Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:47, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am yr hyn y mae wedi'i esbonio hyd yma, ond y drafferth, wrth gwrs, yw bod Llywodraeth Cymru wedi ildio ei hawliau i ddiogelu amgylchedd Cymru yn y cytundeb rhynglywodraethol. Rydych yn sôn am fframweithiau'r DU—[Torri ar draws.] Nid y Cynulliad hwn, nid Llywodraeth Cymru, ond Michael Gove fydd yn penderfynu pa rai o reoliadau'r UE a gaiff eu trosglwyddo ai peidio yn fframwaith y DU, a gall Senedd y DU newid safonau'r UE yma yng Nghymru pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, pa un a ydym yn cydsynio ai peidio.