Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â'ch datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Er nad oeddwn yn aelod o'r Cynulliad hwn pan gyhoeddwyd adroddiad Ockenden, rwy'n cofio'r sioc a'r dicter a deimlais pan ddysgais am yr hyn yr oedd y bobl hyn wedi ei ddioddef ar ward Tawel Fan. Wrth wrando, hyd yn oed yr wythnos diwethaf, ar y radio ar deuluoedd yn ail-fyw'r profiadau a chlywed sut y maen nhw'n teimlo pan mae hyd yn oed yn rhaid iddyn nhw fynd heibio'r ardal dan sylw—roedd yn debycach i sut y cai pobl ag afiechyd meddwl eu trin yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid yr unfed ganrif ar hugain.
Dair blynedd yn ddiweddarach, mae gennym ni bellach ganfyddiadau ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ni all unrhyw un anghytuno ag annibyniaeth neu arbenigedd HASCAS, gyda Dr Johnstone a'i thîm yn cynnal yr ymchwiliad ac yn cyhoeddi'r adroddiad. Canfu HASCAS lywodraethu anhrefnus a gwael a phroblemau â holl wasanaethau iechyd meddwl y gogledd. Canfuwyd naw ffactor allweddol a oedd yn peryglu gofal cleifion. Fodd bynnag, mae diffyg cysylltiad rhwng canfyddiadau HASCAS a'r ymchwiliad cynharach a gynhaliwyd gan Donna Ockenden, ac mae'r datgysylltiad hwn wedi achosi i deuluoedd wrthod canfyddiadau adroddiad HASCAS, a dweud ei fod yn ymgais i wyngalchu ac i gelu pethau.
Rwy'n cytuno â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y dylem ni osgoi dod i gasgliadau byrbwyll, ond hyd nes y gallwn ni roi sylw llwyr i bryderon y teuluoedd sy'n rhan o sgandal Tawel Fan, neu'r rhai a gawsant eu trin yn Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, ni allwn ni osod hyn o'r neilltu. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi wedi ystyried gofyn i Donna Ockenden weithio gyda HASCAS er mwyn mynd i'r afael â phryderon y teuluoedd? Er fy mod yn falch na wnaeth Dr Johnstone a'i thîm ganfod unrhyw dystiolaeth o gam-drin systematig, fe wnaethon nhw ganfod methiannau sefydliadol yn nhrefniadau llywodraethu a gofal Betsi Cadwaladr. Ysgrifennydd y Cabinet, nid dyma'r adroddiad cyntaf i dynnu sylw at fethiannau mewn llywodraethu clinigol, nid yn unig yn y gogledd ond ledled y GIG. A ydych chi'n credu bod y model llywodraethu presennol yn addas at y diben mewn system gofal iechyd modern?
Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y byddwch yn cyhoeddi fframwaith gwella mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr adroddiad cynnydd cyntaf ym mis Hydref. Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eisoes mewn mesurau arbennig, pa ddewisiadau sydd ar gael i chi os byddant yn methu â gwneud cynnydd yn unol â'r fframwaith gwella?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi nodi bod gwersi ar gyfer y GIG ehangach a'ch bod yn disgwyl i sefydliadau'r GIG ystyried yr adroddiad. O ran y goblygiadau gofal cymdeithasol, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ac a ydych chi'n disgwyl i lywodraeth leol hefyd ystyried argymhellion adroddiad HASCAS?
Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau na all yr hyn a ddigwyddodd yn Uned Ablett fyth ddigwydd eto. Diolch yn fawr.