Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:45, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw, a gallaf gadarnhau bod rhenti yn y sector tai cymdeithasol yn un o'r materion penodol rydym wedi gofyn i'r adolygiad o dai cymdeithasol edrych arnynt. O ran pennu lefelau rhent ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Brifysgol Heriot-Watt wneud gwaith ymchwil er mwyn ein cynghori, a gofynnais yn benodol i'r brifysgol ystyried fforddiadwyedd yn rhan o'r gwaith y maent yn ei wneud yno a chynnal cyfarfodydd bwrdd crwn gyda thenantiaid yng ngogledd a de Cymru er mwyn deall pa faterion sy'n wynebu tenantiaid tai cymdeithasol mewn perthynas â fforddiadwyedd rhenti.