Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Buaswn yn dweud bod gwerth mewn dysgu a phrofiad prifysgol bob amser, ond mae angen i ni wneud mwy i sicrhau bod parch cydradd rhwng sgiliau academaidd a sgiliau mwy ymarferol yn ogystal. Felly, yn sicr, mae mwy waith i'w wneud o ran canfyddiadau o yrfaoedd ym maes adeiladu a meysydd eraill, a gallaf gadarnhau fy mod wedi bod yn gweithio'n agos gydag Eluned Morgan yn ei rôl cyflogadwyedd er mwyn sicrhau bod tai'n darparu llwyfan i bobl ifanc gael cyfle i weithio yn y diwydiant tai ac adeiladu, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnig dilyniant a chyfleoedd a rhagolygon gwaith da ar gyfer y dyfodol.