Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, oherwydd mae sicrhau llesiant yn ein holl bolisïau yn amlwg yn her fawr a fydd yn wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Bydd angen cyfres o fesurau canlyniadau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a fydd, yn eu tro, yn eu helpu i roi ffocws clir ar lesiant cymunedol.
Fel y byddwch yn deall, mae gan wasanaethau cyhoeddus gyfrifoldeb cyfunol enfawr i ddarparu cartrefi, hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant a sicrhau bod y GIG yn parhau i drawsnewid i fod yn wasanaeth llesiant yn hytrach na gwasanaeth afiechyd yn unig. A ydych yn cytuno, felly, yn arbennig yn y cyfnod hwn o gyni, fod yn rhaid cefnogi llesiant personol a chymunedol, nid yn unig fel syniad haniaethol ond fel ysgogiad economaidd allweddol yn ein cymunedau, ac y dylem roi llawer mwy o bwyslais ar gyflawni cyfres o fesurau canlyniadau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy'n rhoi ffocws clir ar lesiant cymunedol a fydd yn gwella bywydau pobl yn awr ac yn y dyfodol?