2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
3. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu asesu a gynhaliwyd trafodaethau ystyrlon ar bolisi cyfiawnder gyda Llywdoraeth y DU, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 6 Ebrill 2018? OAQ52140
Lywydd, rwyf wedi cael rhai sgyrsiau gyda Gweinidogion cyfiawnder yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'u gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cyfiawnder. Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion barhau i gael y sgyrsiau hynny gyda swyddogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Rwy'n credu y gallaf ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. [Chwerthin.]
Ysgrifennydd y Cabinet, mae trigolion Aberafan wedi croesawu'r datganiad gan Lywodraeth Cymru ar 6 Ebrill, a ddywedai'n glir fod unrhyw waith datblygu carchar newydd, gan gynnwys y gwaith ar Rosydd Baglan, wedi ei ohirio i bob pwrpas hyd nes y cynhelir trafodaethau ystyrlon. Croesawaf hefyd y bwriad i geisio sicrhau system cyfiawnder troseddol i Gymru sy'n gweithio ar gyfer Cymru a dinasyddion Cymru, yn enwedig gan fod y system gyfiawnder a'r system gosbi yn Lloegr a ledled y DU wedi mynd rhwng y cŵn a'r brain.
Fodd bynnag, nid yw'r ffaith eu bod wedi eu gohirio yn cael gwared ar y posibilrwydd y gallai'r cynnig ddychwelyd a bod carchar yn cael ei adeiladu ar y tir hwnnw, gan y gellid cynnal trafodaethau ystyrlon ar unrhyw adeg—ac fel rydych wedi'i ddweud eisoes, rydych wedi cael rhai trafodaethau. Yr hyn y mae fy etholwyr yn awyddus i'w gael yw rhywbeth a fydd yn rhoi sicrwydd iddynt ar gyfer y dyfodol, ac yn adfer eu hyder yn y system wleidyddol. Y cyfan y maent ei eisiau gan Lywodraeth Cymru yw ateb syml i gwestiwn syml: a wnaiff Llywodraeth Cymru roi sicrwydd na fydd y tir ar Rosydd Baglan yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu carchar newydd, waeth beth fydd canlyniad y trafodaethau ystyrlon hyn?
Mae'r Aelod wedi ysgrifennu ataf ar y materion hyn ac rwyf wedi ei ateb. Rwy'n gwbl glir, a gobeithiaf fy mod wedi dweud wrthych yn glir pan gyfarfûm â chi i drafod y materion hyn ddiwedd y mis diwethaf, o ran y Llywodraeth hon, ni fyddwn yn rhoi caniatâd i'r tir hwnnw gael ei werthu i adeiladu carchar mawr ar Rosydd Baglan. Rydym wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny, ac ailadroddaf yr eglurder hwnnw y prynhawn yma. Yr hyn rwyf am ei weld yw ymagwedd gwbl wahanol tuag at gyfiawnder, a gobeithiaf y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgysylltu â ni mewn ffordd fwy ystyrlon i sicrhau y gallwn gael ymagwedd gyfannol tuag at y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, lle y gall Llywodraethau weithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru, a gallwn symud oddi wrth y strwythurau presennol nad ydynt yn addas at y diben. Nid yw'r setliad sydd gennym, yn fy marn i, ar gyfer datganoli cyfiawnder troseddol yn un sy'n addas at y diben nac yn un sy'n gweithio, nac yn un sy'n darparu'r system cyfiawnder troseddol yr hoffem ei chael yng Nghymru.
Diolch am yr atebion a roddwyd gennych. Hoffwn eglurhad pa un a oeddech yn golygu y byddai Rhosydd Baglan yn cael ei dynnu oddi ar unrhyw restr sydd gennych. Credaf mai dyna sy'n peri'r dryswch. Heb ystyried y trafodaethau ystyrlon, a allwch gadarnhau ar gyfer y cofnod hyd yn oed pe baech, er enghraifft—nid y buaswn yn hapus â hyn—yn llunio rhestr a fyddai'n awgrymu y dylid ystyried ardaloedd eraill yn ne Cymru, na fyddech wedyn yn cynnwys Rhosydd Baglan ar y rhestr honno? Rwy'n deall eich bod wedi cyfarfod ag AC, David Rees, a chynghorwyr eraill o Bort Talbot, lle y dywedoch yn y cyfarfod hwnnw fel rwy'n deall, er nad oeddwn yn bresennol i allu dyfynnu ohono, y byddech chi felly yn tynnu Rhosydd Baglan oddi ar y rhestr honno. Ond yn y llythyr dilynol at y cynghorydd hwnnw, ni roesoch hynny ar bapur. Felly, os na lwyddoch i wneud hynny bryd hynny, a allwch chi wneud hynny yma heddiw, fel y gallwn fod yn glir ynglŷn â'n cyfeiriad gyda'r ymgyrch, os nad unrhyw beth arall?
Rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud a'i dyhead am eglurder. Roeddwn wedi gobeithio fy mod wedi rhoi'r eglurder hwnnw. Ni fydd y Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â'r datblygiad a gynigiwyd. Wel, nid ydym wedi derbyn cynnig ar gyfer Rhosydd Baglan gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, rwy'n ymwybodol o hynny. Nid ydym yn cefnogi datblygiad carchar mawr yn Rhosydd Baglan nac yn unman arall yn ne Cymru, neu ogledd Cymru, neu ganolbarth Cymru neu orllewin Cymru. Yr hyn rydym am ei weld yw math gwahanol o bolisi cyfiawnder. Roeddwn wedi rhagweld rhywfaint o gefnogaeth o'r meinciau gyferbyn i ymagwedd at gyfiawnder troseddol sydd wedi ei gwreiddio mewn lleoliaeth, mewn teulu, mewn adsefydlu, mewn hyfforddiant, mewn cefnogaeth, mewn cymuned. A buaswn wedi gobeithio y byddai pob gwleidydd, waeth beth fo'u lliwiau yn y Siambr hon, yn ein cefnogi wrth i ni fwrw ymlaen gydag ymagwedd o'r fath tuag at bolisi cyfiawnder troseddol.
Ysgrifennydd y Cabinet, aethoch o amgylch Cymru gyfan yn dweud i sicrwydd na fydd y Llywodraeth, fel y mae wedi'i llunio ar hyn o bryd, yn rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw—wel, carchardai mawr oedd yr hyn a ddywedoch chi, ond rwy'n cymryd eich bod yn siarad am unrhyw fath o garchar. [Torri ar draws.] Onid yw hynny'n wir? Felly, a allwch egluro'n union pa ganiatâd neu ba ymgysylltiad a fydd gennych dros yr hyn a fyddai'n cael ei adeiladu yng Nghymru? Oherwydd, fel y deallais eich ateb blaenorol i Aelod Plaid Cymru, fe ddywedoch na fyddech yn rhoi caniatâd i unrhyw garchardai mewn unrhyw ran o Gymru. Ac fe sonioch chi eich hun am ranbarthau eraill yng Nghymru ac eithrio Baglan. Felly, a wnewch chi fod yn hollol glir ynglŷn â'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi a'r hyn na fydd yn ei gefnogi mewn perthynas â chynigion yn ymwneud â'r ystâd garchardai newydd?
Roeddem yn glir iawn yn fy—[Torri ar draws.] Mae gennyf yma—. Rwyf am ddarllen—[Torri ar draws.] Rwyf am ddarllen—[Torri ar draws.] Rwyf am ddarllen—. Rwyf am ddarllen y datganiad ysgrifenedig a wneuthum ym mis Ebrill. Gadewch i mi ddweud hyn: yr hyn a ddywedais bryd hynny, a'r hyn y byddaf yn ei ddweud unwaith eto y prynhawn yma, yw na fyddai datblygu rhagor o garchardai yng Nghymru er budd Llywodraeth Cymru na phobl Cymru hyd nes y bydd gennym bolisi, polisi cyfiawnder troseddol, wedi'i gytuno â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid wyf am sefyll yma a dweud nad ydym am weld datblygu unrhyw lety diogel yn y wlad hon. Nid yw hynny'n wir. A byddai'n anghywir i mi ddweud hynny y prynhawn yma neu i wneud unrhyw ymrwymiadau ar hynny, oherwydd yr hyn rydym eisiau ei wneud yw cael gwared ar garchardai—[Torri ar draws.] Wel, efallai nad yw'r Aelod yn dymuno gwrando; efallai mai dyna pam y mae hi wedi drysu. Nid ydym eisiau gweld—[Torri ar draws.] Nid ydym eisiau gweld—[Torri ar draws.] Nid ydym eisiau gweld pobl mewn hen garchardai Fictoraidd. Rydym eisiau datblygu'r carchardai a'r ystâd ddiogeledd yng Nghymru. Rydym eisiau datblygu cyfleusterau penodol ar gyfer troseddwyr benywaidd. Rydym eisiau cyfleusterau penodol ar gyfer troseddwyr ifanc. Rydym eisiau gweld buddsoddi mewn adsefydlu. Rydym eisiau gweld buddsoddi mewn cymorth cymunedol. Rydym eisiau gweld buddsoddi mewn addysg. Rydym eisiau gweld buddsoddi yn y modd rydym yn adsefydlu troseddwyr ifanc. Felly, rydym eisiau gweld llawer iawn o fuddsoddiad yn yr ystâd ddiogeledd yng Nghymru. Yr hyn nad ydym eisiau ei weld yw carchardai mawr yn cael eu gorfodi ar y wlad hon heb bolisi cyfiawnder troseddol cyfannol sy'n sylfaen i'n huchelgeisiau a'n gweledigaeth ar gyfer y maes polisi hwn. Ac rwy'n dadlau y byddai'r rhan fwyaf o bobl eisiau gweld hynny yn ogystal.