'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl'

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:52, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Buaswn bob amser yn ceisio cydweithredu â llywodraeth leol, ac rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru hanes rhagorol o wneud hynny—gadewch i mi ddweud hyn. Ond rwyf hefyd am ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn llywodraeth leol rhag elfennau gwaethaf y polisi cyni a fabwysiadwyd ar draws y ffin yn Lloegr. Gwn fod gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe ddiddordeb mawr yn y materion hyn, a bydd yn ymwybodol nad oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru wedi dioddef yr un lefel o doriadau ag a welwyd ar draws y ffin yn Lloegr, ac mae angen i ni gydnabod hynny. Ond wrth gwrs, rydym eisiau gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol. Ond yr hyn y buaswn yn hoffi ei wneud yw gweithio'n gydweithredol er mwyn cyflawni'r weledigaeth orau bosibl ac nid y lefelau isaf sy'n ofynnol yn unig.