Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 9 Mai 2018.
Wrth gwrs, mae'n rhaid ystyried buddiannau'r cynhyrchwyr yn y ddadl hon, ond heb gyflwyno gwaharddiad llwyr, mae pethau y gallem eu gwneud i wella'r gyfundrefn ddeddfwriaethol bresennol pan na fyddwn wedi ein cyfyngu gan reoliadau'r UE. Gallem wneud newidiadau i faint o amser y caniateir i anifeiliaid gael eu cludo, gallem addasu pa mor aml y mae'n rhaid stopio am seibiant, a gallem hefyd leihau nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu cludo. Felly, mae'r rhain yn opsiynau rhannol efallai, ond byddent yn sicr yn gwella'r sefyllfa bresennol, ac yn dangos bod mwy o hyblygrwydd o ran polisi amaethyddol yn un o fanteision Brexit.