Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 9 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, aethoch o amgylch Cymru gyfan yn dweud i sicrwydd na fydd y Llywodraeth, fel y mae wedi'i llunio ar hyn o bryd, yn rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw—wel, carchardai mawr oedd yr hyn a ddywedoch chi, ond rwy'n cymryd eich bod yn siarad am unrhyw fath o garchar. [Torri ar draws.] Onid yw hynny'n wir? Felly, a allwch egluro'n union pa ganiatâd neu ba ymgysylltiad a fydd gennych dros yr hyn a fyddai'n cael ei adeiladu yng Nghymru? Oherwydd, fel y deallais eich ateb blaenorol i Aelod Plaid Cymru, fe ddywedoch na fyddech yn rhoi caniatâd i unrhyw garchardai mewn unrhyw ran o Gymru. Ac fe sonioch chi eich hun am ranbarthau eraill yng Nghymru ac eithrio Baglan. Felly, a wnewch chi fod yn hollol glir ynglŷn â'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi a'r hyn na fydd yn ei gefnogi mewn perthynas â chynigion yn ymwneud â'r ystâd garchardai newydd?