1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd tuag at wneud dinas ranbarth Bae Abertawe yn ardal hunangynhaliol o ran ynni? OAQ52123
Diolch. Mae ein twf gwyrdd a'n gwasanaethau ynni lleol wedi cynorthwyo'r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol i ddatblygu cynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Rwy'n cefnogi'r gwaith hwn a'r cyfraniad gwerthfawr y bydd yn ei wneud i nodau cytundeb y dinas-ranbarth.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb? Yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad a gynhaliwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig ynghylch harneisio ynni adnewyddadwy yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd y morlyn llanw i'r rhanbarth unwaith eto, a gofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i wella capasiti storio batri, gan mai dyna'r ateb, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn cynhyrchu trydan ar adegau pan nad oes ei angen, ac yna nid yw ar gael inni pan fo'i angen. Os ydym am gael ynni adnewyddadwy i weithio, mae angen inni sicrhau y gellir storio'r ynni a gynhyrchir gan y morlyn llanw, ac yn fwy penodol, y gellir storio'r ynni a gynhyrchir gan baneli solar a thyrbinau gwynt yn y fath fodd fel ei fod ar gael sawl mis yn ddiweddarach, efallai, pan fydd ei angen. Ond mae hynny'n galw am well technoleg batri. Felly, y cwestiwn, unwaith eto, yw: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwell technoleg batri?
Diolch am eich cwestiwn. Yn amlwg, gan fod gennyf gyfrifoldeb dros gynllunio a thrwyddedu morol, ni allaf wneud sylwadau ar y prosiect penodol, ond mae storio yn fater i ddatblygwyr unrhyw brosiect ynni masnachol ei ystyried. Gwyddom y bydd arnom angen dulliau storio o bob math i reoli systemau ynni mwy gwasgaredig a di-garbon. Bydd cyflenwad trydan sy'n newid gydag amser i baru cyfraddau cynhyrchu gyda'r galw hefyd yn bwysig iawn. Gwyddom hefyd fod technoleg batri yn eithaf drud, felly rydym yn disgwyl gweld gostyngiad yn y pris yn y dyfodol, ond yn amlwg, gallai edrych ar gost gosod digon o gapasiti storio i ddarparu cyflenwad trydan parhaus ychwanegu'n sylweddol at gost cyfalaf prosiect. Rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad a fynychwyd gennych yr wythnos diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld canlyniadau'r pecynnau gwaith eraill a drafodwyd yno, a'r cynllun cyflawni.
Yn amlwg, mae cyflawni'r morlyn llanw yn elfen bwysig o'r jig-so hwn, ac rydym am weld hynny'n digwydd o hyd. Mae'n debyg na fyddai ots gennym pe bai'r peth yn cael ei alw'n 'forlyn llanw Tywysog Cymru', hyd yn oed, cyn belled â'n bod yn cael morlyn llanw. Gyda llaw, yr un mor bwysig—[Torri ar draws.] Mae'r prosiectau ynni llai yr un mor bwysig, felly o ran perchnogaeth gyda'r prosiectau ynni llai, i ba raddau rydych yn ymchwilio i'r potensial ar gyfer modelau perchnogaeth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer prosiectau yn y dyfodol? Ac a ydych yn cytuno y dylai trigolion y rhanbarth elwa'n ariannol o'r adnodd naturiol enfawr sy'n bodoli yn ne-orllewin Cymru?
Diolch. Bydd Dai Lloyd yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn, mewn egwyddor, i fuddiannau economaidd morlynnoedd llanw, a'r cyfleoedd y credaf sydd gennym i gael diwydiant morol bywiog sy'n tyfu. Rydym yn dal i ddisgwyl am ymateb gan Lywodraeth y DU. Credaf mai'r unigolyn diweddaraf o Lywodraeth Cymru i ysgrifennu oedd y Prif Weinidog, ac rydym yn dal i ddisgwyl am ymateb. Cyfarfûm â Claire Perry, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ychydig fisoedd yn ôl, a phwysleisiais yr angen i gael ymateb cyn gynted â phosibl wrthi hi hefyd.
Credaf eich bod wedi codi pwynt pwysig iawn ynghylch prosiectau ynni llai. Yr wythnos diwethaf, bûm ym Mhennal, ac ymwelais â fferm lle roedd ganddynt gynllun ynni dŵr, a chredaf i mi sôn amdano ddoe yn fy natganiad. Roedd yn un o'r prosiectau gorau imi eu gweld, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda chymunedau. Mae gennym brosiectau ynni cymunedol, ac fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol ar gyfer y prosiectau hyn. Ers i mi fod yn y swydd, ers dwy flynedd, rwy'n credu ein bod wedi gweld oddeutu 14 yn dwyn ffrwyth.
Wel, rwy'n fwy na pharod i'w alw'n 'forlyn Lesley Griffiths,' yn enwedig â hithau'n 100 mlynedd ers cael y bleidlais yn rhannol, cyn belled â'n bod yn cael y peth. Hoffwn ddychwelyd at gwestiwn Mike am fatris oherwydd, wrth gwrs, mae'r rhaglen 'cartrefi fel gorsafoedd pŵer' yn rhan fawr iawn o'r fargen ddinesig. Soniodd Mike am baneli solar a thyrbinau gwynt, ond ni chredaf y gallwn ddiystyru pethau fel pympiau gwres o'r ddaear a phympiau gwres o'r aer chwaith, gan ei bod yn eithaf hawdd eu hôl-osod mewn eiddo mewn ffordd nad yw, efallai, mor hawdd gyda'r pethau sydd gennym ar hyn o bryd.
Tybed a allwch ddweud wrthyf a yw rhaglenni fel Nyth ac Arbed wedi cyfrannu at dwf yn nifer y pympiau gwres o'r ddaear a'r pympiau aer, ac a ellid eu cynnwys—ac rydym yn sôn am y syniad o 'gartrefi fel gorsafoedd pŵer'—ychydig yn fwy amlwg, efallai, yn y cynnig ar gyfer hwnnw. Diolch.
Diolch, Suzy Davies. Rwy'n siŵr y byddai fy mam yn cytuno â chi o ran eich pwynt cyntaf.
Ni allaf roi'r union ffigur i chi, ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch.FootnoteLink Fe fyddwch yn gwybod ein bod wrthi'n caffael cam nesaf rhaglen Arbed, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn gwella effeithlonrwydd ynni yn rhai o'n cartrefi gwaethaf. Felly, buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu ynglŷn â phympiau gwres o'r ddaear a faint ohonynt rydym wedi eu defnyddio.
Tynnwyd cwestiwn 5 [OAQ52147] yn ôl. Felly, cwestiwn 6—Jane Hutt.