– Senedd Cymru am 2:37 pm ar 8 Mai 2018.
Rwy'n symud ymlaen at yr eitem nesaf o fusnes i'w drafod, ac eitem 3 yw hwnnw, sef y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr adroddiad ynghylch—. Mae hwn gennyf yn Gymraeg o'm mlaen i, felly rwy'n mynd i droi i'r Gymraeg nawr.
Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, HASCAS, i'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan, ac rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Ar 3 Mai, cyhoeddodd y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ganlyniad ei ymchwiliad i'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan. Rwy'n ymwybodol iawn y bu hyn yn gyfnod anodd iawn i'r holl unigolion, teuluoedd a staff sydd wedi eu heffeithio'n uniongyrchol gan y pryderon ynghylch gofal a thriniaeth yn Tawel Fan. Rwy'n cydnabod y pwysau ychwanegol a achoswyd gan hyd yr ymchwiliad hwn. Fodd bynnag, roedd hi'n hanfodol bod yr ymchwiliad yn parhau i ganolbwyntio ar broses deg a thrwyadl, ac na thanseiliwyd hynny er mwyn ymlynu ag amserlenni caeth. Roedd yr adroddiad yn nodi amrywiaeth o fethiannau a oedd yn siom i gleifion ac a arweiniodd at achosi niwed gwirioneddol. Mae'n ddrwg iawn gennyf fod hyn wedi digwydd ac rwy'n ymddiheuro yn ei gylch heb unrhyw betruso.
Roedd cwmpas yr ymchwiliad yn sylweddol ac yn ehangach na'r comisiwn gwreiddiol. Yn y pen draw, fe olygodd adolygu 700,000 o dudalennau o ddogfennaeth, 148 o gyfweliadau a 108 o adolygiadau achos. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried hefyd ddeunydd a ddarparwyd yn rhan o ymchwiliadau blaenorol. Roedd hwn yn gylch gwaith eang, ac yn wahanol i adroddiadau blaenorol, roedd modd gweld set gynhwysfawr o ddogfennau, gan gynnwys cofnodion clinigol, a manteisio ar arbenigedd iechyd meddwl penodol. Seiliodd HASCAS ei safbwynt ar annibyniaeth a thystiolaeth drwy gydol y broses, â'r nod o ddarparu darlun mor gywir o ddigwyddiadau ag y caniatâ'r dystiolaeth sydd ar gael. Gwnaed hyn gyda chymorth panel arbenigol o 16 o unigolion sy'n uchel iawn eu parch yn genedlaethol.
Mae angen imi roi sylw i'r cyhuddiad a wnaed fod cysylltiad uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Cynghori sy'n effeithio ar annibyniaeth yr adroddiad. Mae'r awgrym bod yna gynllwyn i lywio'r adroddiad er mwyn amddiffyn y Llywodraeth neu blaid wleidyddol yn ymosodiad uniongyrchol ar ddidwylledd HASCAS a'r unigolion ar y panel ymchwilio. Nid oedd unrhyw un ar y panel ymchwilio yn ymarferwyr yng Nghymru. Roedd y cyngor cyfreithiol a roddwyd i ymchwiliad HASCAS yn annibynnol ar y Llywodraeth, ac mae HASCAS, fel sefydliad, wedi cynnal amrywiaeth o adolygiadau, er enghraifft, yn y system iechyd a gofal yn Lloegr heb ofn na ffafriaeth, ac nid oes unrhyw sail resymol i ymosod ar eu didwylledd yn y mater hwn.
Rwy'n deall y bydd llawer wedi'u synnu gan ganfyddiadau eu hadroddiad. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sydd wedi rhoi o'u hamser i ddarllen yr adroddiad yn ofalus sylweddoli pa mor drylwyr oedd yr ymchwiliad a deall sut y daethpwyd i'r casgliadau. O ran y gofal yn Tawel Fan, y canfyddiadau annibynnol yw bod graddau'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan o safon gyffredinol da ar y cyfan ac y darparwyd gofal nyrsio da.
Er bod rhai o'r canfyddiadau yn rhoi sicrwydd inni, mae'r adroddiad yn boenus i'w ddarllen. Mae ymhell o fod yn berffaith. Nid wyf yn gwadu'r materion sylweddol y mae'n eu hamlygu mewn nifer o feysydd, gan gynnwys llywodraethu ac arweinyddiaeth glinigol; dyluniad y gwasanaethau a'r llwybrau gofal; a diogelu. Mae llawer o'r materion yn mynd y tu hwnt i wasanaethau iechyd meddwl ar ward Tawel Fan.
Bydd HASCAS yn cwrdd yn unigol â phob teulu i drafod adroddiadau cleifion unigol, sydd yn hollbwysig wrth ddarparu manylion ynglŷn â'r gofal a ddarparwyd. Rwy'n gobeithio, ochr yn ochr â'r adroddiad thematig, y bydd adroddiadau unigol yn rhoi sicrwydd i deuluoedd ynghylch didwylledd yr ymchwiliad. Cynhelir proses debyg ar gyfer staff sydd wedi cael eu heffeithio hefyd. Rwyf eisoes wedi ceisio sicrwydd bod y Bwrdd Iechyd yn darparu'r graddau priodol o gymorth i staff a theuluoedd yn ystod y broses hon.
Fel yr wyf i wedi'i ddweud eisoes, mae'n glir iawn bod angen i'r Bwrdd Iechyd ddal ati i wella'n barhaus. Bydd angen goruchwyliaeth benodol bellach o dan y trefniadau mesurau arbennig er mwyn gwneud hyn.
Mae'r adroddiad er hynny yn cydnabod y daith sylweddol y mae'r Bwrdd Iechyd wedi dechrau arni, gan gydnabod nad yw wedi sefyll yn ei unfan ers y cyfnod sy'n cael ei ymchwilio. Mae'r adroddiad yn dweud bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn meysydd allweddol y manylir arnyn nhw yn y strategaeth dementia, er enghraifft, bod â nyrs ymgynghorol dynodedig ym maes gofal dementia erbyn hyn. Mae hefyd yn cydnabod y cynnydd cyson y mae Betsi Cadwaladr yn ei wneud o ran cymorth i gleifion a gofalwyr, a gweithio mewn modd rhagweithiol i gynorthwyo'r sector cartrefi gofal.
Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at nifer o feysydd lle gwelsant arfer da. Rwy'n awyddus, er gwaethaf y feirniadaeth yn yr adroddiad, ein bod yn cydnabod y gofal rhagorol a ddarperir gan gynifer o staff ar draws y Bwrdd Iechyd, bryd hynny a phob dydd ers y digwyddiadau y mae'r adroddiad hwn yn eu harchwilio. Er enghraifft, mae'r tîm nyrsio yn uned iechyd meddwl cleifion mewnol Bryn Hesketh wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr sy'n cydnabod y rhai sydd wedi cyflawni rhagoriaeth yn eu maes nyrsio.
