Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:46, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn yn ymwneud â chynnal ein hegwyddorion amgylcheddol cryf yng Nghymru. Mae hyn wedi bod yn destun nifer o drafodaethau dwfn a chyfarfodydd pedairochrog rhwng Gweinidogion, Ysgrifennydd y Cabinet a swyddogion. Rydym wedi dadlau dro ar ôl tro dros drefniadau sefydliadol newydd a fframweithiau a gytunwyd er mwyn sicrhau y gall y DU weithredu'n effeithiol wedi inni adael yr UE.

Credaf mai'r pwynt a wnewch, sy'n bwysig iawn o ran y fframwaith, yw bod gennym eisoes nifer o offerynnau deddfwriaethol ar waith gyda'n Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol nad oes gan y gweinyddiaethau eraill mohonynt ar hyn o bryd. Felly, rydym yn gweithio gyda Whitehall a Llywodraeth yr Alban i nodi lle bydd dulliau cyffredin a gytunwyd yn y DU yn ddefnyddiol ac i archwilio sut y byddai fframweithiau o'r fath yn gweithredu, a byddwn yn ystyried y dadansoddiad yn ofalus yn rhan o hyn.