Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 9 Mai 2018.
Rwy'n credu y gallaf ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. [Chwerthin.]
Ysgrifennydd y Cabinet, mae trigolion Aberafan wedi croesawu'r datganiad gan Lywodraeth Cymru ar 6 Ebrill, a ddywedai'n glir fod unrhyw waith datblygu carchar newydd, gan gynnwys y gwaith ar Rosydd Baglan, wedi ei ohirio i bob pwrpas hyd nes y cynhelir trafodaethau ystyrlon. Croesawaf hefyd y bwriad i geisio sicrhau system cyfiawnder troseddol i Gymru sy'n gweithio ar gyfer Cymru a dinasyddion Cymru, yn enwedig gan fod y system gyfiawnder a'r system gosbi yn Lloegr a ledled y DU wedi mynd rhwng y cŵn a'r brain.
Fodd bynnag, nid yw'r ffaith eu bod wedi eu gohirio yn cael gwared ar y posibilrwydd y gallai'r cynnig ddychwelyd a bod carchar yn cael ei adeiladu ar y tir hwnnw, gan y gellid cynnal trafodaethau ystyrlon ar unrhyw adeg—ac fel rydych wedi'i ddweud eisoes, rydych wedi cael rhai trafodaethau. Yr hyn y mae fy etholwyr yn awyddus i'w gael yw rhywbeth a fydd yn rhoi sicrwydd iddynt ar gyfer y dyfodol, ac yn adfer eu hyder yn y system wleidyddol. Y cyfan y maent ei eisiau gan Lywodraeth Cymru yw ateb syml i gwestiwn syml: a wnaiff Llywodraeth Cymru roi sicrwydd na fydd y tir ar Rosydd Baglan yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu carchar newydd, waeth beth fydd canlyniad y trafodaethau ystyrlon hyn?