Fodd bynnag, er gwaethaf rhai pethau cadarnhaol, rwy'n parhau i fod yn glir iawn gyda'r Bwrdd Iechyd ynglŷn â'r angen i gyflymu'r gwelliannau ac i ymdrin â materion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn eto, a byddaf yn egluro fy nisgwyliadau ar gyfer y gwelliant hwnnw. Byddaf heddiw yn cyhoeddi fframwaith gwelliant mesurau arbennig sy'n nodi cerrig milltir a disgwyliadau ar gyfer y bwrdd iechyd ar gyfer y 18 mis nesaf o ran arweinyddiaeth a rheolaeth, cynllunio strategol a chynllunio gwasanaethau, iechyd meddwl a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau.
Mae'r gwelliant hwn yn amlwg yn cyfeirio at y gwaith sy'n ofynnol i'r sefydliad ei wneud o ganlyniad i argymhellion HASCAS. Efallai y bydd angen diweddariad pellach ar ôl adolygiad llywodraethu Donna Ockenden, a ddisgwylir cyn bo hir. Bydd hyn ar ffurf cynllun gwella ansawdd a llywodraethu manwl a gaiff ei baratoi gan y Bwrdd Iechyd ac sydd i fod ar gael erbyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Gorffennaf yr haf hwn. Byddaf yn parhau i ddarparu goruchwyliaeth weinidogol gyda chyfarfodydd atebolrwydd bob mis gyda'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Rwy'n disgwyl i Betsi Cadwaladr ddarparu adroddiadau cynnydd manwl o'i gymharu â'r fframwaith gwella newydd ac fe gaiff yr adroddiad cyntaf ei ddarparu ym mis Hydref eleni.
Mae arweinyddiaeth gref ar gyfer y sefydliad yn allweddol i'r gwelliannau hyn. Rwyf wedi sôn o'r blaen y bydd cadeirydd newydd yn arwain cam tyngedfennol nesaf taith y Bwrdd Iechyd tuag at welliant. Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw fod Mark Polin wedi'i benodi i'r swyddog. Bydd yn dod â chyfoeth o brofiad o arweinyddiaeth a llywodraethu yn y sector cyhoeddus, ynghyd ag ymrwymiad a gwybodaeth am gymunedau'r gogledd o'i swydd bresennol yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ar ei benodiad a'r trefniadau mesurau arbennig mewn datganiad llafar ddechrau mis Mehefin.
Rwy'n disgwyl arweiniad cryf, ac arweinyddiaeth glinigol yn enwedig, gan bob rhan o'r sefydliad i fynd i'r afael unwaith ac am byth â materion y mae'r adroddiad hwn yn eu nodi. Mae'n rhaid cael newid diwylliant sylweddol er mwyn cefnu ar y gwrthwynebiad sylfaenol presennol i'r polisi clinigol a chysondeb o ran arferion. Bydd angen i'r Bwrdd ystyried hyn yn ddwys ac ar fyrder er mwyn penderfynu beth sydd angen ei wneud i newid ffyrdd o weithio. Rwy'n disgwyl, o leiaf, gweld arwyddion o hyn mewn arweinyddiaeth ac ymgysylltu clinigol i gefnogi'r gwaith o ddylunio a darparu llwybr gofal ar gyfer pobl hŷn sydd â dementia, ynghyd â'r gwelliant sylweddol yn y ddarpariaeth iechyd meddwl sy'n dal yn angenrheidiol.
Rwy'n disgwyl i'r Bwrdd Iechyd a phartneriaid o blith yr awdurdodau lleol ystyried y canfyddiadau yn ofalus o ran gweithrediad y trefniadau diogelu. Mae amddiffyn pobl mewn perygl rhag pob math o gam-drin ac esgeulustod yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru. Adlewyrchir hyn yn glir yn y ddeddfwriaeth a'r polisïau yr ydym ni wedi'u cyflwyno yn y tymor hwn a'r un flaenorol.
Rwy'n disgwyl y caiff y canfyddiadau yn yr adroddiad hwn eu defnyddio fel maen prawf gan holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Byddaf felly yn ysgrifennu at holl gadeiryddion a Phrif Weithredwyr sefydliadau'r GIG yng Nghymru, yn gofyn i'w byrddau ystyried argymhellion yr adroddiad ac i gadarnhau sut y byddant yn defnyddio'r canfyddiadau i wella eu sefydliad. Byddaf hefyd yn disgwyl i'r Prif Swyddog Meddygol a'r Prif Swyddog Nyrsio drafod ag arweinwyr gweithredol proffesiynol i sicrhau y caiff y gwersi a geir yn yr adroddiad hwn eu hymgorffori i'r gwaith o gynllunio a darparu gofal iechyd yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r rhain yn gamau brys sy'n cael eu gweithredu mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad HASCAS. Byddaf wrth gwrs yn parhau i ddiweddaru'r Aelodau ynglŷn â'r cynnydd a wneir o ran y gwelliant ehangach angenrheidiol.
Yn eich datganiad i ni, rydych chi'n dweud y dylai unrhyw un sydd wedi rhoi o'u hamser i ddarllen yr adroddiad yn ofalus sylweddoli pa mor drylwyr oedd yr ymchwiliad a deall sut y daethpwyd i'r casgliadau.
Mae'n rhaid inni anghytuno. Ond, wrth gwrs, nid ni yw'r unig rai. Mae'r prif swyddog yng Nghyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi dweud bod diystyru tystiolaeth teuluoedd Tawel Fan yn gyfystyr â pheidio â chredu pobl sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol. Mynnodd ef fod y dystiolaeth a roddwyd gan berthnasau cleifion sydd â dementia yn Uned Ablett yn gwbl gredadwy. Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, na fydd prif ganfyddiadau'r adroddiad yn fawr o gysur i deuluoedd cleifion ar ward Tawel Fan, a oedd wedi bod yn glir bod eu perthnasau wedi dioddef safonau gofal a oedd yn gwbl annerbyniol.
Onid oedd eich defnydd o'r gair 'cysuro' mewn adroddiadau cychwynnol yn y wasg yn sgil cyhoeddi'r adroddiad ar y gorau yn ansensitif i berthnasau a theuluoedd, yr adroddwyd eu bod hwy eu hunain wedi dweud eu bod cynnwys yr adroddiad hwn yn dorcalonnus? Roedden nhw'n ddig ac yn gandryll ynglŷn â'r adroddiad ar y cam-drin. Dywedasant eto ynglŷn â sut y gwelwyd eu hanwyliaid yn cael eu llusgo gerfydd eu gwar, yn cael eu carcharu a'u gadael yn eu baw eu hunain. Dywedodd un sut y cafodd ei fam ei bwlio a'i gorfodi i gysgu mewn gwely a oedd yn bla o forgrug. Roedd mwy nag un achlysur pan gadawyd hi yn yr un dillad am o leiaf dau ddiwrnod, yn gorwedd yn ei baw ei hun. Disgrifiodd yr adroddiad fel ymgais enfawr i gelu'r gwir, fel yr adroddwyd yn y wasg.
