Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 9 Mai 2018.
Rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud a'i dyhead am eglurder. Roeddwn wedi gobeithio fy mod wedi rhoi'r eglurder hwnnw. Ni fydd y Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â'r datblygiad a gynigiwyd. Wel, nid ydym wedi derbyn cynnig ar gyfer Rhosydd Baglan gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, rwy'n ymwybodol o hynny. Nid ydym yn cefnogi datblygiad carchar mawr yn Rhosydd Baglan nac yn unman arall yn ne Cymru, neu ogledd Cymru, neu ganolbarth Cymru neu orllewin Cymru. Yr hyn rydym am ei weld yw math gwahanol o bolisi cyfiawnder. Roeddwn wedi rhagweld rhywfaint o gefnogaeth o'r meinciau gyferbyn i ymagwedd at gyfiawnder troseddol sydd wedi ei gwreiddio mewn lleoliaeth, mewn teulu, mewn adsefydlu, mewn hyfforddiant, mewn cefnogaeth, mewn cymuned. A buaswn wedi gobeithio y byddai pob gwleidydd, waeth beth fo'u lliwiau yn y Siambr hon, yn ein cefnogi wrth i ni fwrw ymlaen gydag ymagwedd o'r fath tuag at bolisi cyfiawnder troseddol.