Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dweud ei bod yn amlwg fod gan awdurdodau lleol eu safbwyntiau eu hunain ar y broses hon yn un o'r tanddatganiadau mwyaf rwyf wedi'u clywed yn y Siambr hon hyd yma. Ond rwy'n cytuno â chi ar hynny.
Yn ddiweddar, cynhaliwyd dadl y cymeroch chi ran ynddi—fel y gwnaeth llawer o ACau—ar y cynigion yn y Papur Gwyrdd, ac yn benodol y pryderon ynghylch y cynigion i uno awdurdodau lleol. A ydych wedi cael amser i ailystyried y cynigion yng ngoleuni'r ddadl honno ac yng ngoleuni'r adborth a gafwyd gan lywodraethau lleol ar draws Cymru? Ac a ydych yn credu y byddai'n adeg dda i fynd yn ôl i'r cychwyn a chyflwyno cynigion y gall awdurdodau lleol eu hunain eu cefnogi, gan edrych efallai ar y posibilrwydd o undeb agosach o fewn llywodraeth leol, cydweithrediad cryfach, a rhoi uno gwirfoddol yn ôl ar yr agenda, gan fod rhai awdurdodau lleol wedi edrych ymlaen at ddilyn y trywydd hwnnw?