Dywedodd bwrdd iechyd meddwl Tawel Fan, yn adroddiad Uned Ablett yn 2013—yn yr adroddiad hwnnw, dywedodd y Bwrdd Iechyd y tynnwyd ei sylw at bryderon difrifol ynghylch gofal cleifion ym mis Rhagfyr 2013. Wrth gwrs, mae'r adroddiadau yn mynd yn ôl llawer, llawer pellach. Yn 2009, cynrychiolais etholwr a honnodd y gwnaeth y driniaeth a gafodd ei gŵr yn yr uned bron ei ladd a bod tri chlaf arall a dderbyniwyd tua'r un amser â'i gŵr wedi cael profiadau tebyg a'i bod hi nawr yn poeni am y driniaeth y caiff eraill o bosib yn yr uned hon. Roedd ei gŵr yn dioddef o glefyd Alzheimer a chanser angheuol. Anfonwyd ataf hefyd gŵyn ar ran claf arall ar y pryd a oedd â dementia fasgwlaidd, a oedd yn cynnwys lluniau torcalonus o'r claf cyn ac ar ôl bod yno. Rhannwyd y rhain â'r Bwrdd Iechyd a'i ragflaenydd a'ch rhagflaenydd chi. Ymddengys na wnaed unrhyw beth.
Diolch byth, yn 2015, derbyniodd Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganfyddiadau adroddiad Donna Ockenden a gyhoeddwyd y flwyddyn honno. Felly, pam yn awr, pan fo adroddiad HASCAS yn frith o honiadau difrifol, ei fod wedi dod i'r casgliad rhyfeddol y bu'r gofal yn dda ac na ddigwyddodd cam-drin sefydliadol? Pam nad yw'r casgliadau yn cyfateb i'r canfyddiadau? Nid yw adroddiad HASCAS yn cyd-fynd â'r pryderon a nodwyd mewn adroddiadau eraill. Pam nad yw yn cyd-fynd ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Gorffennaf 2013, a ganfu claf dan glo mewn ystafell yn eistedd mewn cadair bwced, yn ei faw a'i ddŵr ei hun. Canfu nad oedd unrhyw weithgareddau ar gyfer cleifion. Canfu fod yr ardd yn flêr ac yn anhygyrch. Canfu staffio annigonol, a llawer mwy—Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Gorffennaf 2013.
Gwnaed gwaith mewnol yn mapio gofal dementia ym mis Hydref 2013, a oedd yn dangos bod cleifion yn ymdrechu'n daer i gael sylw staff, ac adroddwyd am glaf oedrannus y canfuwyd ei bod yn taenu ei hun â'i baw ei hun oherwydd y diffyg sylw hwnnw. Mae adroddiad HASCAS ar dudalen 115 yn sôn am y gwaith hwn o fapio gofal dementia, ond wedyn ar dudalen 116 yn dweud na fynegwyd unrhyw bryderon difrifol ac na welwyd unrhyw arferion gwael. Pam nad yw hynny yn cytuno ag adroddiad mis Hydref 2013, a ganfu'r gwrthwyneb yn llwyr? Os mai eich mam-gu chi, eich mam chi neu eich chwaer chi fyddai hon, oni fyddech chi'n ystyried bod hyn yn bryder difrifol? Byddai unrhyw fod dynol rhesymol arall yn ystyried bod hwn yn fater o'r difrifoldeb mwyaf a dwysaf.
Dywed tudalen 64 o adroddiad HASCAS fod 29 o deuluoedd wedi disgrifio pryderon sylweddol ynghylch cyfathrebu a rhoi diagnosis o ddementia, a honnodd 18 o deuluoedd fod cleifion wedi dioddef cleisiau ac anafiadau anesboniadwy. Nid etholiad mo hwn; nid pleidlais mohono. Nid yw'n gwestiwn o faint o bobl gafodd rhyw brofiad neu'i gilydd i benderfynu ar y canlyniad. Dyma'r profiadau a nodwyd gan ddwsinau a dwsinau o deuluoedd, a hynny o ran y bobl a oedd o'r pwys mwyaf iddynt. Dywed tudalen 66 bod 10 o deuluoedd wedi disgrifio perthnasau yn fudr a'r ward yn drewi o wrin. Pam nad yw hyn yn dor-ddyletswydd i'r cleifion hyn o'r gofal yr oeddent i fod i'w gael, ac yn hynny o beth, i'w teuluoedd?
Seilir canfyddiadau HASCAS, yn briodol iawn, ar nodiadau clinigol. Rydych yn cyfeirio at y nodiadau clinigol yn eich datganiad, ond maen nhw'n cydnabod eu bod yn deall pan ddaeth hi'n bryd iddyn nhw ddechrau eu hadolygiad, nad oedd y cofnodion clinigol a oedd eu hangen wedi'u cadw'n ddiogel dan glo. Pam felly, yn groes i safonau safonol y GIG i rwystro nodiadau clinigol rhag cael eu gweld, nad oedd y nodiadau hyn yn cael eu cadw'n ddiogel? A sut, hyd yn oed os nad oedd neb wedi cael gafael arnynt, y gallwn ni fod ag unrhyw hyder ynghylch eu cynnwys yn yr amgylchiadau hyn, yn enwedig o ystyried canfyddiadau gwahanol yr adroddiadau gwahanol yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw?
Onid y gwir yw bod ein cyd-Aelod, Darren Millar, nad oes modd iddo fod yma gyda ni heddiw, yn gywir i fod wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn iddyn nhw edrych ar y mater hwn, o ystyried y dystiolaeth anghyson a'r pryderon mawr a achoswyd yn y gogledd yn gyffredinol, ond yn enwedig i deuluoedd y dwsinau o ddioddefwyr hyn, ac felly y byddaf yn cyfeirio atynt, bod y dystiolaeth mor gryf fel bod yn rhaid inni dderbyn yr oeddent yn amlwg yn dweud y gwir? Rwy'n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn newid eich cân ynghylch hyn, eich bod yn mynd i wrando, nad ydych chi'n mynd i geryddu'r cennad, ac y byddwch chi'n ailystyried eich ymagwedd, oherwydd, os nad ydych chi'n gwneud hynny, fe fyddwch chi wedi methu yn eich dyletswydd i'r bobl hyn, byddwch chi wedi methu yn eich dyletswydd i gleifion a staff, a byddwch chi wedi methu yn eich dyletswydd i Gymru. Rwy'n edrych ymlaen at eich ymateb.
Rwy'n cydnabod y bydd amrywiaeth o bobl na fyddant yn derbyn canfyddiadau adroddiad ymchwiliad annibynnol HASCAS. Rwy'n cydnabod y bydd amrywiaeth o deuluoedd na fyddant yn gallu derbyn eu casgliadau, ac mae'n hawdd deall pam y gallai hynny fod, pan fo pobl wedi gweld heriau a chwyno amdanynt. Ond, fel y mae'r adroddiad yn nodi, yn sicr nid yw'n dweud bod y Bwrdd Iechyd yn berffaith—ddim o bell ffordd—ac mae yn sôn am fethiannau yn y gofal a gafodd rhai pobl, ond mae'n dweud, yn gyffredinol, nad yw'n cefnogi'r canfyddiad blaenorol o gam-drin ac esgeulustod sefydliadol.
