Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 9 Mai 2018.
Un o'r nodau llesiant yw creu Cymru iachach. Yn ôl Diabetes UK Cymru, mae Cymru'n wynebu epidemig diabetes tra bod adroddiad blynyddol diweddaraf y Rhaglen Mesur Plant Cenedlaethol yn dangos bod mwy na chwarter y plant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar rôl gwasanaethau cyhoeddus wrth fynd i'r afael â gordewdra a diabetes, gan helpu i gyrraedd y nod o sicrhau Cymru iachach yn y dyfodol? Diolch.