Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 9 Mai 2018.
Credaf fod gennym oll gyfrifoldeb i wella iechyd ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n falch iawn o glywed fy mod wedi ymrwymo i ddigwyddiad milltir ddyddiol mewn ysgol yn fy nghymuned sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn—efallai y bydd yn cymryd mwy na diwrnod i mi ei gwblhau, ond yn sicr dyna fy uchelgais. Credaf fod gennym oll gyfrifoldeb i fynd i'r afael â'r materion hyn.
A gadewch i mi ddweud hyn: gan siarad, efallai, fel Aelod dros Flaenau Gwent, pan ymladdais fy etholiad cyntaf yn yr etholaeth, teimlwn mai'r economi oedd dechrau a diwedd y materion a oedd yn ein hwynebu fel cymuned. Pe bawn yn sefyll am y tro cyntaf unwaith eto, buaswn yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd ac yn canolbwyntio ar rai o'r heriau iechyd cyhoeddus go iawn sydd gennym yn y gymuned rwy'n ei chynrychioli ac mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Credaf fod mynd i'r afael â'r materion sylfaenol hynny sy'n ymwneud â iechyd y cyhoedd yn benderfynydd allweddol i ddangos a yw'r nodau, y dangosyddion a'r cerrig milltir llesiant cenedlaethol yn llwyddiant go iawn ar gyfer ein cymunedau.