Ac eto mae'n deg dweud, er bod rhai teuluoedd yn ddig ac wedi cael eu brifo, ac rydych chi'n deall pam yn y casgliadau y daethpwyd iddynt, mae yna amrywiaeth o deuluoedd nad oedd yn dymuno lleisio barn oherwydd nad oedd ganddyn nhw unrhyw gŵynion ynghylch y gofal a ddarparwyd. Mynegodd teuluoedd eraill eu barn a chadarnhau nad oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon neu gŵynion ynghylch y gofal a ddarparwyd. Mae hefyd yn wir y dylid ystyried y ffaith y bu anghytuno mewn teuluoedd ynghylch y gofal a ddarparwyd hefyd. Felly, yn y sefyllfa gynhennus honno, lle mae gan bobl wahanol fersiynau o'r un digwyddiadau, lle derbynnir nad oedd y gofal, ar adegau, fel y dylasai fod ac y siomwyd pobl pan ddigwyddodd hynny, nid yw'n syndod bod safbwyntiau gwahanol ynglŷn â chasgliadau cyffredinol yr adroddiad. Ond, fel y dywedaf, nid yw hynny'n effeithio ar ddidwylledd yr adroddiad hwn.
Mae'n werth eto eich atgoffa chi ac eraill, wrth gwrs, fod ystod ehangach o lawer o wybodaeth ar gael wrth lunio'r adroddiad hwn. Cynhaliwyd cyfweliadau â 168 o dystion nad oeddent ar gael ar gyfer yr adroddiad cychwynnol. Ystyriwyd 190 o ddatganiadau gan dystion yn yr adroddiad i'r heddlu nad oedd ar gael ar gyfer yr adroddiad cyntaf hefyd. Amlygwyd problemau gwirioneddol.
O ran yr ymateb gan HASCAS, dylem gofio beth y maen nhw eu hunain wedi ei ddweud. Maen nhw'n dweud nad yw eu hadroddiad yn amau dilysrwydd pryderon teuluoedd. Yn wir, mewn gwirionedd mae'n cadarnhau llawer iawn o'u pryderon. Mae'n bwysig bod hwn yn adroddiad hynod feirniadol. A dyna'r ymagwedd y byddaf i yn ei harddel i geisio gwelliannau pellach. Hoffwn weld teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw, gan gynnwys hyd yn oed y rhai hynny nad ydynt yn derbyn yr adroddiad, yn cael eu cefnogi weddill eu bywydau. Rwyf eisiau gweld staff yr effeithiwyd arnyn nhw yn uniongyrchol yn cael cymorth, ac rwyf eisiau gweld gwelliant gwirioneddol a pharhaus a fydd yn ystyried pryderon a beirniadaethau gwirioneddol yr adroddiad beirniadol iawn hwn.
Lle'r Cynulliad, fodd bynnag, yw penderfynu a yw eisiau adolygu'r 300 o dudalennau o adroddiad HASCAS a'r 700,000 o dudalennau o ddogfennau a thystiolaeth tystion sy'n ategu hynny. Mae hynny'n fater i'r Cynulliad, nid i'r Llywodraeth, benderfynu arno. O'm rhan i, byddaf yn gwneud popeth y gallaf ac y dylaf ei wneud i roi'r sicrwydd yr wyf yn siŵr y mae pob un ohonom ni yn chwilio amdano, a hynny yw y gwrandewir ar bryderon pobl, a'n bod o ddifrif ynglŷn â'r angen am welliannau yn y maes gofal iechyd yn y gogledd.
Diolch i chi am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rydych chi wedi darllen, rwy'n siŵr, y datganiad a gyhoeddwyd gan grŵp teuluoedd Tawel Fan mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad HASCAS: maen nhw'n dweud
'ni allwn ni ac ni wnawn ni dderbyn y canfyddiadau',
Maen nhw'n dweud nad yw'r hyn y maen nhw wedi ei ddarllen yn yr adroddiad hwn yn gwneud synnwyr o'i gymharu â phopeth arall a ddigwyddodd cyn hynny—profiadau y teuluoedd eu hunain, rhoi cyhoeddusrwydd i'r profiadau hynny, a arweiniodd bum mlynedd yn ôl at gau ward Tawel Fan, yr adroddiadau beirniadol blaenorol, yr ymddiheuriadau gan y Bwrdd Iechyd ei hun am y driniaeth ofnadwy a'r niwed a brofwyd yn sgil hynny.
Wrth gwrs, fel y dywedwch chi, mae'n dal i fod yn adroddiad damniol iawn. Fe glywsom ni chi'n dweud y prynhawn yma fod yr adroddiad yn nodi amrywiaeth o fethiannau oedd yn siom i gleifion ac a arweiniodd at achosi niwed gwirioneddol, ac rydych chi'n dweud ei bod hi'n ddrwg iawn gennych chi y digwyddodd hynny a'ch bod yn ymddiheuro yn ei gylch heb unrhyw betruso.
Felly, mae'r adroddiad yn amlygu methiannau difrifol, ond, rhywsut, daw nid yn unig i'r casgliad nad oedd hyn yn gyfystyr â cham-drin ac esgeulustod sefydliadol, yn hollol groes i adroddiad Ockenden, ond hefyd y dylai peth o'r goleuni a ddylai gael ei daflu ar yr hyn a ddigwyddodd gael ei adlewyrchu ar y teuluoedd eu hunain. Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n egluro'r gwahaniaeth yng nghasgliadau'r adroddiad hwn â chasgliadau'r adroddiadau blaenorol? Sut ydych chi'n egluro'r gwahaniaeth rhwng y disgrifiad clir o ddiffygion difrifol a lluosog yn y ffordd y rheolwyd Tawel Fan a'r casgliad (a), nad yw hyn i bob diben yn golygu gofal gwael i gleifion a (b), mewn gwirionedd, fod y cleifion a'r teuluoedd rywsut eu hunain ar fai, yn rhannol o leiaf am fod â disgwyliadau afrealistig neu am beidio â deall dementia neu am newid eu barn am eu profiadau mewn ymateb i sylw yn y cyfryngau.
Gan edrych i'r dyfodol, hoffwn ddymuno'n dda i Mark Polin wrth iddo gamu i swydd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd. Rwy'n nodi eich cyhoeddiad arfaethedig heddiw o fframwaith gwella mesurau arbennig, ond, wrth gwrs, mae Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers bron i dair blynedd ac mae'n rhaid i bobl gael hyder bod gwersi wedi eu dysgu am y gorffennol cyn y gallan nhw fod yn ffyddiog yn yr hyn y gall y Bwrdd Iechyd ei ddarparu ar eu cyfer yn y dyfodol.
Mae llawer eisoes wedi dod i'r casgliad mai ymgais yw hon i gelu'r gwir. Nid yw'r teuluoedd yn ystyried bod hwn yn adroddiad credadwy. Ac o gofio'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed gennych chi heddiw—eich bod yn dymuno i'r adroddiad hwn, nad yw teuluoedd yn ei ystyried yn gredadwy, fod yn sail ar gyfer symud ymlaen at ofal iechyd gwell—sut ydych chi yn awr yn adennill ymddiriedaeth y bobl hynny?
