Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:46, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw. Credaf fod honno'n fenter dda, ac yn arbennig yr ymgynghoriad â thenantiaid, felly edrychaf ymlaen at ganlyniad hynny. Mater arall a grybwyllwyd yr wythnos diwethaf—mewn gwirionedd, fe roesoch enghraifft o arfer da a oedd yn digwydd gyda chymdeithas dai benodol, Cartrefi Melin yng Nghasnewydd, a nodwyd y defnydd o brentisiaethau gennych yn arbennig. Nawr, mae'r sector adeiladu wedi codi pryderon nad oes digon o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi i fod yn adeiladwyr tai a bod hynny weithiau yn atal cynnydd adeiladu tai yng Nghymru, fel yn y DU yn ei chyfanrwydd. Nawr, a ydych yn gweld bod gan eich adran rôl i'w chwarae yn ailadrodd arfer da Cartrefi Melin, yn enwedig o ran eu defnydd o brentisiaethau ledled Cymru?