2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adborth a gafwyd gan lywodraeth leol yn dilyn cyhoeddiad y papur gwyrdd, Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl? OAQ52115
Mae'n amlwg fod gan awdurdodau lleol eu safbwyntiau eu hunain ar ddyfodol llywodraeth leol, a mater i'w harweinwyr yw codi'r safbwyntiau hyn yn ein trafodaethau a'n dadleuon parhaus, a thrwy ymateb ffurfiol i ymgynghoriad y Papur Gwyrdd ar gryfhau llywodraeth leol yng Nghymru.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dweud ei bod yn amlwg fod gan awdurdodau lleol eu safbwyntiau eu hunain ar y broses hon yn un o'r tanddatganiadau mwyaf rwyf wedi'u clywed yn y Siambr hon hyd yma. Ond rwy'n cytuno â chi ar hynny.
Yn ddiweddar, cynhaliwyd dadl y cymeroch chi ran ynddi—fel y gwnaeth llawer o ACau—ar y cynigion yn y Papur Gwyrdd, ac yn benodol y pryderon ynghylch y cynigion i uno awdurdodau lleol. A ydych wedi cael amser i ailystyried y cynigion yng ngoleuni'r ddadl honno ac yng ngoleuni'r adborth a gafwyd gan lywodraethau lleol ar draws Cymru? Ac a ydych yn credu y byddai'n adeg dda i fynd yn ôl i'r cychwyn a chyflwyno cynigion y gall awdurdodau lleol eu hunain eu cefnogi, gan edrych efallai ar y posibilrwydd o undeb agosach o fewn llywodraeth leol, cydweithrediad cryfach, a rhoi uno gwirfoddol yn ôl ar yr agenda, gan fod rhai awdurdodau lleol wedi edrych ymlaen at ddilyn y trywydd hwnnw?
I ateb ei gwestiwn olaf, wrth gwrs, uno gwirfoddol oedd opsiwn 1. Felly, mae'r Papur Gwyrdd yn dweud hynny'n glir. Ac yn sicr, rwyf wedi dweud ar sawl achlysur mai fy niben yw ceisio cytundeb lle bynnag y bo modd yn hytrach na gorfodi.
Rwyf wedi amlinellu gweledigaeth yn y lle hwn ac mewn mannau eraill, o lywodraeth leol gryfach, fwy grymus gyda mwy o bwerau a mwy o allu i ddylanwadu ar ddyfodol y cymunedau y mae'n ceisio eu cynrychioli. Nid wyf yn dymuno lleihau llywodraeth leol mewn unrhyw ffordd. Fy amcan yw cryfhau llywodraeth leol, ac mae'r Llywodraeth hon wedi diogelu cyllid llywodraeth leol yn gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi gweithio gyda llywodraeth leol er mwyn diogelu gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus ac er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r modd y darparir y gwasanaethau hynny. Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw ceisio consensws, neu geisio cytundeb, ynglŷn â sut yr awn ati i wneud hynny yn y dyfodol.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch llywodraeth leol Cymru ar y ffordd y maent wedi ymdopi â'r lleihad yn y cymorth gan Lywodraeth Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn ac ar ansawdd y ddarpariaeth y maent yn ei darparu er gwaethaf y toriadau hynny? Ac a wnaiff ymrwymo i gydweithio â llywodraeth leol Cymru yn yr un modd â'i ragflaenydd?
Buaswn bob amser yn ceisio cydweithredu â llywodraeth leol, ac rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru hanes rhagorol o wneud hynny—gadewch i mi ddweud hyn. Ond rwyf hefyd am ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn llywodraeth leol rhag elfennau gwaethaf y polisi cyni a fabwysiadwyd ar draws y ffin yn Lloegr. Gwn fod gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe ddiddordeb mawr yn y materion hyn, a bydd yn ymwybodol nad oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru wedi dioddef yr un lefel o doriadau ag a welwyd ar draws y ffin yn Lloegr, ac mae angen i ni gydnabod hynny. Ond wrth gwrs, rydym eisiau gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol. Ond yr hyn y buaswn yn hoffi ei wneud yw gweithio'n gydweithredol er mwyn cyflawni'r weledigaeth orau bosibl ac nid y lefelau isaf sy'n ofynnol yn unig.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i ganmol gwaith brwd cynghorau Cymru ar hyd a lled y wlad, fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn etholaeth Islwyn, sy'n parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cryf bob dydd yn wyneb toriadau dramatig i'w cyllidebau, diolch i Lywodraeth Dorïaidd y DU? Toriadau real o un flwyddyn i'r llall i Gymru ers 2010. A chyda hyn mewn golwg, pa sicrwydd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi er mwyn sicrhau y bydd lleisiau profiadol arweinwyr llywodraeth leol, fel arweinydd Cyngor Caerffili, Dave Poole, yn cael eu clywed a'u parchu wrth iddynt reoli'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu, yn enwedig mewn cyfnod mor anodd er gwaethaf amddiffyniad Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol? Ac a wnaiff barhau i weithio gydag arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd â menyw, Debbie Wilcox, wrth y llyw am y tro cyntaf, i barhau i ddarparu ar gyfer Cymru?
Yn sicr. Cyfarfûm â Debbie yr wythnos diwethaf am sgwrs ynglŷn â'n gweledigaeth o lywodraeth leol wedi'i grymuso a'i chryfhau yn y dyfodol, ac rwy'n cyfarfod â hi eto yfory yn y cyngor partneriaeth er mwyn parhau â'r sgyrsiau hynny.
Hefyd rwyf wedi cael sgyrsiau cadarnhaol iawn, a phleserus os caf ddweud, gyda'r Cynghorydd Poole, arweinydd Caerffili. Credaf ei bod yn deg dweud ei fod yn cytuno â llawer iawn o'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a'i fod yn cydnabod nad yw'r strwythurau cyfredol yn gynaliadwy. Credaf fod y rhan fwyaf o arweinwyr awdurdodau lleol yn deall nad yw'r strwythurau cyfredol sydd gennym mewn llywodraeth leol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, beth bynnag am y problemau gyda'r amlen ariannol sydd ar gael i ni.
Yr hyn rwy'n ceisio ei wneud yn awr yw cynnal sgwrs ynglŷn â sut y byddwn yn cryfhau llywodraeth leol yn y dyfodol. Nid yw proses y Papur Gwyrdd a'r ddadl a'r sgwrs rydym yn ei chael yn ymwneud â thanseilio a lleihau rôl llywodraeth leol, ond yn hytrach, mae'n ymwneud â chryfhau rôl llywodraeth leol i fod yn fwy pwerus yn y dyfodol nag y bu yn y gorffennol.