Hoffwn, unwaith eto, gyfeirio'n ôl at y realiti, y realiti ffeithiol diymwad, sef bod yr adroddiad hwn gan HASCAS, grŵp annibynnol, sefydliad annibynnol, wedi ystyried ystod lawer ehangach o dystiolaeth na'r adroddiadau blaenorol. Ac ni ddylai fod yn syndod, pan fydd mwy o dystiolaeth ar gael, gan gynnwys y 108 o gofnodion clinigol a adolygwyd, ei bod hi'n bosibl dod i gasgliad gwahanol. Nid yw hynny'n bwrw amheuaeth ar ddidwylledd y bobl a roddodd dystiolaeth yn flaenorol—ddim o gwbl. Ac, yn wir, mae HASCAS eu hunain yn dweud nad yw eu hadroddiad yn cyhuddo unrhyw deuluoedd o newid neu ymhelaethu ar eu straeon. Mae'r adroddiad, fodd bynnag, yn ei gwneud hi'n glir bod llawer o deuluoedd nad oedd ganddynt bryderon hyd nes y cafwyd y cyhoeddusrwydd yn ymwneud ag adroddiad cynharach. Yna, roedd arnyn nhw eisiau gwybod a oedd eu hanwyliaid wedi cael eu cam-drin, a cheisio sicrwydd yn hyn o beth.
Ac rwy'n credu bod hynny'n eithaf hawdd i'w deall. Yr her yw sut y mae pob un ohonom ni yn ein swyddogaethau gwahanol, gan gynnwys fi, â'm swyddogaeth i yn y Llywodraeth, mewn gwirionedd yn ymateb i'r negeseuon anodd iawn o'r adroddiad hwn ac yn deall y loes wirioneddol a achoswyd eisoes i amryw o deuluoedd a sut y mae cynorthwyo'r bobl hyn drwy hynny. Ac nid yw hynny'n hawdd; mae a wnelo hynny â'ch sylw olaf ynghylch adennill ymddiriedaeth. Wel, rwy'n credu mai rhan o hynny yw bod yn onest, ac mae hynny weithiau'n golygu dweud pethau nad ydyn nhw yn awtomatig yn hawdd i'w dweud neu i'w glywed. Felly, pan wyf i'n derbyn yr adroddiad a'i ganfyddiadau ac y mae'n rhaid inni weithio drwy ein hargymhellion, bydd hynny yn plesio ystod o deuluoedd, a fydd wedi eu calonogi gan hynny. Bydd hefyd yn golygu bod yna nifer o deuluoedd sy'n ddig ac yn ofidus ac nad ydyn nhw'n cytuno mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Does dim modd plesio pawb yn y sefyllfa hon, ac rydych chi'n dechrau drwy dderbyn y bu methiannau yn y gofal a ddarparwyd, a dyna beth y mae angen inni ei ddatrys.
Rwy'n credu hefyd fod a wnelo hyn â'r pwynt ynghlŷn â'r awgrym y cafodd pethau eu celu. Po fwyaf y gwneir yr awgrym hwnnw a po fwyaf ffyrnig y gwneir yr awgrym hwnnw, yr anoddach i gyd y bydd hi i adennill ymddiriedaeth. Rwy'n derbyn y bydd pobl yn dymuno gofyn cwestiynau, ond mae'r ymosodiad rhag blaen ar ddidwylledd HASCAS a'u hunigolion yn rhywbeth yr wyf yn siomedig iawn yn ei gylch, yn wir. Mae HASCAS yn sefydliad sydd wedi llunio adroddiadau fel hyn i amrywiaeth o sefydliadau iechyd a gofal a methiannau ledled yr ynysoedd hyn. Ni chawsant erioed o'r blaen y fath ymosodiad ar eu didwylledd. Os edrychwch chi ar CV y dwsin o bobl sydd ar y panel a'r pedwar cyfreithiwr gwahanol, gan gynnwys Cwnsler y Frenhines a oedd yn gweithio ar hyn er mwyn rhoi sicrwydd ynghylch cyngor cyfreithiol, mae dweud eu bod yn rhan o gynllwyn i gelu gwybodaeth yn gyhuddiad eithafol i'w wneud, ac nid wyf yn credu bod unrhyw dystiolaeth ar gael sydd o ddifrif calon yn cefnogi'r cyhuddiad hwnnw. Ac, yn hynny o beth, rwy'n credu bod hynny'n wahanol i weld bod teuluoedd yn ofidus ac y byddant yn gwylltio—rydych chi'n deall hynny. Sut allech chi beidio â chael cydymdeimlad dynol, gwirioneddol â'r teuluoedd hynny sy'n rhan o hyn? Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni ymgyrraedd at safon uwch, i fod yn fwy gwrthrychol ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd. Efallai y bydd hynny'n gwneud inni ymddangos yn oer a digydymdeimlad, ond mae'n rhaid inni allu gwneud ein gwaith er mwyn deall sut y mae pobl yn teimlo, a chydnabod wedyn beth yn ein barn ni sy'n briodol ar gyfer y gwasanaeth cyfan.
A'ch sylw ynglŷn â theuluoedd Tawel Fan—rwyf wedi gweld eu datganiad, wrth gwrs fy mod i. Ac mae Teuluoedd Tawel Fan, grŵp o ryw naw neu 10 o deuluoedd sydd wedi bod fwyaf blaenllaw yn y broses—. Ond yr her yn hyn i gyd—rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni allu deall—yw bod yna rhai teuluoedd nad ydynt eisiau bod yn rhan o'r broses ar y cyd honno. Nid oedden nhw eu hunain yn credu fod hwnnw'n amgylchedd lle y gallent leisio eu pryderon unigol eu hunain. Felly, roedd gennym ni ffyrdd gwahanol i deuluoedd ymgysylltu a bod yn rhan o'r adroddiad hwn. Rhoddodd tri deg pump o deuluoedd dystiolaeth uniongyrchol i'r ymchwiliad hwn. Roedd 25 o deuluoedd eraill yn rhan o'r ymchwiliad ond dewisasant beidio â rhoi tystiolaeth uniongyrchol, ac roedden nhw'n glir eu bod yn fodlon ar y cyfan â'r gofal a gafodd eu hanwyliaid. Felly, ceir gwrthdaro cynhenid rhwng y digwyddiadau y mae teuluoedd yn sôn amdanynt yn ystod yr un cyfnod o amser, ac mae'r adroddiad hwn yn ymgais onest i ddeall hynny ac i adrodd ar y dystiolaeth a ddarparwyd. Rwy'n ailddatgan fy ymrwymiad i geisio adennill ymddiriedaeth teuluoedd ar draws y gogledd a thu hwnt drwy wneud yn siŵr mewn gwirionedd ein bod yn cymryd o ddifrif y feirniadaeth yn yr adroddiad hwn ac yn ystyried o ddifrif y gofyniad i weld gwelliannau pellach a pharhaus mewn gwasanaethau gofal iechyd yn y gogledd, yn enwedig o ran oedolion hŷn sy'n dioddef o ddementia, oherwydd dyna yw'r her wirioneddol y mae'r adroddiad hwn yn ei gosod.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â'ch datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Er nad oeddwn yn aelod o'r Cynulliad hwn pan gyhoeddwyd adroddiad Ockenden, rwy'n cofio'r sioc a'r dicter a deimlais pan ddysgais am yr hyn yr oedd y bobl hyn wedi ei ddioddef ar ward Tawel Fan. Wrth wrando, hyd yn oed yr wythnos diwethaf, ar y radio ar deuluoedd yn ail-fyw'r profiadau a chlywed sut y maen nhw'n teimlo pan mae hyd yn oed yn rhaid iddyn nhw fynd heibio'r ardal dan sylw—roedd yn debycach i sut y cai pobl ag afiechyd meddwl eu trin yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid yr unfed ganrif ar hugain.
