoedd a sut y mae cynorthwyo'r bobl hyn drwy hynny. Ac nid yw hynny'n hawdd; mae a wnelo hynny â'ch sylw olaf ynghylch adennill ymddiriedaeth. Wel, rwy'n credu mai rhan o hynny yw bod yn onest, ac mae hynny weithiau'n golygu dweud pethau nad ydyn nhw yn awtomatig yn hawdd i'w dweud neu i'w glywed. Felly, pan wyf i'n derbyn yr adroddiad a'i ganfyddiadau ac y mae'n rhaid inni weithio drwy ein hargymhellion, bydd hynny yn plesio ystod o deuluoedd, a fydd wedi eu calonogi gan hynny. Bydd hefyd yn golygu bod yna nifer o deuluoedd sy'n ddig ac yn ofidus ac nad ydyn nhw'n cytuno mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Does dim modd plesio pawb yn y sefyllfa hon, ac rydych chi'n dechrau drwy dderbyn y bu methiannau yn y gofal a ddarparwyd, a dyna beth y mae angen inni ei ddatrys.

Rwy'n credu hefyd fod a wnelo hyn â'r pwynt ynghlŷn â'r awgrym y cafodd pethau eu celu. Po fwyaf y gwneir yr awgrym hwnnw a po fwyaf ffyrnig y gwneir yr awgrym hwnnw, yr anoddach i gyd y bydd hi i adennill ymddiriedaeth. Rwy'n derbyn y bydd pobl yn dymuno gofyn cwestiynau, ond mae'r ymosodiad rhag blaen ar ddidwylledd HASCAS a'u hunigolion yn rhywbeth yr wyf yn siomedig iawn yn ei gylch, yn wir. Mae HASCAS yn sefydliad sydd wedi llunio adroddiadau fel hyn i amrywiaeth o sefydliadau iechyd a gofal a methiannau ledled yr ynysoedd hyn. Ni chawsant erioed o'r blaen y fath ymosodiad ar eu didwylledd. Os edrychwch chi ar CV y dwsin o bobl sydd ar y panel a'r pedwar cyfreithiwr gwahanol, gan gynnwys Cwnsler y Frenhines a oedd yn gweithio ar hyn er mwyn rhoi sicrwydd ynghylch cyngor cyfreithiol, mae dweud eu bod yn rhan o gynllwyn i gelu gwybodaeth yn gyhuddiad eithafol i'w wneud, ac nid wyf yn credu bod unrhyw dystiolaeth ar gael sydd o ddifrif calon yn cefnogi'r cyhuddiad hwnnw. Ac, yn hynny o beth, rwy'n credu bod hynny'n wahanol i weld bod teuluoedd yn ofidus ac y byddant yn gwylltio—rydych chi'n deall hynny. Sut allech chi beidio â chael cydymdeimlad dynol, gwirioneddol â'r  teuluoedd hynny sy'n rhan o hyn? Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni ymgyrraedd at safon uwch, i fod yn fwy gwrthrychol ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd. Efallai y bydd hynny'n gwneud inni ymddangos yn  oer a digydymdeimlad, ond mae'n rhaid inni allu gwneud ein gwaith er mwyn deall sut y mae pobl yn teimlo, a chydnabod wedyn beth yn ein barn ni sy'n briodol ar gyfer y gwasanaeth cyfan.

A'ch sylw ynglŷn â theuluoedd Tawel Fan—rwyf wedi gweld eu datganiad, wrth gwrs fy mod i. Ac mae  Teuluoedd Tawel Fan, grŵp o ryw naw neu 10 o deuluoedd sydd wedi bod fwyaf blaenllaw yn y broses—. Ond yr her yn hyn i gyd—rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni allu deall—yw bod yna rhai teuluoedd nad ydynt eisiau bod yn rhan o'r broses ar y cyd honno. Nid oedden nhw eu hunain yn credu fod hwnnw'n amgylchedd lle y gallent leisio eu pryderon unigol eu hunain. Felly, roedd gennym ni ffyrdd gwahanol i deuluoedd ymgysylltu a bod yn rhan o'r adroddiad hwn. Rhoddodd tri deg pump o deuluoedd dystiolaeth uniongyrchol i'r ymchwiliad hwn. Roedd 25 o deuluoedd eraill yn rhan o'r ymchwiliad ond dewisasant beidio â rhoi tystiolaeth uniongyrchol, ac roedden nhw'n glir eu bod yn fodlon ar y cyfan â'r gofal a gafodd eu hanwyliaid. Felly, ceir gwrthdaro cynhenid rhwng y digwyddiadau y mae teuluoedd yn sôn amdanynt yn ystod yr un cyfnod o amser, ac mae'r adroddiad hwn yn ymgais onest i ddeall hynny ac i adrodd ar y dystiolaeth a ddarparwyd. Rwy'n ailddatgan fy ymrwymiad i geisio adennill ymddiriedaeth teuluoedd ar draws y gogledd a thu hwnt drwy wneud yn siŵr mewn gwirionedd ein bod yn cymryd o ddifrif y feirniadaeth yn yr adroddiad hwn ac yn ystyried o ddifrif y gofyniad i weld gwelliannau pellach a pharhaus  mewn gwasanaethau gofal iechyd yn y gogledd, yn enwedig o ran oedolion hŷn sy'n dioddef o ddementia, oherwydd dyna yw'r her wirioneddol y mae'r adroddiad hwn yn ei gosod.