Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:43, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y gwyddoch, cafwyd galwad am dystiolaeth gan Lywodraeth y DU a byddwn yn edrych ar yr ymatebion. Ni fuaswn yn gwneud unrhyw beth heb ymgynghori. Felly, byddem wedyn yn cynnal ymgynghoriad. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig, ynghyd â DEFRA, ein bod yn cymryd rhan lawn yn y camau nesaf fel y gallwn bennu ein safbwynt. Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â hyblygrwydd; mae gallu cael polisi penodol iawn ar gyfer Cymru yn un o'r cyfleoedd mawr a ddaw yn sgil Brexit.