Dair blynedd yn ddiweddarach, mae gennym ni bellach ganfyddiadau ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ni all unrhyw un anghytuno ag annibyniaeth neu arbenigedd HASCAS, gyda Dr Johnstone a'i thîm yn cynnal yr ymchwiliad ac yn cyhoeddi'r adroddiad. Canfu HASCAS lywodraethu anhrefnus a gwael a phroblemau â holl wasanaethau iechyd meddwl y gogledd. Canfuwyd naw ffactor allweddol a oedd yn peryglu gofal cleifion. Fodd bynnag, mae diffyg cysylltiad rhwng canfyddiadau HASCAS a'r ymchwiliad cynharach a gynhaliwyd gan Donna Ockenden, ac mae'r datgysylltiad hwn wedi achosi i deuluoedd wrthod canfyddiadau adroddiad HASCAS, a dweud ei fod yn ymgais i wyngalchu ac i gelu pethau.
Rwy'n cytuno â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y dylem ni osgoi dod i gasgliadau byrbwyll, ond hyd nes y gallwn ni roi sylw llwyr i bryderon y teuluoedd sy'n rhan o sgandal Tawel Fan, neu'r rhai a gawsant eu trin yn Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, ni allwn ni osod hyn o'r neilltu. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi wedi ystyried gofyn i Donna Ockenden weithio gyda HASCAS er mwyn mynd i'r afael â phryderon y teuluoedd? Er fy mod yn falch na wnaeth Dr Johnstone a'i thîm ganfod unrhyw dystiolaeth o gam-drin systematig, fe wnaethon nhw ganfod methiannau sefydliadol yn nhrefniadau llywodraethu a gofal Betsi Cadwaladr. Ysgrifennydd y Cabinet, nid dyma'r adroddiad cyntaf i dynnu sylw at fethiannau mewn llywodraethu clinigol, nid yn unig yn y gogledd ond ledled y GIG. A ydych chi'n credu bod y model llywodraethu presennol yn addas at y diben mewn system gofal iechyd modern?
Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y byddwch yn cyhoeddi fframwaith gwella mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr adroddiad cynnydd cyntaf ym mis Hydref. Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eisoes mewn mesurau arbennig, pa ddewisiadau sydd ar gael i chi os byddant yn methu â gwneud cynnydd yn unol â'r fframwaith gwella?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi nodi bod gwersi ar gyfer y GIG ehangach a'ch bod yn disgwyl i sefydliadau'r GIG ystyried yr adroddiad. O ran y goblygiadau gofal cymdeithasol, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ac a ydych chi'n disgwyl i lywodraeth leol hefyd ystyried argymhellion adroddiad HASCAS?
Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau na all yr hyn a ddigwyddodd yn Uned Ablett fyth ddigwydd eto. Diolch yn fawr.
Rwyf eisiau dechrau eto drwy ailadrodd nad yw'r adroddiad hwn yn sicr yn ymgais i wyngalchu neu gelu'r gwir. Pe bai'r adroddiad, ar sail y dystiolaeth oedd ar gael, wedi dod i gasgliad gwahanol, yna, unwaith eto, byddwn wedi bod mewn sefyllfa lle, wrth gwrs, y byddai'n ddyletswydd arnaf i dderbyn hynny. Nid oes unrhyw ddiben o gwbl cael proses ymchwiliad annibynnol gyflawn, a barodd bron i dair blynedd, os mai ymateb cyntaf Gweinidog Llywodraeth yw dweud, 'Nid wyf yn hoffi'r casgliad. Rhowch un arall imi.' Roedd hwn yn fwriadol yn ymarfer annibynnol heb unrhyw gyswllt â'r Bwrdd Iechyd, yn cynnwys pobl nad ydynt yn ymarferwyr yng Nghymru ond sydd ag arbenigedd gwirioneddol annibynnol a didwylledd i ganfod y gwir, i'n galluogi ni i ddeall beth ddigwyddodd, ond hefyd i helpu i osod llwybr ar gyfer y gwelliant angenrheidiol.
Mae adroddiad Ockenden, yr ail adroddiad, yn ymwneud â strwythur llywodraethu y Bwrdd Iechyd, ac, fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n disgwyl hwnnw o fewn yr wythnosau nesaf. Bydd yn cael ei gyhoeddi, bydd ar gael drwy'r Bwrdd, ac, yn wir, yr ymateb iddo. Efallai y bydd hynny'n golygu y bydd angen imi edrych eto ar y fframwaith gwella mesurau arbennig. Fel y dywedais yn fy natganiad llafar, rwy'n hapus i wneud hynny er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl fesurau gofynnol ar waith a byddaf wedyn adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnaed, a hynny mewn modd cwbl tryloyw. Mae'n rhan bwysig o'r fframwaith mesurau arbennig hynny nad oedd y Bwrdd Iechyd yn mynd i fesurau arbennig yn ôl mympwy gwleidydd; cafwyd cyngor annibynnol a gwrthrychol yn nodi mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud. Ac ym mhob agwedd ar y cynnydd—neu ddiffyg hynny—a wnaed o dan fesurau arbennig, unwaith eto rydym ni wedi cael sicrwydd annibynnol, gan Swyddfa Archwilio Cymru, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac, yn wir, Prif Weithredwr GIG Cymru. Felly, nid unigolyn yn rhoi cyngor mo hwn, nid dim ond un gwleidydd yn gwneud penderfyniadau er mantais unigol iddo'i hun. A dweud y gwir, byddai wedi bod er fy mudd hunanol fy hun i'w gweld nhw'n dod allan o fesurau arbennig ac i weld yr adroddiad hwn yn dod i gasgliad hollol wahanol. Mae'r casgliadau y daethpwyd iddyn nhw yn rhai annibynnol, gwrthrychol a chadarn, ac maent wedi'u nodi yn yr adroddiad ac yn yn y gofyniad parhaus i gadw'r Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig, a dyna fydd y sefyllfa o hyd wrth inni adrodd ar gynnydd neu fel arall. Rwyf wedi dweud y byddaf yn adrodd yn ôl ar y gwaith gwella ehangach y mae gweddill teulu'r GIG yn ei wneud o ganlyniad i'r adroddiad hwn, a bydd gennym ni fwy i'w ddweud ynglŷn â'r gwaith diogelu sy'n cael ei wneud yn y gogledd a beth y gallai hynny ei olygu i weddill y wlad, hefyd, sy'n cynnwys iechyd, llywodraeth leol ac eraill yn gweithio gyda'i gilydd.
