'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl'

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:51, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

I ateb ei gwestiwn olaf, wrth gwrs, uno gwirfoddol oedd opsiwn 1. Felly, mae'r Papur Gwyrdd yn dweud hynny'n glir. Ac yn sicr, rwyf wedi dweud ar sawl achlysur mai fy niben yw ceisio cytundeb lle bynnag y bo modd yn hytrach na gorfodi.

Rwyf wedi amlinellu gweledigaeth yn y lle hwn ac mewn mannau eraill, o lywodraeth leol gryfach, fwy grymus gyda mwy o bwerau a mwy o allu i ddylanwadu ar ddyfodol y cymunedau y mae'n ceisio eu cynrychioli. Nid wyf yn dymuno lleihau llywodraeth leol mewn unrhyw ffordd. Fy amcan yw cryfhau llywodraeth leol, ac mae'r Llywodraeth hon wedi diogelu cyllid llywodraeth leol yn gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi gweithio gyda llywodraeth leol er mwyn diogelu gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus ac er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r modd y darparir y gwasanaethau hynny. Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw ceisio consensws, neu geisio cytundeb, ynglŷn â sut yr awn ati i wneud hynny yn y dyfodol.