Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 9 Mai 2018.
Mae'r Aelod wedi ysgrifennu ataf ar y materion hyn ac rwyf wedi ei ateb. Rwy'n gwbl glir, a gobeithiaf fy mod wedi dweud wrthych yn glir pan gyfarfûm â chi i drafod y materion hyn ddiwedd y mis diwethaf, o ran y Llywodraeth hon, ni fyddwn yn rhoi caniatâd i'r tir hwnnw gael ei werthu i adeiladu carchar mawr ar Rosydd Baglan. Rydym wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny, ac ailadroddaf yr eglurder hwnnw y prynhawn yma. Yr hyn rwyf am ei weld yw ymagwedd gwbl wahanol tuag at gyfiawnder, a gobeithiaf y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgysylltu â ni mewn ffordd fwy ystyrlon i sicrhau y gallwn gael ymagwedd gyfannol tuag at y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, lle y gall Llywodraethau weithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru, a gallwn symud oddi wrth y strwythurau presennol nad ydynt yn addas at y diben. Nid yw'r setliad sydd gennym, yn fy marn i, ar gyfer datganoli cyfiawnder troseddol yn un sy'n addas at y diben nac yn un sy'n gweithio, nac yn un sy'n darparu'r system cyfiawnder troseddol yr hoffem ei chael yng Nghymru.