A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n croesawu hefyd eich bod yn cydnabod bod yr adroddiad yn amlinellu'r amrywiaeth o ddiffygion a arweiniodd at achosi niwed gwirioneddol. Mae gennyf ambell bwynt penodol yr hoffwn i holi yn eu cylch mewn cysylltiad â'r adroddiad. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r pryderon a grybwyllwyd ynglŷn â'r driniaeth y mae pobl yn ei chael, gyda dementia, mewn unedau damweiniau ac achosion brys ac mewn lleoliadau meddygol eraill mewn ysbytai. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod Dr Katie Featherstone ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn ddiweddar ynglŷn â'r gofal a roddir mewn ysbytai i bobl â dementia, ac rydym ni'n gwybod bod rhwng 25 y cant a 50 y cant o welyau mewn ysbytai yng Nghymru yn cynnwys rhywun â dementia. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod gan bawb yn ein GIG y sgiliau a'r ymwybyddiaeth sydd eu hangen i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person i bobl â dementia. Felly, roeddwn i eisiau gofyn ichi, yn eich barn chi, pa wersi pellach all yr hyn a ganfuwyd yn yr adroddiad hwn ei ddysgu i'r GIG ehangach yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y pwysau ariannol, sydd, mae'n dweud, wedi arwain at sefyllfaoedd lle nad yw therapyddion galwedigaethol a'r tîm aml-ddisgyblaethol ar gael. Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn fy mod i wedi dweud wrthych chi o'r blaen fy mod i'n credu bod cleifion ar wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru ymhlith y dinasyddion sydd â'r lleiaf o lais yn ein gwlad. Maen nhw yn aml ar wardiau dan glo; dydy'r rhain ddim yn wardiau lle mae pobl yn mynd a dod yn aml iawn. Does gan rai ohonyn nhw hyd yn oed ddim perthnasau i ymweld â nhw. Felly, a gaf i ofyn a ydych chi'n credu a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud i roi mwy o statws i'r cleifion hyn yn y Bwrdd Iechyd, er enghraifft drwy gael hyrwyddwyr dementia ar y Bwrdd, ac ati, fel nad ydyn nhw'n angof anweledig.
Rwy'n croesawu'n fawr y cyfeiriad yn yr adroddiad at yr angen am eglurder ynglŷn â fframweithiau cyfreithiol o ran y Ddeddf Iechyd Meddwl a Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n credu yn bendant bod gwersi ehangach i'w dysgu ar gyfer y GIG yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu o ddifri nad oes cydymffurfiad llwyr â'r deddfau hynny ledled Cymru. Mae argymhellion i gyhoeddi canllawiau newydd, ac y caiff y rhain eu hadolygu a hyd yn oed eu harchwilio fesul claf, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut yr ydych chi'n bwriadu datblygu hynny?
Mae'r adroddiad yn sôn am yr angen am eiriolaeth. Roedd ateb ysgrifenedig diweddar a gefais gennych chi yn cadarnhau bod yr holl fyrddau iechyd ar hyn o bryd yn cyrraedd y targed pob oedran o ran darparu eiriolaeth annibynnol, ond yr hyn y byddwn yn tynnu sylw ato yw ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r cysyniad o gynnig gweithredol am eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r targed presennol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn cyfeirio at bobl sydd wedi gofyn am eiriolaeth yn cael hynny o fewn pum niwrnod, ac rwy'n meddwl tybed a hoffech chi ddweud rhywbeth ynglŷn â beth mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod cynnig rhagweithiol ar gyfer pobl hŷn yn ogystal, oherwydd bod heriau gwirioneddol o ran cynnig eiriolaeth a sicrhau bod pobl hŷn â dementia yn defnyddio gwasanaethau eiriolaeth, ac rwy'n credu bod angen gweithredu mesurau penodol.
Yn olaf, rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn o fy marn y dylem ni geisio, ar y cyfle cynharaf, ymestyn y ddeddfwriaeth ynglŷn â lefelau staffio diogel i gynnwys wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn a'r materion sy'n deillio o hynny yn cadarnhau'r angen am hynny, oherwydd gellid datrys llawer o'r materion y rhoddwyd sylw iddyn nhw pe bai gan staff yr amser angenrheidiol i wneud eu gwaith yn iawn ac i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person. Felly, a allwch chi roi diweddariad i ni ar eich cynlluniau i ymestyn y ddeddfwriaeth? Diolch.
Diolch i chi am yr ystod o gwestiynau. Maddeuwch imi os nad wyf yn llwyddo i ateb pob un ohonyn nhw nawr yn yr amser sydd ar gael, ond rwy'n fodlon eu trafod nhw gyda chi yn uniongyrchol ar ôl trafodion heddiw hefyd. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod y sylw a wnaethoch chi am unedau damweiniau ac achosion brys yn dangos maint yr her yr ydym yn ei hwynebu o ran gofal dementia, gan fod pobl â dementia yn nodwedd reolaidd eisoes o ofal yn y sector ysbytai, a byddant yn dod yn fwy felly yn y dyfodol. Rydym ni'n disgwyl i fwy o bobl gael diagnosis, rydym ni'n disgwyl i bobl sydd heb gael diagnosis gyrraedd ein hysbytai gydag angen am ofal a thriniaeth, boed mewn adrannau damweiniau ac achosion brys neu mewn unedau gofal dewisol, a bydd yn nodwedd gynyddol o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yma yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae'r ffaith y cyfeiriwyd at unedau damweiniau ac achosion brys yn dangos bod adroddiad HASCAS wedi gwrando ar yr hyn yr oedd y teuluoedd yn ei ddweud, oherwydd nid oedd yn rhan o'r cylch gwaith cynharach, ond yn hytrach yn fater y cyfeiriodd teuluoedd ato yn ystod yr ymchwiliad, ac felly ehangwyd cylch gorchwyl yr ymchwiliad i ganiatáu bwrw golwg ar y dilyniant gofal a thriniaeth ehangach, i gael safbwynt ehangach ynglŷn â'r hyn a oedd yn gweithio'n dda, yn ogystal â'r hyn nad oedd yn gweithio'n dda, wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y gogledd.
Rwy'n cydnabod eich sylwadau am yr ystod o weithgareddau sy'n cael eu darparu i bobl, yr amrywiaeth o driniaethau adfer ac adsefydlu sy'n dal yn bosibl o safbwynt corfforol, ond hefyd y ffaith bod y rhain yn bobl sydd, o ran eu natur, yn agored i niwed ac yn aml heb lais. Felly, mae eich sylw am eiriolaeth yn un priodol iawn, o ran bod â chynnig gweithredol gwirioneddol, ac mae hynny'n waith yr ydym ni'n ceisio ei wneud er mwyn sicrhau bod—. Nid yw'r pwyslais sydd gennym ni yn aml ar eiriolaeth i blant yn aml yn bodoli gydag oedolion hŷn, sy'n syndod, ac rwy'n credu bod hynny'n bennaf oherwydd bod pobl yn tybio bod aelod o'r teulu yn aros i ofalu am yr unigolyn hwnnw neu i eiriol drostyn nhw, ac yn aml does neb, naill ai oherwydd nad oes ganddyn nhw deulu neu oherwydd nad yw eu teulu yn byw yn y cyffiniau bellach, a dyna'r realiti trist iawn y mae llawer o'n dinasyddion hŷn yn ei wynebu.
