Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 9 Mai 2018.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i ganmol gwaith brwd cynghorau Cymru ar hyd a lled y wlad, fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn etholaeth Islwyn, sy'n parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cryf bob dydd yn wyneb toriadau dramatig i'w cyllidebau, diolch i Lywodraeth Dorïaidd y DU? Toriadau real o un flwyddyn i'r llall i Gymru ers 2010. A chyda hyn mewn golwg, pa sicrwydd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi er mwyn sicrhau y bydd lleisiau profiadol arweinwyr llywodraeth leol, fel arweinydd Cyngor Caerffili, Dave Poole, yn cael eu clywed a'u parchu wrth iddynt reoli'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu, yn enwedig mewn cyfnod mor anodd er gwaethaf amddiffyniad Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol? Ac a wnaiff barhau i weithio gydag arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd â menyw, Debbie Wilcox, wrth y llyw am y tro cyntaf, i barhau i ddarparu ar gyfer Cymru?