Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 9 Mai 2018.
Ie, credaf ei bod yn gywir y gall llawer o bobl ennill mwy o arian o bosibl drwy gael gyrfa mewn meysydd fel adeiladu yn hytrach na dilyn llwybr addysg brifysgol, efallai, oherwydd mae'r fantais ariannol o gael gradd yn gyfyngedig y dyddiau hyn gan fod cynifer o bobl yn meddu ar radd prifysgol mewn gwirionedd. Felly, o ystyried yr hyn rydych newydd ei ddweud—ac rwy'n tueddu i gytuno â byrdwn cyffredinol yr hyn a ddywedoch chi—i ba raddau rydych yn cysylltu gyda'r Gweinidog addysg, ac Eluned Morgan hefyd, o bosibl, y Gweinidog sgiliau, i gydgysylltu dull o weithredu fel bod mwy o bobl ifanc yn cael eu hannog i gael gyrfa mewn meysydd fel adeiladu yn y dyfodol?