Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 9 Mai 2018.
Lywydd, a gaf fi ddweud cymaint rwy'n cytuno â chynsail y cwestiwn a'r egwyddorion y mae'n seiliedig arnynt? Mewn sawl ffordd, credaf mai gwasanaethau cyhoeddus yw sylfaen ein gwareiddiad. Mae sut yr ymdriniwn â phobl a sut y darparwn wasanaethau ar gyfer, weithiau, y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, yn dweud cyfrolau am bwy ydym fel gwlad a phwy ydym fel pobl.
Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n cytuno â'r hanfodion sy'n sail i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer darparu dull mwy cyfannol o ddeall sut i sicrhau gwelliannau yn ein cymunedau. Hoffwn weld sut y gallwn ddod â dangosyddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol at ei gilydd i ddarparu darlun llawer mwy cyfoethog o sut y deallwn ein cymunedau yn y dyfodol, ac edrychaf ymlaen at weld a darllen y nodau llesiant a'r polisïau llesiant sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, a pha mor bell y mae awdurdodau lleol ac eraill yn gallu dod tuag at gyflawni'r weledigaeth honno a'r uchelgais hwnnw.