Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:44, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gwnaethoch ddatganiad yr wythnos diwethaf ar dai cost isel yng Nghymru—perchentyaeth cost isel, dylwn ddweud, yn benodol—ac fe gawsom drafodaeth ddiddorol, roeddwn yn teimlo, yn dilyn hynny ac fe gafodd nifer o faterion eu codi. Un ohonynt oedd y posibilrwydd fod rhenti yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru, mewn rhai achosion, yn codi'n gyflymach na'r rheini yn y sector rhentu preifat. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn ystyried honno'n broblem arbennig ar hyn o bryd.