Rwyf hefyd yn cydnabod eich sylw ynglŷn â chapasiti a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r adolygiad sy'n digwydd ledled Cymru a Lloegr gyda'r Ddeddf Galluedd Meddyliol, ac yn benodol amddifadedd trefniadau diogelu rhag colli rhyddid. Felly, rydym ni'n cydnabod bod gwaith y mae angen ei wneud drwy'r system yn ei chyfanrwydd, nid dim ond yng Nghymru, ac rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid yn y pedair gwlad i ddeall sut y bydd angen inni fynd ati yn y dyfodol, oherwydd gall hynny fod yn anodd i'r unigolyn, i'w teulu a'r system iechyd a gofal ei hun hefyd. Rydym ni eisoes wedi darparu buddsoddiad blynyddol dros dro o fwy na £300,000 i gefnogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ymdrin â'r her hon.
Ynglŷn â'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio, bydd yn rhaid i mi drafod hynny â chi maes o law, ac rwy'n hapus iawn i roi datganiad i'r Aelodau, ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i ymestyn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio. Mae sawl dewis gwahanol a blaenoriaethau posibl yr wyf i wedi adrodd arnyn nhw o'r blaen, ac mae'n debyg ei bod hi'n bryd imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, p'un a yw hynny yn canolbwyntio ar ofal pediatrig cleifion mewnol, neu'n canolbwyntio ar nyrsio cymunedol neu, yn wir, ar ofal ar gyfer oedolion hŷn yn ogystal. Felly, byddaf yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn â hynny, ac mae'n broc defnyddiol i'r cof ei bod hi'n bryd i mi roi'r diweddariad ysgrifenedig ffeithiol hwnnw i Aelodau.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fel nifer o Aelodau, rydw i'n teimlo ei bod hi'n anffodus bod yr adroddiad yma yn taro tôn neu'n creu tôn sydd bron iawn yn cwestiynu llais y dioddefwyr a theuluoedd y dioddefwyr. Hynny yw, rydym ni'n darllen cymalau yn yr adroddiad sy'n sôn amdanyn nhw'n ailgastio eu profiad yn sgil pethau a oedd wedi datblygu yn ddiweddarach. Mae yna godi cwestiynau ynglŷn ag ymddygiad a rhyw bethau felly. Wrth gwrs, mae'n pwyntio at rai teuluoedd sydd wedi cael profiadau da. Mae hynny'n ddigon teg, ond ni ddylai hynny, wrth gwrs, mewn unrhyw ystyr, fod yn gwneud profiadau a thystiolaeth y rhai sydd wedi cael profiad gwahanol yn llai dilys, os liciwch chi.
Un cwestiwn syml sydd gen i, ac un pwynt syml rydw i eisiau ei wneud, i bob pwrpas. Mae hanes wedi ein dysgu ni yn y gorffennol tan i lais y dioddefwyr gael ei gredu yna nid oes dim cyfiawnder. Rydw i jest eisiau gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: a ydy'r Llywodraeth yn credu tystiolaeth teuluoedd y dioddefwyr? Oherwydd os nad ŷch chi, yna pa ryfedd na fydd gan nifer ohonyn nhw ffydd yn y broses yma?
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y rhoddwyd cylch gwaith i HASCAS gael ymchwilio'n annibynnol ac adrodd yn ôl ar y dystiolaeth a ganfuasent. Dyna oedd y cylch gwaith a roddwyd iddynt. Mae'n rhaid ichi dderbyn wedyn pan gynhelir yr adolygiad annibynnol hwnnw, pan fyddwch chi'n derbyn didwylledd y bobl, mae'n bosib iawn y bydd hynny'n darparu negeseuon anodd iawn sy'n feirniadol o'r Llywodraeth, yn feirniadol o'r gwasanaeth iechyd, ac na fyddant bob amser yn cefnogi pob un o'r casgliadau y daethpwyd iddyn nhw gan aelodau unigol o'r cyhoedd. Nid yw hynny, fodd bynnag, yn golygu nad yw'r bobl hynny yn nod yn onest. Rwy'n cyfeirio'n ôl at yr hyn y mae HASCAS eu hunain wedi'i ddweud: nad yw eu hadroddiad yn cyhuddo unrhyw un o'r teuluoedd o newid neu ymhelaethu ar eu straeon. Mae, fodd bynnag, yn ei gwneud hi'n glir bod yna lawer o deuluoedd nad oedd ganddynt unrhyw bryderon hyd nes cafwyd cyhoeddusrwydd yn ymwneud ag adroddiad cynharach. Yna, roedden nhw eisiau gwybod a oedd eu hanwyliaid wedi cael eu cam-drin, a cheisio sicrwydd yn hyn o beth.
Pan fyddwch chi'n edrych ar y casgliadau y daethpwyd iddyn nhw gan HASCAS, mae'n glir iawn eu bod yn cadarnhau'r amrywiaeth eang o bryderon a chwynion a wnaed gan deuluoedd. Ein her ni yw sut i ymdrin â'r rheini a sut yr ydym ni'n mynd ati mewn gwirionedd i wella ar y rheini, i geisio gwneud yn siŵr nad yw teuluoedd eraill yn cael yr un profiad. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â gofal unigol, ond mae'n ymwneud yn fwy o lawer â'r methiannau systemig a fu yn y gogledd. Nid yw hynny—i fynd yn ôl at y sylw a wnaeth arweinydd yr wrthblaid mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog—yn gyfystyr â dweud, mewn egwyddor, bod creu Betsi Cadwaladr yn beth anghywir i'w wneud, ond mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o'r ffordd y bu'r Bwrdd Iechyd yn gweithredu yn ystod y blynyddoedd cyntaf hynny, gan fod â model darpariaeth oedd yn seiliedig ar yr agweddau meddygol. Mae'r grwpiau rhaglen clinigol yn arbennig wedi eu beirniadu o'r blaen, ac nid yw'n syndod bod HASCAS, yn eu hymchwiliad, wedi beirniadu'r model hwnnw fel rhywbeth sy'n creu Bwrdd Iechyd datgymalog—felly, datgysylltiad y grwpiau rhaglen clinigol gwahanol nad oedden nhw'n siarad â'i gilydd, i bob pwrpas, sefydliadau lled-ymreolaethol yn y Bwrdd Iechyd, a thri diwylliant gwahanol iawn y tair ymddiriedolaeth a oedd yn bodoli o'r blaen. Ac mae hynny wedi creu heriau sylweddol sydd yn dal i fod gyda ni heddiw. Dyna un o'r heriau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hi er mwyn sicrhau, fel yr wyf yn ei ddweud, y caiff yr agweddau hynny i gyd eu hwynebu, eu trin a'u datrys unwaith ac am byth, i'w wneud yn lle gwell i staff weithio, ond yn hanfodol, yn lle gwell i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer ein pobl.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.